Cyrff Rheoli

Clybiau Chwaraeon Cymru

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) drwy gyfrwng y "Fframwaith ar gyfer Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol" yn cydnabod mai:

"Sylfaen y strwythurau domestig yw’r clybiau...Felly, bydd CChC yn canolbwyntio ar hyfforddi, datblygiad athletwyr yn yr hirdymor a datblygiad clwb."

Mae Adran Gwasanaethau’r Cyrff Rheoli Cenedlaethol (GCRhC) wedi datblygu gwefan i ddarparu i Gyrff Rheoli Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol, clybiau chwaraeon a chlybiau gweithgarwch corfforol lu o sefydliadau / unigolion eraill gyda chyfarwyddyd ymarferol clir a chyngor defnyddiol ar gyfer pethau megis:

  • Sut i sefydlu clwb newydd – canllaw cam wrth gam o bethau i’w hystyried;
  • Sut i wella / datblygu clwb presennol;
  • Adnoddau / templadau / polisïau i’w llwytho – e.g. cyfansoddiadau, swydd-ddisgrifiadau, cynlluniau gweithredu clybiau, gwybodaeth am les;
  • Cymorth ynghylch sut i ganfod clwb / cyfleusterau yn ardal eu ALl;

Cyngor ynghylch sut i recriwtio / dal gafael ar wirfoddolwyr / cynorthwywyr ar gyfer clwb.

Amcan gwefan Clybiau Chwaraeon Cymru yw helpu i sefydlu mwy o glybiau a gwneud y clybiau presennol yn well clybiau. Mae’r wefan yn cynnwys 2 brif adran:

  • ‘Dechrau a Datblygu Eich Clwb’
  • ‘Mynd â’ch Clwb Ymhellach’

Ym mhob adran fe welwch destun syml yn egluro’r is-adrannau a ganlyn i gyd:

  • Aelodau;
  • Hyfforddiant;
  • Gwirfoddolwyr;
  • Rhaglen Chwarae;
  • Cyfleusterau;
  • Rheoli Eich Clwb;
  • Lles;
  • Tegwch i Bawb.

Mae adnoddau i’w llwytho ar gael yn y wefan hefyd, ar gyfer pob is-adran, ynghyd â chysylltiadau ag ALl’au a CRhC.

Agorodd gwefan Clybiau Chwaraeon Cymru yn fyw ym mis Gorffennaf 2007. I weld y wefan cliciwch yma.