Cyrff Rheoli

Datblygiad Clwb

Amcangyfrifir bod mwy na 4,638 o glybiau chwaraeon yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gan glybiau ran allweddol i’w chwarae mewn gweithredu startegaethau chwaraeon cenedlaethol yn lleol, gan gefnogi’r potensial i ddatblygu chwaraewyr.

Tynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru sylw yn y ddogfen "Dringo’n Uwch" at yr amcan o:

  • cynyddu aelodaeth plant o glybiau i 80%;
  • cynyddu aelodaeth oedolion o glybiau i 40%.

Adnoddau ac Ariannu:

Am ragor o wybodaeth ar y cyllid sydd ar gael i ddatblygiad clybiau cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth sut i ddatblygu eich clwb cliciwch yma.

Beth yw rôl Cyngor Chwaraeon Cymru ?

Adolygu a diwygio is-strwythur clybiau

  • Casglu a defnyddio gwaith ymchwil a gwybodaeth er mwyn creu darlun yn seiliedig ar wybodaeth o’r sefyllfa gyfredol
  • Creu mwy o ymwybyddiaeth o enghreifftiau o arfer dda mewn perthynas â gweithrediadau clwb effeithiol yng Nghymru
  • Cymryd camau i adolygu a diwygio is-strwythur clybiau er mwyn hwyluso cyfranogiad oes.

Pwy arall sy’n chwarae eu rhan ?

Cyrff Rheoli

  • darparu arweiniad clir i aelodau clybiau
  • sefydlu rhaglen ddatblygu clybiau a modelau o arfer dda
  • cysylltu strwythurau cystadlu â strategaeth ar gyfer llwyddiant ar lefel genedlaethol

Awdurdodau Lleol

  • gwarantu defnydd o gyfleusterau am gyfnod hirdymor
  • cydnabod a gweithio gyda chlybiau chwaraeon fel partner gwerthfawr i’w helpu i gyflwyno a datblygu chwaraeon
  • hwyluso gweithdai a seminarau ymhlith grwpiau o glybiau, i gynyddu cydweithrediad a sicrhau defnydd mwy effeithiol o adnoddau prin.