Cyrff Rheoli

Is-Strwythur Cartref

Mae strwythurau cartref cryf yn darparu cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth eang o safonau perfformio a fframwaith i unigolion talentog ddatblygu oddi mewn iddo:

Strwythur Cartref Cryf

Sylfaen y strwythur cartref yw’r clwb, sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac sy’n darparu cyfrwng i drawsnewid gweithgarwch corfforol yn chwaraeon cystadleuol. Dim ond drwy gyfrwng clybiau gwirfoddol ffyniannus y llwyddir i gynyddu diddordeb mewn cymryd rhan mewn chwaraeon, gan sicrhau bod pobl ieuainc yn dal ati i gymryd rhan mewn gweithgarwch pan yn oedolion. Bydd clybiau’n elwa o gefnogaeth gynyddol i hyfforddi ac addysgu gwirfoddolwyr a datblygu hyfforddwyr. Bydd yn llafurus iawn i adolygu ac, yn arbennig, newid agweddau ar y strwythurau cartref. Felly, bydd CChC yn canolbwyntio ar hyfforddiant, datblygiad athletwyr yn yr hirdymor a datblygiad clwb.

Mae’r adran hon yn cynnwys is-adrannau pellach yn rhoi sylw i’r materion a ganlyn:

Datblygu Clybiau

Clybiau Chwaraeon Cymru

Hyfforddi