Cyrff Rheoli

Cyrff Rheoli

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid ond er mwyn cyflawni amcanion a nodau perfformiad a rhagoriaeth, ei brif bartneriaid yw’r Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol (CRhC). Mae CRhC effeithlon ac effeithiol yn rhan hanfodol o lwyddiant mewn chwaraeon. Rydym yn dadlau bod gan gorff rheoli llwyddiannus dair nodwedd hanfodol – gweler y diagram isod. Mae chwaraeon yng Nghymru angen cyrff rheoli llwyddiannus a bydd CChC yn gweithio i gefnogi cyrff rheoli fel eu bod yn gallu sicrhau’r tair nodwedd hanfodol gyda phartneriaid allweddol.

Nodweddion corff rheoli llwyddianannus

Mae gan CChC dri phrif amcan wrth gefnogi’r agenda perfformiad a rhagoriaeth:

  • cynnal ac ehangu’r sylfaen berfformio;
  • cynnal a gwella cyfleoedd, strwythurau a safonau ym mhob rhan o’r pyramid perfformiad / rhagoriaeth (isod);
  • codi safonau unigolion a thimau sy’n cystadlu ar lefel ryngwladol.

Y Pyramid Datblygu Chwaraeon

Mae’r amcanion hyn yn rhyngddibynnol ac yn sail iddynt mae nifer o nodau sydd, gyda’i gilydd, yn arwain at welliant yn yr is-strwythur chwaraeon drwy ddatblygu pobl, sefydliadau a chyfleusterau. Er mwyn cyflawni’r amcanion perfformiad a rhagoriaeth, bydd raid i ni weithio gyda phartneriaid i sicrhau:

  • aelodaeth gynyddol o glybiau a chyrff rheoli;
  • cynyddu nifer y gwirfoddolwyr;
  • cynyddu nifer yr hyfforddwyr a chodi eu safonau;
  • cynyddu nifer y swyddogion a hyfforddir (e.e. dyfarnwyr);
  • cynyddu nifer y gweinyddwyr ar bob lefel mewn chwaraeon;
  • sicrhau bod cyfleusterau gwell ar gael yn fwy cyfleus;
  • cystadlaethau priodol;
  • adnabod a datblygu talent;
  • sicrhau bod gwasanaethau cefnogi ar gael yn fwy cyfleus (e.e. gwyddoniaeth chwaraeon).

Cefnogir nifer o’r nodau hyn drwy ddatblygu pobl a mannau a thrwy gynyddu lefelau cyfranogiad, tra bydd eraill yn cael sylw penodol drwy gyfrwng rhaglenni i gefnogi perfformiad a rhagoriaeth mewn chwaraeon ac, yn arbennig, model penodol i athletwyr yn datblygu chwaraeon.

Am gyswllt gyda phob Corff Rheoli, cliciwch yma.