Chwaraeon Anabledd
Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru (FfChAC) yn sefydliad pan-anabledd sy’n ceisio hybu a datblygu cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Mae’r Ffederasiwn yn cynnwys Sefydliadau Chwaraeon Anabledd Cenedlaethol (SChACau) a grwpiau chwaraeon-benodol. Cynrychiolir Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar y Pwyllgor Gweithredol, a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Mae FfChAC yn cyfrannu at amcanion strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol Llywodraeth Cynulliad Cymru, ‘Dringo’n Uwch’, a rhaglen Her Iechyd Cymru, drwy ganolbwyntio mwyafrif ei ymdrechion drwy gyfrwng y rhaglenni cenedlaethol a ganlyn:
- Menter ar y cyd rhwng FfChAC, Cyngor Chwaraeon Cymru ac Awdurdodau Lleol, sef rhaglen Gymunedol Chwaraeon Anabledd Cymru. Ei nod yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol o safon yn eu cymunedau i bobl ledled Cymru.
- Rhaglen Academi Chwaraeon Anabledd Cymru, sy’n cefnogi datblygiad athletwyr talentog er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial mewn chwaraeon.
- Rhaglen Perfformiad Cenedlaethol yn cefnogi perfformwyr anabl elitaidd.
- Gwasanaeth Addysg a Hyfforddiant i gefnogi datblygiad chwaraeon anabledd yng Nghymru.
Mae FfChAC yn sicrhau bod ei raglenni’n gwbl gynhwysol, gan gynnig cyfle i unigolion chwarae rôl lawn ac egnïol yn eu cymunedau chwaraeon, tra’n darparu ‘llwybr’ strwythuredig ar yr un pryd, er mwyn i berfformwyr talentog allu datblygu i’w llawn botensial.
Am ragor o wybodaeth ar Chwaraeon Anabledd Perfformiad Uchel cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth ar Chwaraeon Anabledd yn y gymuned cliciwch yma.
