Hyfforddiant
Felly mae gennych ddiddordeb mewn hyfforddi chwaraeon; mae hynny’n newyddion gwych! Mae hyfforddwyr yn allweddol i chwaraeon yng Nghymru: rydych yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau bod pobl yn cael eu denu at chwaraeon, yn mwynhau chwaraeon ac yn parhau i gymryd rhan am oes.
Ar gyfer eich holl ymholiadau ynghylch hyfforddi, pa un ai oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr neu eisoes yn hyfforddwr ac eisiau gwybodaeth bellach ynghylch perffeithio eich sgiliau, dilynwch y cyswllt isod i’ch cyfeirio at safle penodol y Cyngor ar hyfforddi.
Bydd www.hyfforddiantcymru.com yn dangos i chi beth mae hyfforddi’n ei olygu a sut i ddechrau arni. Yn syml iawn, mae’n rhoi 2 opsiwn i chi:-
- ble i ddechrau ar gwrs; neu
- gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau hyfforddi.
Bydd y wefan yn eich cyfeirio at y sefydliadau angenrheidiol ac yn gwasanaethu fel arf derbyniol ar gyfer datblygu eich hyfforddiant.
Yma cewch weld manylion llawn Gweithdai Hyfforddi Gwanwyn 2008.
