YSGOL YNG NGHAERFFILI AR FRIG Y DOSBARTH
3 Chwef 2010
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dyrchafu Ysgol Gyfun Gymunedol Yr Isga yng Nghaerffili i frig y dosbarth am ei hymdrechion gradd A i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Cipiodd yr ysgol wobr Ysgol y Mis ar gyfer mis Chwefror – gwobr a roddir gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weithredu’n lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Diben 5x60 yw cael disgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol i fod yn fwy egnïol yn amlach ac mae’r cynllun yn sicr yn sgorio marciau uchel. Yn wir, mae 98% o’r holl ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.
Mae bron i hanner disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Yr Isga wedi rhoi cynnig ar weithgareddau 5x60 ers i’r cynllun gyrraedd yr ysgol fis Medi 2008 a gyda gweithgareddau newydd ar yr amserlen ar gyfer eleni, mae disgwyl i lawer mwy gofrestru.
Mae llu o weithgareddau’n cael eu cynnig yn yr ysgol, yn cynnwys codi hwyl mewn gemau, badminton, pêl fasged i ferched, pêl droed i ferched, golff, cicfocsio, aerobics, caiacio, dawns a thenis bwrdd, gyda badminton a chodi hwyl mewn gemau’n profi fwyaf poblogaidd.
Ac mae’r disgyblion yn hyrwyddo’r cynllun yn sicr,
"Rwy’n meddwl ei fod yn syniad da cael y clybiau chwaraeon gan eu bod yn ein cadw’n heini ac yn ddiddig," meddai Lucy Hurrell.
"Rwy’n mwynhau pêl droed, hoci, pêl rwyd a phêl fasged ac rwy’n meddwl ei bod yn dda iawn bod y bechgyn a’r merched yn cael cyfle i roi cynnig ar y chwaraeon i gyd," meddai Sophie Wallington.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister:
"Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol. Yr her yn awr yw agor drysau’r ysgolion ar gyfer 5x60 ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwyddiant sefydliadau fel yr ysgol yn Yr Isga’n gosod y sylfeini ar gyfer nod hirdymor Cyngor Chwaraeon Cymru o sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r ieuenctid hyn yn symud ymlaen i fod yn oedolion sy’n byw’n iach."
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod mwy o ieuenctid ledled Cymru’n estyn am eu hesgidiau ymarfer er mwyn cymryd rhan yn 5x60. Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu hysgol ar gyfer Ysgol y Mis 5 x 60.
