Newyddion Diweddaraf

ARWEINYDD AWYDDUS SIR DDINBYCH YN DERBYN TEITL ANRHYDEDDUS

2 Chwef 2010

Mae George Owen, sy’n gweithio yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ac Ysgol Uwchradd St Brigid’s yn Ninbych, wedi cael ei gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru am ei ymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.

Wedi’i enwi’n Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Chwefror, dim ond un yw George o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Sir Ddinbych, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Mae’r gŵr ifanc 24 oed o Ddyserth, sydd â gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon a chymhwyster TAR mewn Adddysg Gorfforol mewn Ysgolion Uwchradd, wedi darbwyllo llu o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60.

NU7C0478Ac yntau ond yn y swydd ers mis Medi 2009, mae eisoes wedi cyflwyno amserlen o 14 o weithgareddau yn Ysgol Uwchradd Prestatyn, yn cynnwys pêl osgoi, marchogaeth ceffylau a thrampolinio, a hyd at ddeg o weithgareddau yn Ysgol St Brigids, gyda phêl droed, ffensio ac aerobics yn profi’n fwyaf poblogaidd.

Meddai: "Mae 5x60 wedi cael effaith bositif yn y ddwy ysgol, gan ddarparu cyfleoedd rhagorol i ddisgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau. Mae hefyd wedi bod o gymorth i’r ysgolion ffurfio cysylltiadau â chlybiau a chyfleusterau lleol, yn ogystal â rhoi cyfle i’r disgyblion hŷn hyfforddi.

"Rwy’n mwynhau darparu amrywiaeth o weithgareddau sy’n apelio at amrywiaeth o ddisgyblion o bob oedran, rhyw a gallu. Rwy’n cael boddhad mawr o weld y disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan fel arfer yn cael hyd i rywbeth maent yn ei fwynhau," ychwanegodd.

Meddai Ceri Evans, y Pennaeth AG yn Ysgol Uwchradd Prestatyn:

"Mae’r fenter 5x60 wedi gwneud cyfraniad mawr a phositif iawn at ein rhaglen allgyrsiol a oedd eisoes yn boblogaidd. Mewn ysgol o 1800 o ddisgyblion a chyda chyfleusterau cyfyngedig iawn, mae 5x60 wedi gwella ein darpariaeth ar gyfer y disgyblion.

"Yn ogystal â pharhau i gynnig amrywiaeth traddodiadol yr adran AG o chwaraeon, mae 5x60 wedi gallu ehangu natur y gweithgareddau a darparu hyfforddiant penodol mewn amrywiaeth eang o weithgareddau."

Meddai Callum Perrin o Flwyddyn 8:

"Rwy’n meddwl bod 5x60 yn syniad da er mwyn cael pobl ieuainc i fod yn egnïol. Rwyf i’n hoffi tenis bwrdd oherwydd mae’n weithgaredd y gallaf ei wneud yn ystod amser cinio, fel nad ydw i’n diflasu o gwbl. Rwy’n mwynhau marchogaeth ceffylau oherwydd rwyf wedi bod eisiau ei wneud ers tro byd ond doeddwn i ddim yn gallu fforddio. Mae cymryd rhan drwy 5x60 wedi sicrhau fy mod yn gallu ei fforddio."

Wrth ei bodd gyda llwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Athro Laura McAllister:

"Rydym ni yn y Cyngor Chwaraeon yn ymroddedig i’n nod o sicrhau bod pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes. Mae’r amrywiaeth eang o weithgareddau cyffrous sydd ar gael i’n pobl ieuainc drwy gyfrwng y cynllun 5x60, a gyflwynir gan ein hasedau gorau – pobl ymroddedig fel George – yn cyfrannu’n helaeth iawn at ein helpu i wireddu’r ucheglais hwn."

Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.