ARWEINYDD BRWD O GAERDYDD YN DERBYN TEITL ANRHYDEDDUS
14 Ion 2010
Mae Gareth Power, sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd, wedi cael ei gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru am ei ymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Wedi’i enwi’n Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Ionawr, dim ond un yw Gareth o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Caerdydd, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae’r llanc 27 oed o Gasnewydd, sydd wedi cynrychioli Cymru mewn athletau pan yn iau, wedi darbwyllo llu o ddisgyblion yr ysgol i gamu oddi ar y llinell ochr ac i gymryd rhan yn sesiynau gweithgarwch 5x60.
Mae wedi bod yn y swydd ers dros ddwy flynedd a’r llynedd yn unig fe gyflwynodd amserlen o 25 o wahanol weithgareddau, o Jiu Jitsu yn arddull Brasil a sglefrio iâ i weithgareddau mwy traddodiadol fel tenis bwrdd a badminton.
Meddai, "Mae 5x60 wedi cynnig i’r disgyblion rywbeth ychwanegol i edrych ymlaen ato yn yr ysgol ac mae’n cael ei ddefnyddio i helpu gyda chymell y disyblion i weithio’n galed ac i fynd i’r afael â phroblemau ymddygiad. Mae cannoedd o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn cymryd rhan yn y cynllun 5x60 ac maent wedi cael cyfle i berffomrio i’r ASau yn y Senedd, i gael eu hyfforddi gan bencampwyr Gemau’r Gymanwlad a pherfformwyr rhyngwladol ac maent wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau mawr fel Gemau Ysgolion y DG, yr Ŵyl Cadair Olwyn Fawreddog a Phencampwriaethau Dawns UDO."
Meddai Rachel Pursglove, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, am lwyddiant 5x60 yn yr ysgol,
"Mae 5x60 wedi cynnig i’r disgyblion opsiynau amgen a diddorol er mwyn gwella eu hiechyd a’u ffitrwydd. Fe wneir pob ymdrech i sicrhau bod gweithgareddau poblogaidd ar gael fel bod canran helaeth o’r disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Rydym yn eithriadol ffodus bod gennym Swyddog 5x60 sydd mor ymroddedig. Mae Gareth yn uchel iawn ei barch yn yr ysgol, ac yn hynod boblogaidd. Mae’n unigolyn caredig iawn ei natur."
Ac mae’r disgyblion yn canmol eu Swyddog 5x60 yn fawr hefyd.
Wrth ei fodd gyda llwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru’n llwyddo i hudo’r disgyblion oddi ar y llinellau ochr ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gweithgareddau fel codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd a golff Frisbee yn annog hyd yn oed y rhai mwyaf amharod ac yn gweithredu fel llwybr at chwaraeon eraill mwy traddodiadol a ffordd o fyw egnïol."
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.
