Newyddion Diweddaraf

ARWEINYDD AWYDDUS CEREDIGION YN DERBYN TEITL ANRHYDEDDUS

1 Rhag 2009

Wedi’i henwi’n Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Rhagfyr, dim ond un yw Nia o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Sir Ceredigion, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Mae’r ferch 25 oed o Dregaron, sydd wedi’i henwi’n Chwaraewraig y Flwyddyn gan ei chlwb pêl droed am ddwy flynedd yn olynol, wedi darbwyllo llu o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60.

Mae wedi bod yn y swydd ers dros ddwy flynedd ac wedi cyflwyno nifer helaeth o weithgareddau allgyrsiol yn yr ysgolion yn ystod y cyfnod hwnnw, gyda phêl osgoi, pêl droed, badminton a dawns y glocsen yn profi fwyaf poblogaidd.

Meddai, "Mae 5x60 wedi darparu mwy o gyfleoedd i bawb yn yr ysgol fod yn heini, a chael hwyl ar yr un pryd! Mae mwy o ddisgyblion nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol yn egnïol yn awr ac yn gweld y manteision sydd i’w cael o gymryd rhan. Maent yn magu hyder, yn gwella eu gallu ac yn gwneud ffrindiau newydd yr un pryd."

Meddai Rob Evans, Pennaeth AG Ysgol Uwchradd Aberteifi:

"Mae 5x60 wedi bod yn gymorth aruthrol i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon na fyddai gan yr athrawon AG amser i roi sylw iddynt. Mae wedi bod o fantais fawr i’r ysgol o ran y cyfleoedd ac mae wedi helpu i greu ysbryd cymunedol ymhlith y staff a’r disgyblion. Mae wedi bod yn arbennig o braf gwylio’r disgyblion hŷn yn helpu’r rhai iau i ddysgu a gwneud cynnydd mewn nifer o wahanol chwaraeon a chwaraeon llai traddodiadol, drwy fod yn rhan o dîm 5x60 o wirfoddolwyr."

Ac mae’r disgyblion yn hybu enw da eu Swyddog 5x60 hefyd.

Meddai Jack Thomas, disgybl ym Mlwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi:

"Rwy’n hoffi pêl droed oherwydd rydym i gyd yn cael cyfle i chwarae, a dydyn ni heb golli eto!"

Meddai Alisha Nixon, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Aberteifi:

"Mae 5x60 yn ein cadw ni’n brysur yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol ac rydym yn cael cyfle i chwarae’n erbyn ysgolion eraill. Mae’n grêt!"

Wrth ei fodd gyda llwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru’n llwyddo i hudo’r disgyblion oddi ar y llinellau ochr ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gweithgareddau fel codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd a golff Frisbee yn annog hyd yn oed y rhai mwyaf amharod ac yn gweithredu fel llwybr at chwaraeon eraill mwy traddodiadol a ffordd o fyw egnïol."

Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.