COLEG YN Y RHONDDA AR FRIG Y DOSBARTH
1 Rhag 2009
Cipiodd y coleg wobr Ysgol y Mis ar gyfer mis Rhagfyr – gwobr a roddir gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weithredu’n lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Diben 5x60 yw cael disgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol i fod yn fwy egnïol yn amlach ac mae’r cynllun yn sicr yn sgorio marciau uchel. Yn wir, mae 98% o’r holl ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.
Mae ychydig dan hanner y disgyblion yng Ngholeg Cymunedol Tonypandy wedi rhoi cynnig ar weithgareddau 5x60 yn ystod tymor yr hydref eleni yn unig, gan gynnal record wych ers i’r coleg gofrestru ar gyfer y cynllun bedair blynedd yn ôl.
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau’n cael eu cynnig yn y coleg, yn cynnwys pêl fasged, tenis bwrdd, badminton, beicio mynydd, codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd, trampolinio, nofio, parc sglefrio, rygbi tag a chlwb pêl osgoi i ferched a bechgyn. Tenis bwrdd, trampolinio a phêl osgoi sydd wedi profi’n ffefrynnau amlwg.
Meddai Carly Jones, y Swyddog 5x60 yn Nhonypandy:
"Ers i mi ddechrau yn y coleg fis Medi, rwyf wedi synnu’n fawr at yr ymroddiad mae rhai disgyblion yn ei ddangos tuag at 5x60. Mae pob clwb wedi denu niferoedd mawr ac mae’r sesiynau wedi datblygu’n arbennig o dda wrth i’r tymor fynd rhagddo."
Mae’r disgyblion yn Nhonypandy wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau a thwrnamentau niferus drwy gyfrwng 5x60, yn cynnwys: Pencampwriaethau Croesfeicio Ysgolion Cymru, twrnament Rygbi Tag Merched RhCT, Twrnament Badminton Y Rhondda a thriathlon Plant Mewn Angen 5x60.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol. Yr her yn awr yw agor drysau’r ysgolion ar gyfer 5x60 ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwyddiant sefydliadau fel y coleg yn Nhonypandy’n gosod y sylfeini ar gyfer nod hirdymor Cyngor Chwaraeon Cymru o sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r ieuenctid hyn yn symud ymlaen i fod yn oedolion sy’n byw’n iach."
Mae’r disgyblion yn Nhonypandy’n dweud eu bod yn mwynhau’r gweithgareddau 5x60 am eu bod ‘yn ein cadw ni’n heini, yn gwneud i ni wenu ac yn ein cadw allan o drwbwl’.
Meddai’r Cynghorydd Eudine Hanagan, Aelod Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes: "Rwy’n falch o glywed bod Coleg Cymunedol Tonypandy wedi derbyn gwobr Ysgol y Mis 5x60. Mae’r wobr yn dyst i safon y bobl ieuainc yn yr ysgol ac i waith caled y cydlynwyr 5x60. Mae’n braf iawn clywed bod cymaint o bobl ieuainc yn cymryd rhan yn y rhaglen ac yn dod yn fwy egnïol yn gorfforol. Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amseroedd cinio ac ar ôl ysgol."
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod mwy o ieuenctid ledled Cymru’n estyn am eu hesgidiau ymarfer er mwyn cymryd rhan yn 5x60. Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu hysgol ar gyfer Ysgol y Mis 5 x 60.
