CYNLLUN 5x60 YN CYNNIG HWYL I DDISGYBLION Y FRO
1 Rhag 2009
Mae cynllun blaengar sy’n helpu pobl ieuainc yn eu harddegau i gadw’n heini wedi dychwelyd i Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr mewn steil, diolch i olwyn hamster wynt anferth!
Mae Swyddog 5x60 newydd, Barry Cawte, wedi ymuno â’r ysgol ac un o’r gweithgareddau cyntaf mae wedi’u darparu ar gyfer y disgyblion yw cymryd rhan mewn rhedeg dŵr. Mewn golygfeydd sy’n ymdebygu’n fawr i olygfeydd allan o’r clasur o raglen ar y teledu, ‘It’s a Knockout’, mae’r ieuenctid wedi mwynhau’r her o rasio yn yr olwyn wynt anferth ar draws y dŵr heb syrthio i ffwrdd a gwlychu!
Mae’r ymarfer hwyliog, sydd hefyd yn fuddiol yn gorfforol, yn cyd-fynd yn berffaith ag amcanion y cynllun 5x60 o greu cyfleoedd pleserus i ddisgyblion ysgolion uwchradd fod yn egnïol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol am o leiaf 60 munud bum gwaith yr wythnos.
Yn ategu’r gweithgareddau a gynigir eisoes yn y gwersi AG, cyllidir y fenter gan Lywodraeth y Cynulliad a’i gweithredu gan Gyngor Chwaraeon Cymru gyda chefnogaeth leol gan dîm datblygu chwaraeon a chwarae Cyngor Bro Morgannwg.
Mae ieuenctid o bob oed yn Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr yn awyddus i ailddechrau cymryd rhan yn y cynllun, wedi ei flasu’n gynharach yn 2009. Mae Barry, Gwyddel brwd o Ddulyn sydd wedi gweithio yn y diwydiant ffitrwydd a hamdden ers deng mlynedd, hefyd yn Swyddog 5x60 newydd yn Ysgol Gyfun Y Bontfaen ac mae ganddo nifer o weithgareddau cyffrous ar y gweill i hudo’r disgyblion yn y ddwy ysgol i fod yn fwy egnïol.
Yn sgil rhedeg dŵr, bydd yr ieuenctid hefyd yn cael cyfle i roi cynnig ar chwaraeon mor amrywiol â badminton, trampolinio, ffensio, dawnsio stryd, pêl osgoi a golff Frisbee, i brofi bod ymarfer yn gallu bod yn llawer iawn o hwyl.
Meddai Barry: "Yn fy swydd newydd, rwy’n gobeithio cynnig nifer o weithgareddau cyffrous yn yr ysgolion. Gall y gweithgareddau corfforol hyn gael effaith aruthrol ar iechyd y bobl ieuainc a thrwy weithio ochr yn ochr â’r ysgolion fy nod yw sefydlu’r cynllun 5x60 fel y lle i fod cyn yr ysgol yn y bore, yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol hefyd!"
Yn hynod falch o lwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru’n llwyddo i hudo disgyblion oddi ar y llinellau ochr ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gweithgareddau fel codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd a rhedeg dŵr erbyn hyn yn annog y rhai mwyaf amharod hyd yn oed ac yn gweithredu fel drysau sy’n agor ar gyfleoedd mewn chwaraeon eraill mwy traddodiadol a ffordd egnïol o fyw."
Cewch wybodaeth bellach am y cynllun 5x60 ym Mro Morgannwg ar-lein yn www.valeofglamorgan.gov.uk/5x60 neu drwy ffonio rheolwr datblygu chwaraeon a chwarae Cyngor y Fro, Karen Davies, ar 01446 704793.
