CLWB HWYLIO A THANDDWR ABERTAWE’N SICRHAU HWB ARIANNOL GAN Y LOTERI DRWY’R CYNGOR CHWARAEON
15 Rhag 2009
Mae’r Gist Gymunedol, cynllun sy’n dathlu ei ben blwydd yn 10 oed eleni, yn gynllun grantiau gan y Loteri Genedlaethol a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth leol gan Gyngor Sir Abertawe. Ei ddiben yw annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol yn amlach.
Ers ei sefydlu yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n drwm mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi codi lefel y grant sydd ar gael. Mae’r sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru’n gallu derbyn hyd at £1000 yn awr ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis ac mae prosiect hyfforddi hyfforddwyr Clwb Hwylio a Thanddwr Abertawe’n un o’r rhai diweddaraf i elwa.
A thrwy ffrwyno’r grym i ddenu sydd gan glybiau chwaraeon yn arbennig yn y gymuned leol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynnig hwb ychwanegol iddynt yn awr drwy eu gwneud yn gymwys i dderbyn dau ddyfarniad gan y Gist Gymunedol oddi mewn i bob blwyddyn ariannol.
Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i gynyddu ein haelodaeth yn yr ardal leol yn ystod y 18 mis nesaf a bydd y cynnydd hwn mewn aelodau’n galw am hyfforddwyr ychwanegol i ddarparu hyfforddiant yn y pwll, yn yr ystafell ddosbarth ac mewn dŵr agored, yn ogystal â chynnig sgiliau eraill.
Deifwyr CHThA gyda’u siec gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru
Y brif fantais i’r ardal leol fydd gallu derbyn mwy o bobl sy’n dymuno dysgu deifio sgwba gyda ni.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal dau ddigwyddiad Rhoi Cynnig Ar Ddeifio bob blwyddyn a denodd yr achlysur Rhoi Cynnig Ar Ddeifio diweddar a gynhaliwyd ddydd Mercher y 7fed o Hydref fwy na 30 o gyfranogwyr ac, o ganlyniad, rydym wedi cofrestru 16 o bobl ar Gwrs Deifiwr Môr BSAC.
Meddai Swyddog Hyfforddiant y Clwb, Mark Evans: "Mae cyllid y Gist Gymunedol wedi darparu cyllid yr oeddem ei wir angen ar gyfer hyfforddi hyfforddwyr. Rydym angen hyfforddwyr yn strwythur y clwb i sicrhau ei oroesiad oherwydd hebddynt, ni allwn ddarparu’r hyfforddiant sydd ei angen ar gyfer aelodau deifio newydd nac i’r aelodau presennol sydd eisiau datblygu eu sgiliau deifio."
Mae clybiau chwaraeon yn rhan allweddol o fywyd cymunedol. Mae ganddynt hwy, a’r bobl sydd y tu ôl i’r llenni, gyfle i ganfod a mowldio talent ifanc i fod yn sêr y dyfodol, gan feithrin ynddynt werthoedd craidd fel gwaith caled, hunan-gred ac – yn fwy na dim – mwynhad wrth gymryd rhan yn y gamp.
Mae cyllid y Gist Gymunedol yn helpu i greu a chefnogi cyfleoedd chwaraeon newydd ar gyfer pobl ieuainc ledled Cymru gyfan. Gellir defnyddio’r cyllid i hyfforddi hyfforddwyr a gweinyddwyr, i brynu offer ar raddfa fechan ar gyfer datblygu adrannau iau, i sefydlu strwythurau cystadlu ar gyfer ieuenctid yn y gymuned, i dalu am gostau sefydlu clybiau iau ac i gefnogi digwyddiadau a gwyliau chwaraeon.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod ac mae’n parhau i fod yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Cymru. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn sicrhau ei fod yn fwy effeithiol fyth.
"Yn aml iawn, y syniadau symlaf sy’n sicrhau’r effaith fwyaf. Gan y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru mae cyllideb y cynllun ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am y syniadau a’r prosiectau blaengar sydd genny
