Newyddion Diweddaraf

HYFFORDDWR BUDDUGOL CWPAN Y BYD YN CIPIO PRIF WOBR

12 Tach 2009

Mae cyn-athro AG wedi codi i frig y tabl chwaraeon heddiw (12fed Tachwedd) wedi derbyn y wobr fwyaf anrhydeddus yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn Cyngor Chwaraeon Cymru.

Derbyniodd y gŵr sydd wrth y llyw yn y byd Rygbi Saith yng Nghymru – Paul John – wobr anrhydeddus ‘Hyfforddwr y Flwyddyn’ ynghyd â gwobr Hyfforddwr Perfformiad Uchel y Flwyddyn, mewn seremoni fawreddog yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd ei gyfraniad at rygbi yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf yn ei roi mewn sefyllfa gref yn sicr i ennill ei le ar y podiwm, wedi iddo ddod yn hyfforddwr cyntaf Cymru i arwain tîm i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd mewn unrhyw gamp.

I John, a aned ym Mhontyclun, mae rygbi wedi bod yn ei waed er pan yn ifanc iawn. Yn gwisgo ei esgidiau rygbi am y tro cyntaf erioed i chwarae dros y tîm lleol, Llanilltud Faerdref, aeth yr hanerwr ymlaen i chwarae i Glwb Rygbi Pontypridd ac i fod yn gapten arnynt, ac ennill deg cap dros ei wlad.

Wedi derbyn rôl yr Hyfforddwr Rygbi Saith Cenedlaethol fis Hydref 2008, bum mis yn ddiweddarach yn unig, roedd John yn arwain ei sgwad dewis cyntaf allan i Gwpan Rygbi Saith y Byd yn Dubai. Wedi trechu ffefrynnau’r twrnament, Seland Newydd, mewn rownd gynharach, aeth Cymru ymlaen i drechu’r Ariannin o 19-12 a chael eu coroni’n Bencampwyr Cwpan Rygbi Saith y Byd.

Wedi’i enwebu gan John Schropfer, Rheolwr Datblygu Hyfforddiant Cenedlaethol URC, mae’r cyn-chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, sy’n 39 oed, yn rhoi pob eiliad o’i amser sbâr i ddatblygu ei sgwad.

Meddai John Schropfer:

"Mae nodweddion Paul yn ei wneud yn fodel rôl delfrydol ar gyfer y chwaraewyr ieuainc sy’n dyheu am fod yn chwaraewyr proffesiynol. Mae ei arddull rymus wrth hyfforddi wedi arwain at ddatblygiad sylweddol y rhai yn ei ofal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Ef yw’r hyfforddwr rygbi cyntaf yng Nghymru sy’n gallu dweud ei fod wedi ennill Cwpan y Byd mewn Rygbi Saith. Roedd hwn yn gyflawniad anhygoel

Ac mae’n rhaid bod hyfforddi yn y gwaed oherwydd bu i’w dad, Dennis, arwain Pontypridd i fuddugoliaeth yng Nghwpan Cymru yn 1996 ac ef oedd yn gyfrifol am sicrhau coron y Bencampwriaeth iddynt yn 1997. Yna derbyniodd swydd fel hyfforddwr mewn gofal Cymru yn 1998, cyn i Graham Henry gael ei benodi.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae Paul John wedi gwneud cyfraniad aruthrol at chwaraeon Cymru, yn arbennig rygbi ac rydym wedi mwynhau ffrwyth ei lafur yn sicr gyda buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd eleni. Mae hyfforddwyr da’n ysbrydoli, yn cymell ac yn annog ac mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod eu gwaith.

"Mae’r gwobrau hefyd yn dangos bod hyfforddwyr ar lefel leol yr un mor bwysig â’r rhai sy’n gweithio gyda’r athletwyr elitaidd. Eu cyfraniad brwd hwy sy’n annog ieuenctid i gymryd rhan mewn chwaraeon, eu cymell i ddal ati a bod yn egnïol o oedran ieuanc a meithrin ynddynt werthoedd craidd gwaith caled, atebolrwydd, cred ac – yn fwy na dim – mwynhad."

Ac nid Paul John oedd yr unig hyfforddwr i fynd adref wedi derbyn canmoliaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Cafodd Malcolm Arnold, gŵr y mae ei yrfa hyfforddi wedi para mwy na 40 mlynedd, ei gydnabod am ei gyfraniad i chwaraeon hefyd.

Cafodd Arnold, sydd wedi helpu i siapio gyrfaoedd nifer o athletwyr proffil uchel, yn cynnwys y Cymro ei hun, Colin Jackson, ei ganmol am ei ymroddiad drwy dderbyn gwobr Cyflawniad Oes.

Yn Hyfforddwr Cenedlaethol ar Gymru rhwng 1974 a 1994, arweiniodd Arnold Jackson at fedal arian Olympaidd, medalau aur ar lefel Byd, Ewrop a Chymanwlad, a record byd yn y clwydi 100m.

Yn Uwch-Hyfforddwr Perfformiad i Athletau’r DG yn awr, mae Arnold yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn datblygu talent Olympaidd, gan arwain yr Harrier o Abertawe, Dai Greene, i rownd derfynol Pencampwriaethau’r Byd a chafwyd llu o oreuon personol yn 2009 a sicrhaodd bod Rhys Williams yn gwella wedi anaf ac yn cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd yn Berlin.

Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

"Hoffwn longyfarch bob un o’r enillwyr yn gynnes iawn, ac yn arbennig Paul John. Mae’n haeddu clod am berfformiadau sgwad rygbi saith Cymru ac mae llywio’r tîm i sicrhau buddugoliaeth gwbl haeddiannol yng Nghwpan Rygbi Saith y Byd yn ei wneud yn enillydd teilwng o’r wobr anrhydeddus hon."

"Y tu ôl i bob un o enillwyr y gwobrau mae stori gwbl ysbrydoledig am ymroddiad llwyr i chwaraeon. Rwy’n gobeithio y bydd yr hyfforddwyr eraill i gyd, ar bob lefel mewn chwaraeon yng Nghymru, yn cael eu hysbrydoli gan eu hesiampl ac yn dal ati gyda’u gwaith da. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod pwysigrwydd allweddol eu gwaith. Hebddo, ni fyddai chwaraeon yng Nghymru’n bodoli."

Ymhlith yr hyfforddwyr eraill yn derbyn gwobrau heddiw roedd:

GWOBR CYDNABYDDIAETH ARBENNIG

ROY COURT, JIWDO Caerdydd

  • Roy yw Swyddog Cyswllt Cymdeithas Jiwdo Cymru ar gyfer Anghenion Arbennig ac mae wedi ymwneud â jiwdo’r anabl yng Nghymru ers dros 25 mlynedd.
  • Fe gynorthwyodd Roy Gomisiwn Cynnwys Cymdeithas Jiwdo Prydain i ffurfio system raddio ar gyfer Athletwyr Anabl.
  • Mae Roy wedi mynd â thimau o Gymru a’r DG i gystadlaethau yn yr Almaen, y Ffindir, Sweden, Gwlad Belg a Ffrainc.
  • Yn 2000, trefnodd gystadleuaeth jiwdo gyntaf Ewrop i bobl gydag anghenion arbennig yng Nghaerdydd, gyda 12 gwlad yn cymryd rhan a mwy na 200 o gystadleuwyr.
  • Roedd Roy yn allweddol, ynghyd â hyfforddwr o’r Iseldiroedd, wrth sefydlu a chyflwyno Rheolau Chwaraeon y Gemau Olympaidd Arbennig ar gyfer Jiwdo.
  • Mae wedi cynllunio a sefydlu Cwrs Ymwybyddiaeth o Anabledd yn benodol ar gyfer y byd jiwdo ac fe’i cyflwynir yng Nghymru ac mewn sawl ardal yn Lloegr a’r Alban. I’r diben hwn, ysgrifennodd Lawlyfr Jiwdo ar gyfer Hyfforddwyr, judoka, dyfarnwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr.
  • Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae hefyd wedi mentora myfyrwyr o APCC sy’n mynychu sesiynau ar gyfer cael profiad ymarferol o weithio gyda myfyrwyr ag anghenion arbennig, fel rhan o’u cyrsiau gradd, yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o’r byd.

HYFFORDDWR CLWB

Noddwyd gan sports coach UK

JOHN BELL, CRICED Wrecsam

· Mae John wedi hyfforddi criced ers mwy na 25 mlynedd ac, ar hyn o bryd, ef yw Prif Hyfforddwr Clwb Criced Gresffordd ac mae hefyd yn hyfforddwr ar garfan Dan 14 oed Gogledd Ddwyrain Cymru.

· Mae angerdd John dros y gamp wedi golygu bod adran ieuenctid a arferai fod yn un fechan wedi tyfu’n awr i gynnwys pedwar o dimau ieuenctid a thua 120 o chwaraewyr.

· Yn aelod gweithgar o Glwb Criced Gresffordd ers 40 mlynedd, mae John nid yn unig yn hyfforddi ond hefyd yn cydlynu’r timau ieuenctid, yn chwarae mewn cynghreiriau amrywiol ac mae’n gofalu am y tir hyd yn oed. Mae hefyd yn ysgrifennydd y clwb, yn gydlynydd cludiant ac yn swyddog cymorth cyntaf.

· Yn 2009, cafodd nifer o’i chwaraewyr eu dewis ar gyfer sgwadiau cenedlaethol a rhanbarthol ac mae nifer o chwaraewyr o’r carfannau D15 a D13 wedi bod yn chwarae i’r ail dîm hŷn gan ei helpu i sicrhau dyrchafiad o’r bumed adran i’r bedwaredd adran. .

HYFFORDDWR ATHLETWYR ANABL

Noddwyd gan Mon Motors

TIM HAZELL, SAETHYDDIAETH Newbridge, Gwent

· Yn Hyfforddwr Tîm tîm Paralympaidd PF a hefyd tîm abl Cymru, y sgwadiau datblygu a Rhaglen Adnabod Talent PF, mae Tim wedi bod yn hyfforddi ers 10 mlynedd.

  • Mae gan Tim enw da iawn ac mae’n uchel ei barch; yn 2008, cipiodd ei dîm y nifer fwyaf o fedalau i’w hennill erioed gan dîm saethyddiaeth Paralympaidd yn y Gemau Paralympaidd.

· Mae Tim wedi bod yn gyfrifol am adeiladu strwythur hyfforddi oddi mewn i saethyddiaeth Paralympaidd. Y tîm presennol yw’r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yn y byd saethyddiaeth yn PF ym mhob disgyblaeth – yn athletwyr abl ac anabl – gyda dau bencampwr Paralympaidd, deilyddion record byd a phencampwyr byd yn y cystadlaethau tîm ac unigol.

· Yn 2009, bu Tim yn helpu tîm cyfansawdd merched Paralympaidd PF (sy’n cynnwys Pippa Britton – sy’n wreiddiol o’r Bontfaen ond yn byw yng Nghasnewydd yn awr) i ennill yr aur ym Mhencampwriaethau’r Byd. Hefyd, cipiodd y merched ddwy record byd ar hyd y daith.

· Mae hefyd yn hyfforddwr personol i Pippa Britton – y Paralympiad o Gymru sy’n gobeithio cystadlu ochr yn ochr â saethyddwyr abl yng Ngemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.

· Yn y cyfamser, enillodd Danielle Brown yr aur yng nghystadleuaeth unigol gyfansawdd y merched a chipiodd cyd-aelod o’i thîm, Mel Clarke, yr arian a daeth Pippa Britton yn bedwerydd.

· Sicrhaodd tîm cyfansawdd y dynion yr arian a hefyd enillodd Fred Stevens fedal efydd yn y gystadleuaeth unigol.

· Yn 2009 hefyd, teithiodd Tim i Arizona ar gyfer un o gystadlaethau pwysicaf ar y calendr saethyddiaeth i bobl abl. Cipiodd tîm y merched yr arian ac enillodd tîm cyfansawdd y dynion yr efydd. Cwblhaodd tîm atgamu’r dynion hatrig gydag efydd arall eto fyth.

HYFFORDDWR / ARWEINYDD IEUANC

Noddwyd gan Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (APCC)

NIA THOMAS, GYMNASTEG RHYTHMIG Llanelli

  • Mae Nia wedi datblygu o fod yn gystadleuydd i fod yn rheoli’r Sgwad Elitaidd yn Academi Llanelli a Sgwadiau Paratöol ac Uwch Cymru.
  • Dan ei chyfarwyddyd, mae’r sgwadiau’n dringo’r safleoedd ym Mhrydain ac yn Rhyngwladol. Mae wedi cynhyrchu pencampwyr Prydeinig ac enillwyr medalau’n gyson, mewn sawl categori oedran.
  • Mae Nia wedi mynd â gymnastwyr Sgwad Cenedlaethol Cymru i gystadlu yng Ngwlad Pwyl, America, Portiwgal a’r Ffindir.
    Mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng ei rôl hyfforddi a swydd lawn amser yn gweithio fel Swyddog 5x60 yn Abertawe ac mae hefyd yn hyfforddi yn Academi Llanelli am 18 awr yr wythnos a chwe awr yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

HYFFORDDWRAIG Y FLWYDDYN

Noddwyd gan SkillsActive

PAM RICHARDS, HOCI Wrecsam

· Fel Prif Hyfforddwraig y Merched Hŷn, mae Pam wedi codi safle’r tîm i gipio’r efydd yn Nhlws Cenedlaethol Ewrop yn Rhufain.

· Am y tro cyntaf ers 1998, mae tîm y merched wedi cymhwyso i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010. Hefyd, mae’r tîm wedi gwneud yn ddigon da i gael cystadlu yn rowndiau cymhwyso Cwpan y Byd yn 2010.

· Mae wedi bod yn hyfforddi ers 15 mlynedd ac mae’n Uwch-Ddarlithydd ac yn Arweinydd Rhaglen ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Am wybodaeth bellach am sut i ymwneud â hyfforddi ar bob lefel, ewch i wefan Hyfforddiant Cymru yn www.hyfforddiantcymru.com neu cysylltwch â 0845 045 0904 / e-bost: coachingwales@scw.org.uk