YSGOL YN SIR Y FFLINT AR FRIG Y DOSBARTH
6 Tach 2009
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dyrchafu Ysgol Uwchradd Treffynnon yn Sir y Fflint i frig y dosbarth am ei hymdrechion A serennog i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Cipiodd yr ysgol y wobr Ysgol y Mis ar gyfer mis Tachwedd – gwobr a ddyfernir gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weithredu’n lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sir y Fflint.
Diben 5x60 yw cael disgyblion ysgolion uwchradd nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden gorfforol i fod yn fwy egnïol yn amlach ac mae’r cynllun yn sicr yn sgorio marciau uchel. Yn wir, mae 98% o’r holl ysgolion prif ffrwd yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.
Yn 2008, cymerodd mwy na hanner poblogaeth yr ysgol ran yng nghlybiau 5x60. Mae’r ffigyrau a ragdybir ar gyfer eleni eisoes yn dangos cynnydd mewn cymryd rhan gyda thraean o’r disgyblion yn mynychu’r gweithgareddau 5x60 yn ystod chwe wythnos gyntaf tymor yr hydref yn unig.
Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau’n cael eu cynnig, yn cynnwys codi hwyl mewn gemau, nofio a golff, mae digon i gadw pawb yn hapus ond pêl osgoi a dawnsio stryd sy’n profi fwyaf poblogaidd. Mae’r timau dawnsio stryd a chodi hwyl mewn gemau o Dreffynnon hefyd wedi ennill eu categorïau perthnasol yng Ngŵyl Chwaraeon Ieuenctid Sir y Fflint ac yna aethant ymlaen i gynrychioli Sir y Fflint a Chymru mewn cystadlaethau cenedlaethol.
Meddai Bethan Roberts, Swyddog 5x60 yr ysgol:
"Ar hyn o bryd, mae amserlen 5x60 yn cynnig amrywiaeth eang iawn o glybiau gydag wyth yn cael eu cynnal yn ystod y diwrnod ysgol a dau ar y penwythnos. Rydym wedi sefydlu partneriaeth gref rhwng yr ysgol a’r ganolfan hamdden leol hefyd. Mae dau glwb 5x60 yn cael eu cynnal yn y ganolfan hamdden leol gan roi cyfle i’r disgyblion fynychu clybiau mewn cyfleusterau ar wahân i’r rhai ar dir yr ysgol, a chreu cyswllt ysgol a chlwb y mae ei wir angen."
Meddai Jeff Collins, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Uwchradd Treffynnon:
Mae rhaglen 5x60 a gwaith Bethan wedi bod yn gyfraniad amhrisiadwy at yr amserlen o weithgarwch corfforol allgyrsiol yn yr ysgol. Rwy’n gwybod bod ein disgyblion wir wedi mwynhau cymryd rhan ac mae eu hyder a’u gallu wedi cael hwb mawr ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny."
Meddai Danielle Gabriel, Hyfforddwr Codi Hwyl Mewn Gemau a Dawnsio Stryd gwirfoddol o Flwyddyn 12:
"Rwy’n meddwl bod rhaglen 5x60 yn ffordd ragorol o gadw plant yn heini. Mae llawer o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Ers sefydlu rhaglen 5x60 yn Ysgol Uwchradd Treffynnon, mae’r amrywiaeth o glybiau sy’n cael eu cynnig wedi gwella’n fawr iawn ac mae’r ysgol wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau.
"Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am y rhaglen 5x60 yw pan rwyf yn hyfforddi’r plant. Rwy’n cael cymaint o hwyl ac rwyf wrth fy modd yn gweld canlyniad y gwaith caled ar y diwedd wrth fynd â hwy i gystadlaethau."
Mae Hannah Neale, Disgybl ym Mlwyddyn 9, yn mynychu clwb dawnsio stryd yn rheolaidd ac mae’n amlwg wrth ei bodd:
"Rwy’n meddwl ei fod yn wych bod y clybiau ar ôl ysgol yn gwneud mor dda. Yn bersonol, rwyf wrth fy modd gyda’r dawnsio stryd; dyna fy ffefryn. Rwy’n mwynhau cystadlu yn y cystadlaethau, ac ennill! Mae’n rhaglen grêt oherwydd mae’n fy nghadw i’n heini ac rwy’n cael hwyl gyda fy ffrindiau."
Mae Angela Jones, disgybl ym mlwyddyn 8, hefyd yn ymfalchïo yn y pleser mae’n ei gael yn y clybiau dawnsio stryd a’r cystadlaethau rhwng dosbarthiadau. Meddai’n frwd:
"Mae rhaglen 5x60 yn dda oherwydd mae’n hwyl ac mae’n fy nghadw’n brysur ar ôl ysgol. Rwyf wrth fy modd gyda’r cystadlaethau rhwng y dosbarthiadau, yn enwedig y pêl rwyd ac rydym yn cael ymarfer yn ein clwb ar ôl ysgol. Mae’r dawnsio stryd yn arbennig o dda oherwydd mae’n weithgaredd newydd sy’n cael ei gynnig i bawb yn yr ysgol."
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Un o fformiwlâu llwyddiannus 5x60 yw bod y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol. Yr her yn awr yw agor drysau’r ysgolion ar gyfer 5x60 ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae llwyddiant ysgolion fel Ysgol Uwchradd Treffynnon yn gosod y sylfeini ar gyfer nod hirdymor Cyngor Chwaraeon Cymru o sicrhau bod cymaint ag y bo modd o’r ieuenctid hyn yn symud ymlaen i fod yn oedolion sy’n byw’n iach."
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn datgelu bod niferoedd cynyddol o ieuenctid ledled Cymru’n estyn am eu hesgidiau ymarfer er mwyn cymryd rhan yn 5x60. Mae’r rhaglen wedi cael ei hyrwyddo gan un a enillodd fedal arian Olympaidd, David Davies, gan Stuart Cable a chan gyflwynydd Hip Neu Sgip, Alex Jones.
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu hysgol ar gyfer Ysgol y Mis 5 x 60.
