Y GWEINIDOG TREFTADAETH YN TEITHIO O AMGYLCH PROSIECTAU CHWARAEON
4 Tach 2009
Y mis yma bydd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn ymweld â sawl prosiect a gyllidir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac sy’n helpu plant ac oedolion i gadw’n heini ac egnïol.
Cwrs Golff Aberdulais, Castell-nedd
Ddydd Mercher 11 Tachwedd bydd y Gweinidog yn cwrdd â golffwyr ieuainc o Ysgol Gynradd Cilfrew sydd wedi derbyn gwersi golff am ddim ar Gwrs Golff Aberdulais.
Derbyniodd y cwrs £1,000 o gyllid y Loteri Genedlaethol, drwy gyfrwng grant gan y Gist Gymunedol, i helpu’r plant i roi cynnig arni ar y cwrs golff. Bu’r grant o gymorth i brynu clybiau golff iau ac i gynnig bloc 20 wythnos o wersi am ddim i’r ysgol gyfun leol.
Mae’r prosiect wedi cael ei ymestyn i gynnwys yr ysgolion cynradd ac estynnwyd gwahoddiad i bob ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot ymweld â’r cwrs a derbyn gwersi am ddim. Bydd athro golff o’r cwrs yn mynd i mewn i ysgolion hefyd ac yn cyflwyno sesiynau a bwriedir cynnal gŵyl golff yn y dyfodol.
Ysgol Gyfun Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf
Ddydd Iau 12 Tachwedd bydd y Gweinidog yn ymweld â disgyblion yn Ysgol Gyfun Tonyrefail sy’n elwa’n fawr o raglen 5x60 y Cyngor Chwaraeon, rhaglen sy’n ceisio cael mwy o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae tua £40,000 wedi cael ei fuddsoddi yn yr ysgol hyd yma, ers iddi ymuno â’r rhaglen ym mis Medi 2007. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig, mae 232 o sesiynau 5x60 wedi cael eu cynnal a 60 o’r rheiny wedi cael cymorth gan neu wedi’u cyflwyno gan Arweinwyr Ieuainc – disgyblion hŷn sydd wedi cael eu hyfforddi i helpu gyda’r gwaith o redeg y rhaglen a’r gweithgareddau. Mae hyn yn golygu bod tua 25% o’r sesiynau’n cael eu cynnal gan ddisgyblion hŷn yr ysgol.
Ledled Cymru mae’r Cyngor Chwaraeon wedi buddsoddi £7.5 miliwn o gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 5x60 ers mis Medi 2006. Ers mis Medi 2009, mae 18 allan o’r 19 ysgol gyfun yn RhCT yn rhan o gynllun 5x60, ynghyd â dwy allan o’r pedair ysgol arbennig yn y sir. A ledled RhCT yn gyffredinol, mae 6597 o ieuenctid wedi cymryd rhan yn 5x60 gyda 4175 yn mynychu fwy na phum gwaith.
Campfa Fighting Fit yn Nhreruffydd, Torfaen
Ddydd Mercher 18 Tachwedd bydd y Gweinidog yn ymweld â champfa Fighting Fit sy’n eiddo i Jo Draper. Yna bydd yn cael arddangosfa taekwondo, Nunchaku a thorddawnsio gan blant lleol.
Yn 2006, cafodd yr hen fecws ei weddnewid yn llwyr ar gost o £55,000 – a gyllidwyd yn rhannol gan grant loteri gwerth £20,000 gan Gyngor Chwaraeon Cymru – er mwyn trawsnewid i fod yn academi ffitrwydd a chwaraeon ymladd sydd ar agor i’r gymuned gyfan. A thair blynedd wedi iddi agor ei drysau, mae campfa Fighting Fit yn gwneud yn arbennig o dda. Cynhelir sesiynau taekwando rhwng dydd Llun a dydd Iau a darperir ar gyfer pob oedran ac mae’r ystafell ffitrwydd yn fwrlwm o weithgarwch o doriad gwawr tan fachlud haul.
Yn llywio’r prosiect o’r dechrau mae Jo Draper, sydd wedi buddsoddi ei hamser a’i harian ei hun yn Fighting Fit.
Meddai, "Mae wedi bod yn llafur cariad yn sicr. Mae ffitrwydd wedi bod yn eithriadol bwysig i mi erioed ac rwyf eisiau i fwy o bobl sylweddoli pa fanteision all eu cynnig.
"Wrth i’r gair fynd ar led, rydym wedi gweld mwy a mwy o blant yn ymuno â’r dosbarthiadau. Maent yn dod yma deirgwaith yr wythnos ac yn cael ymarfer hwyliog gyda’u ffrindiau. A chan fod y cyfleuster ar garreg y drws, nid yw cludiant ac amser yn broblemau i’r rhieni."
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC:
"Mae llawer o brosiectau da’n cael eu cyllido gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac mae llawer o waith da’n cael ei wneud gan bobl ledled Cymru er mwyn darparu cyfleoedd i bobl fod yn egnïol yn gorfforol. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymweliadau hyn o gymorth i roi cyhoeddusrwydd i ymdrechion ysgolion ac unigolion i gael mwy ohonom i fod yn fwy egnïol. Rydym yn cydnabod yn llawn ei bod yn bwysig darparu cyfleoedd i bobl yn byw yn ein cymunedau lleol i fod yn egnïol yn gorfforol."
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r prosiectau rhagorol hyn yn enghreifftiau eithriadol lwyddiannus o sut all chwaraeon a hamdden gorfforol dynnu cymunedau at ei gilydd a chwarae rhan allweddol mewn rhoi hwb i iechyd a lles pobl ieuainc ac oedolion fel ei gilydd yng Nghymru. Gyda chefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, byddwn yn parhau i annog cynlluniau fel y rhain ledled y wlad, mewn ymgais i helpu mwy o bobl i fod yn egnïol."
