Newyddion Diweddaraf

DATGELU ENWAU YMGEISWYR TERFYNOL GWOBRAU HYFFORDDWR Y FLWYDDYN

2 Tach 2009

Heddiw datgelodd Cyngor Chwaraeon Cymru enwau'r rhai ar y rhestr fer yn y chwe chategori yng Ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn 2009, gan fod y seremoni anrhydeddus ar y gorwel.

Cyhoeddir enwau'r enillwyr yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ddydd Iau y 12fed o Dachwedd, 2009 – a bydd un ohonynt yn ennill teitl anrhydeddus iawn Hyfforddwr y Flwyddyn Cyngor Chwaraeon Cymru.

Yr ymgeiswyr yw:

HYFFORDDWR PERFFORMIAD UCHEL

Noddir gan Total Teamwear

JONATHAN CHEESEMAN (RHWYFO) Trefynwy

Yn hyfforddwr rhwyfo mewn ysgol ers deng mlynedd, ar hyn o bryd mae Jonathan yn hyfforddi 40 o rwyfwyr o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13.

Mae hefyd wedi helpu tri rhwyfwr talentog i wneud cynnydd i lefel PF, ac fe enillodd un ohonynt ddau fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Iau y Byd ac enillodd y ddau arall fedal aur yn y Parau 16 Iau i Ferched, mewn gornest benben yn erbyn Ffrainc.

Mae Jonathan wedi hyfforddi criwiau iau Cymru i ennill bum gwaith yn y Regata Ryngwladol Gartref yn ystod y saith mlynedd diwethaf.

Mae wedi bod yn hyfforddi Cymru am yr wyth mlynedd diwethaf ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi cyflwyno hyd at 400 o ferched i’r gamp o rwyfo. Drwy gyfrwng ei frwdfrydedd llwyr dros y gamp, mae Jonathan wedi cynnal diddordeb y merched mewn rhwyfo ar adeg pan maent yn dechrau rhoi’r gorau i chwaraeon fel arfer.

Am y saith mlynedd diwethaf, mae Jonathan wedi cydlynu tîm Iau Merched Cymru ac wedi meithrin cysylltiadau gyda chlybiau a hyfforddwyr o bob cwr o’r DG er mwyn dwyn athletwyr Cymru at ei gilydd ar gyfer dysgu a hyfforddi ochr yn ochr â’i gilydd.

Mae hefyd yn cynrychioli’r wlad ar Gomisiwn Iau Cenedlaethol y DG a rôl y comisiwn hwn yw siapio dyfodol rhwyfo iau yn y Gwledydd Cartref.

Yn ei amser sbâr, mae Jonathan yn teithio o Drefynwy i Gaerdydd er mwyn helpu i ddatblygu rhaglen y Dynion Hŷn ym Mhrifysgol Caerdydd.

PAUL JOHN (RYGBI) Pontyclun

Yn gyn-athro, mae Paul yn Brif Hyfforddwr tîm Rygbi Saith Cymru a goronwyd yn Bencampwyr Byd yn Nghwpan y Byd Rygbi Saith y BRRh eleni.

Daeth yn hyfforddwr Cenedlaethol ar Rygbi Saith fis Hydref 2008, wedi hyfforddi’r gêm 15-bob-ochr am y pum mlynedd blaenorol yng Nghlwb Rygbi Pontypridd (dwy flynedd fel hyfforddwr cynorthwyol a thair fel prif hyfforddwr).

Mae’n bur debyg mai rôl Prif Hyfforddwr y garfan Rygbi Saith yw un o’r swyddi anoddaf oherwydd yn aml iawn mae eich tîm yn cael ei newid ar y funud olaf.

Bu Paul yn gapten ar y tîm cenedlaethol a fu ar daith yn UDA a Chanada a hefyd hyfforddodd Pontypridd i sicrhau buddugoliaeth yng Nghwpan Konica Minolta yn 2007 ac i ddod yn ail yn 2006 ac yn 2008, yn ogystal â hyfforddi carfan D18 Cymru nôl yn 2005.

Meddai John Schropfer, Rheolwr Datblygu Hyfforddwyr Cenedlaethol URC – a enwebodd Paul: "Mae nodweddion Paul yn ei wneud yn fodel rôl delfrydol ar gyfer y chwaraewyr ieuainc sy’n dyheu am fod yn chwaraewyr proffesiynol. Mae ei arddull rymus wrth hyfforddi wedi arwain at ddatblygiad sylweddol y rhai yn ei ofal yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Ef yw’r hyfforddwr rygbi cyntaf yng Nghymru sy’n gallu dweud ei fod wedi ennill Cwpan y Byd mewn Rygbi Saith. Roedd hwn yn gyflawniad anhygoel."

TRACEY SKIRTON- DAVIES (GYMNASTEG) Caldicot

Mae’r Hyfforddwraig Gymnasteg Genedlaethol, Tracey, wedi bod yn arwain Rhaglen Academi Artistig y Merched yng Nghymru ers ei sefydlu bron i bum mlynedd yn ôl ac mae’n cynhyrchu rhai o’r gymnastwyr gorau ym Mhrydain Fawr.

Ar hyn o bryd mae’n hyfforddwr personol i chwe gymnast ar lwybr perfformio safon y byd, yn cynnwys: Lizzie Beddoe, Jessica Hogg, y chwiorydd Angel a Venus Romaeo, Kiera Brennan a Raer Theaker.

Mae Tracey hefyd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi a datblygu’r gymnastwyr ychwanegol yng Nghymru sydd hefyd ar lwybr PF, sef Poppy Wynn, Emily White a Francesca Grout.

Ymhlith ei chyflawniadau niferus mae paratoi tri aelod o dîm PF ar gyfer cystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd, allan o dîm o chwech; arwain Cymru at y safle uchaf erioed i dîm o Gymru yng Ngemau Cymanwlad Melbourne ac, yn fwyaf diweddar, arwain Cymru at fuddugoliaeth sicr yng Ngemau Ysgolion y DG yng Nghaerdydd fis Awst – y tro cyntaf i Gymru ennill y gystadleuaeth hon erioed!

Meddai Andrew Morris, y Cyfarwyddwr Technegol yn Gymnasteg Cymru – a enwebodd Tracy ar gyfer y wobr hon: "Rwy’n enwebu Tracey ar gyfer y wobr hon gan fy mod yn credu ei bod nid yn unig yn cynhyrchu’r gymnastwyr gorau yn y wlad ond mae hi hefyd yn gwneud hynny’n gyson ac mewn niferoedd cynyddol yn awr. Mae’n cael effaith ar fywydau cymaint o gymnastwyr addawol a darpar-hyfforddwyr ac mae wir yn amser i Gymru gydnabod y cyfraniad aruthrol hwn at chwaraeon yng Nghymru."

CYFLAWNIAD OES

ROY COURT (JIWDO) Caerdydd

Roy yw Swyddog Cyswllt Cymdeithas Jiwdo Cymru ar gyfer Anghenion Arbennig ac mae wedi ymwneud â jiwdo’r anabl yng Nghymru ers dros 25 mlynedd.

Fe gynorthwyodd Roy Gomisiwn Cynnwys Cymdeithas Jiwdo Prydain i ffurfio system raddio ar gyfer Athletwyr Anabl.

Mae Roy wedi mynd â thimau o Gymru a’r DG i gystadlaethau yn yr Almaen, y Ffindir, Sweden, Gwlad Belg a Ffrainc.

Yn 2000, trefnodd gystadleuaeth jiwdo gyntaf Ewrop i bobl gydag anghenion arbennig yng Nghaerdydd, gyda 12 gwlad yn cymryd rhan a mwy na 200 o gystadleuwyr.

Roedd Roy yn allweddol, ynghyd â hyfforddwr o’r Iseldiroedd, wrth sefydlu a chyflwyno Rheolau Chwaraeon y Gemau Olympaidd Arbennig ar gyfer Jiwdo.

Mae wedi cynllunio a sefydlu Cwrs Ymwybyddiaeth o Anabledd yn benodol ar gyfer y byd jiwdo ac fe’i cyflwynir yng Nghymru ac mewn sawl ardal yn Lloegr a’r Alban. I’r diben hwn, ysgrifennodd Lawlyfr Jiwdo ar gyfer Hyfforddwyr, judoka, dyfarnwyr, swyddogion a gwirfoddolwyr.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae hefyd wedi mentora myfyrwyr o APCC sy’n mynychu sesiynau ar gyfer cael profiad ymarferol o weithio gyda myfyrwyr ag anghenion arbennig, fel rhan o’u cyrsiau gradd, yn cynnwys myfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o’r byd.

MALCOLM ARNOLD (ATHLETAU) Melksham, Swydd Wilt

Yn ystod gyrfa faith, ag iddi rychwant o fwy na 40 mlynedd, mae Malcolm wedi bod yn rhan o’r criw hyfforddi gydag Athletau’r DG ers blynyddoedd lawer.

Fel Hyfforddwr Cenedlaethol blaenorol yng Nghymru a Phrif Hyfforddwr y DG, mae Malcolm wedi hyfforddi athletwyr i gyrraedd lefel Ewropeaidd, Byd ac Olympaidd yn gyson.

Mae wedi helpu i siapio gyrfaoedd llawer iawn o athletwyr uchel eu proffil, a’r mwyaf nodedig yng Nghymru yw Colin Jackson.

Mae Malcolm yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y DG fel hyfforddwr blaenllaw yn ei faes ac mae’n cyfrannu’n aruthrol at ddatblygiad talentau Olympaidd addawol ac allweddol Prydain Fawr, yn cynnwys Craig Pickering.

Dechreuodd ei yrfa fel hyfforddwr rhyngwladol yn 1968 fel Cyfarwyddwr Hyfforddi yn Uganda – swydd y bu ynddi tan 1972, gan ddod i benllanw wrth i John Akii-Bua ennill y clwydi 400m yng Ngemau Olympaidd 1972 a thorri record y byd yr un pryd.

Rhwng 1974 a 1994, roedd Malcolm yn Hyfforddwr Cenedlaethol yng Nghymru, gan hyfforddi athletwyr o galibr fel Nigel Walker (a oedd yn y rownd gyn-derfynol Olympaidd ac yn ddeilydd record byd yn y Clwydi 110m), Kay Morley Brown (enillydd medal aur yn y Gymanwlad), Paul Gray (enillydd medal efydd yn y Gymanwlad) a Colin Jackson (enillydd medal Arian Olympaidd, aur ar lefel Byd, Ewropeaidd ac yn y Gymanwlad a deilydd record byd yn y clwydi 110m).

Rhwng 1994 a 1997, roedd Malcolm yn Briff Hyfforddwr Athletau Prydain ac yna’n gyfarwyddwr perfformio gydag Athletau’r DG. Yn byw yng Nghaerfaddon ers 1997, mae’n parhau i hyfforddi athletwyr o’r safon uchaf, fel Jason Gardner a Craig Pickering.

Yn ystod tymor 2009, hyfforddodd Lawrence Clarke i gyrraedd pencampwriaethau D20 Ewrop, gan dorri record D20 Colin Jackson ym Mhrydain yr un pryd.

Hefyd y tymor hwn, daeth un arall o’i ddisgyblion, David Greene, yn seithfed yng Nghlwydi 400m Athletau’r Byd yn Berlin, gan dorri record Cymru ddwywaith.

Wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, erthyglau ac adnoddau am hyfforddi, mae ei waith wedi bod o gymorth i hyfforddwyr athletau am flynyddoedd lawer ac maent yn dystiolaeth am byth o’i wybodaeth a’i gyflawniadau sylweddol.

HYFFORDDWR CLWB

Noddir gan Sports Coach UK

PHIL JONES (JIWDO) Aberhonddu

Mae’r hyfforddwr jiwdo hwn hefyd yn beiriannydd wrth ei alwedigaeth.

Wedi hyfforddi am 15 mlynedd, eleni bu’n cynorthwyo Kate Chamberlain i gipio’r medal aur ym Mhencampwriaethau Meistri’r Byd. Yn y cyfamser, enillodd Stan Cantrill yr efydd a chasglodd y tîm yr aur.

Yn 2006 y penderfynodd Phil sefydlu sesiynau hyfforddi rheolaidd ar gyfer chwaraewyr jiwdo dros 30 mlwydd oed. Y syniad oedd cadw chwaraewyr i gymryd rhan yn y gamp a hefyd cynnig amgylchedd i rai dros 30 oed ddechrau cymryd rhan mewn jiwdo yng nghwmni pobl o’r un oedran â hwy.

Nawr, mae mwy na 40 o chwaraewyr yn camu ar y matiau’n rheolaidd – rhai rhwng 30 a 70 oed!

Gan ddilyn yn ôl troed Phil, mae’r Gwyddelod, yr Albanwyr a’r Saeson i gyd wedi sefydlu sesiynau Meistri.

Mae Phil hefyd wedi llwyddo i ddenu hyfforddwyr gwahodd o’r safon uchaf i’r sesiynau hyn, gyda nifer fawr o enillwyr medalau Byd ac Olympaidd wedi cynnig rhoi o’u hamser yn rhad ac am ddim. Mae lefel y llwyddiant sydd wedi’i brofi yn y sesiynau hyn o ran nifer y medalau a’r pencampwyr yn lluosog iawn, ond y boddhad mwyaf mae Phil yn ei gael yw gweld y rhai amhrofiadol yn gwneud cynnydd i fod yn chwaraewyr Jiwdo llawn ar lefel Meistr.

Pan fydd y tîm yn cael ei gofrestru ar gyfer Gornest Agored Meistri Prydain eleni, bydd mwy na 40 yn cofrestru o Gymru – dan arweiniad dau Bencampwr Byd. Ond eto, dair blynedd yn unig yn ôl, dim ond 10 o bobl oedd yn y sesiwn cyntaf, sy’n brawf o gyflawniadau Phil.

PAUL WALTERS (DRINGO CREIGIAU) Caerdydd

Dim ond ers pedair blynedd mae Paul wedi bod yn hyfforddi ond mae eisoes yn Brif Hyfforddwr Tîm Dringo Iau Cymru, y Tîm Dringo Boulders yng Nghaerdydd ac Academi Ddringo Boulders.

Mae Paul wedi mynd â thimau i gystadlaethau cenedlaethol ac mae wedi gweithio ochr yn ochr â Hyfforddwyr Dringo’r DG er mwyn gwella eu strategaethau.

Eleni, mae wedi gweithio gyda phum dringwr ifanc sydd i gyd wedi’u gwahodd i gystadlu mewn cystadlaethau ar lefel genedlaethol.

Mae gallu Paul i annog, meithrin brwdfrydedd a mentora wedi arwain at recriwtio aelodau newydd sy’n cyrraedd lefel cystadlu; mae ei ymroddiad a’i waith caled wedi peri i’r ieuenctid hyn lwyddo i gymhwyso mewn rowndiau rhanbarthol yn y Gyfres Ddringo Iau Genedlaethol a chyrraedd rownd derfynol Cymru. Enillodd rhai eu lle yn rownd derfynol Prydain yn Llundain hyd yn oed. O ystyried ei bod yn llai na blwyddyn ers i’r ieuenctid ddechrau dringo, roedd hwn yn gyflawniad aruthrol.

Mae ei angerdd dros chwaraeon a datblygiad ieuenctid wedi peri iddo gael ei benodi’n Gynrychiolydd Ieuenctid Cyngor Mynydda Prydain (CMP) ar gyfer De Cymru.

Paul yw’r person cyntaf yng Nghymru i sefydlu Tîm Dringo Iau Cenedlaethol. Wedi sicrhau canolfan ar gyfer y tîm yn Abertawe, mae Paul wedi parhau i ehangu’r grŵp o bobl ieuainc brwdfrydig ac, o ganlyniad i’w ymdrechion, mae aelod o’r tîm wedi cael ei ddewis fel aelod wrth gefn ar gyfer Tîm Ieuenctid Prydain.


JOHN BELL (CRICED) Wrecsam

John yw’r Prif Hyfforddwr yng Nghlwb Criced Gresffordd ac mae hefyd yn hyfforddwr ar garfan Dan 15 Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae wedi hyfforddi criced ers mwy na 25 mlynedd.

Yn 2009, bu John yn helpu i feithrin pedair carfan iau i fod yn rym yn serennu yn yr ardal.

Mae nifer o chwaraewyr o’r carfannau D15 a D13 wedi bod yn chwarae i ail dîm criced hŷn Gresffordd y tymor hwn ac wedi helpu’r tîm i sicrhau dyrchafiad o’r bumed adran i’r bedwaredd adran. .

Mae John Bell wedi bod yn aelod gweithredol o’r clwb ers 40 mlynedd ac mae ganddo rôl helaeth yng Ngresffordd. Yn wir, mae nid yn unig yn hyfforddi ond hefyd yn cydlynu’r timau ieuenctid, yn chwarae mewn cynghreiriau amrywiol ac mae’n gofalu am y tir hyd yn oed. Mae hefyd yn ysgrifennydd y clwb, yn gydlynydd cludiant ac yn swyddog cymorth cyntaf.

Mae ymroddiad John i Glwb Criced Gresffordd yn ddiguro.

Mae angerdd John dros y gamp wedi golygu bod adran ieuenctid a arferai fod yn un fechan wedi tyfu’n awr i gynnwys pedwar o dimau ieuenctid a thua 120 o chwaraewyr. Pan ddaeth y grŵp yma o fechgyn i’r cae criced i ddechrau, doedd gan y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim syniad sut i chwarae criced; ni allent redeg rhwng y wicedi; nid oedd gan lawer ohonynt syniad sut i gydio’n iawn mewn bat ac ni allent ddal pêl. Gyda rhagoriaeth dechnegol, ymroddiad ac arweiniad John wrth hyfforddi, mae wedi datblygu’r tîm i fod yn Bencampwyr Gogledd Cymru.

Mae nifer o’r chwaraewyr yn 2009 wedi cael eu dewis ar gyfer sgwadiau cenedlaethol a rhanbarthol.

HYFFORDDWR POBL ANABL Y BYD CHWARAEON

Noddir gan Mon Motors

TIM HAZELL (SAETHYDDIAETH) Newbridge, Gwent

Mae Tim wedi bod yn hyfforddi ers 10 mlynedd ac ef yw hyfforddwr tîm Paralympaidd PF a hefyd tîm abl Cymru, y sgwadiau datblygu a Rhaglen Adnabod Talent PF.

Mae hefyd yn hyfforddwr personol i Pippa Britton – y Paralympiad o Gymru sy’n gobeithio cystadlu ochr yn ochr â saethyddwyr abl yng Ngemau’r Gymanwlad y flwyddyn nesaf.

Yn 2009, bu Tim yn helpu tîm cyfansawdd merched Paralympaidd PF (sy’n cynnwys Pippa Britton – sy’n wreiddiol o’r Bontfaen ond yn byw yng Nghasnewydd yn awr) i ennill yr aur ym Mhencampwriaethau’r Byd. Hefyd, cipiodd y merched ddwy record byd ar hyd y daith.

Yn y cyfamser, enillodd Danielle Brown yr aur yng nghystadleuaeth unigol gyfansawdd y merched a chipiodd cyd-aelod o’i thîm, Mel Clarke, yr arian a daeth Pippa Britton yn bedwerydd.

Sicrhaodd tîm cyfansawdd y dynion yr arian a hefyd enillodd Fred Stevens fedal efydd yn y gystadleuaeth unigol.

Yn 2009, teithiodd Tim i Arizona hefyd gyda thîm cyfansawdd y merched i gystadlu yng Nghwpan Arizona – cystadleuaeth abl bwysig ar y calendr saethyddiaeth. Cipiodd tîm y merched yr arian ac enillodd tîm cyfansawdd y dynion yr efydd. Cwblhaodd tîm atgamu’r dynion hatrig gydag efydd arall eto fyth.

Dan adain Tim, mae saethyddwyr Prydain wedi ennill chwe medal ar gylched y Grand Prix yn y byd saethyddiaeth.

Mae gan Tim enw da iawn ac mae’n uchel ei barch; yn 2008, cipiodd ei dîm y nifer fwyaf o fedalau i’w hennill erioed gan dîm saethyddiaeth Paralympaidd yn y Gemau Paralympaidd.

Mae Tim wedi bod yn gyfrifol am adeiladu strwythur hyfforddi oddi mewn i saethyddiaeth Paralympaidd. Y tîm presennol yw’r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yn y byd saethyddiaeth yn PF ym mhob disgyblaeth – yn athletwyr abl ac anabl – gyda dau bencampwr Paralympaidd, deilyddion record byd a phencampwyr byd yn y cystadlaethau tîm ac unigol.

Tim oedd rheolwr y tîm ar gyfer y tîm Saethyddiaeth Paralympaidd yn Beijing yn ogystal â bod yn hyfforddwr.

Yn ddiweddar, mae wedi canfod rhai ieuenctid talentog (yn cynnwys Gemma Morris o Gymru, sy’n hanu o Sir Gaerfyrddin). Dan ei ddylanwad ef, mae hi’n prysur wella ei sgiliau ac yn sicrhau goreuon personol drwy’r adeg. Mae wedi cyflwyno cynllun mentora ac mae hi’n elwa o’r cynllun hwn, gyda chyswllt ag aelod o’r sgwad elitaidd. Ei obaith yw y bydd hi yn Llundain yn 2012 ac y bydd ganddi siawns o ennill medal yn 2016.

JIM MUNKLEY (TENIS BWRDD CADAIR OLWYN) Llandaf, Caerdydd

Mae’r cyn-Baralympiad yma wedi bod yn hyfforddwr gwirfoddol ers 15 mlynedd.

Wedi cystadlu am fwy na 40 mlynedd ac mewn pump o Gemau Paralympaidd, mae nawr yn hyfforddwr ar chwe chwaraewr (yn cynnwys dau Baralympiad, Clare a Scott Robinson, o Lannau Dyfrdwy).

Mae’n hyfforddi talentau addawol, yn cynnwys Sara Head, sy’n saethu i fyny yn y safleoedd eleni. Hi yw rhif 6 y Byd, rhif 5 Ewrop a rhif 1 Prydain. Yn wir, Sara sy’n gyfrifol am enwebu Jim ar gyfer y wobr hon.

Mae Jim hefyd yn hyfforddi mewn clwb sydd wedi’i leoli mewn ysbyty ar gyfer anafiadau i asgwrn y cefn (Rookwood).

Mae Scott a Claire Robertson ill dau ychydig y tu allan i safleoedd y deg uchaf yn y Byd ac mae Scott yn rhif 1 Prydain a Claire yn rhif 2.

Mae ei athletwyr wedi teithio i Slofacia, Slofenia, Gwlad Pwyl a’r Almaen, lle mae’r tîm wedi cipio medalau ym mhob cystadleuaeth. Hefyd, brwydrodd y tîm i gipio medal efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop ac mae’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr wedi cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd y flwyddyn nesaf.

Mae gan Jim enw da rhagorol – mae wedi hyfforddi chwaraewyr i lefel Pencampwriaethau’r Byd. Mae wedi bod yn hyfforddwr mewn Gemau Cymanwlad ddwywaith, gyda Claire a Sara’n cyrraedd y rowndiau gogynderfynol y ddau dro. Hefyd, cystadlodd Claire a Scott yng Ngemau Paralympaidd Beijing.

Meddai un chwaraewr, Ashley Davies: "Mae Jim wedi fy helpu i’n aruthrol – nid yn unig drwy dreulio oriau ac oriau yr wythnos yn hyfforddi gyda mi ac eraill ond hefyd drwy gynnig cyngor. Dydw i ddim yn adnabod Jim ers llawer iawn o amser ond rwyf yn ei adnabod ers digon o amser i wybod ei fod yn cael ei gymell ac yn teimlo’n hapus wrth ysgogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwneud damwain ddifrifol ychydig bach yn haws. Ni allaf ddiolch digon iddo – mae wedi newid fy agwedd at fywyd yn llwyr."


ANDREW WILLIAMS (RHWYFO)
Abertawe

Mae Andrew yn hyfforddwr ar Glwb Rhwyfo Adaptive Rowers yn Ninas Abertawe.

Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn hyfforddi, mae Andrew, ar hyn o bryd, yn gweithio gyda phedwar rhwyfwr, yn cynnwys y Paralympiad, James Roberts o Brestatyn.

Daeth James yn bumed ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd yn 2009 ac mae wedi gwneud cynnydd rhagorol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – uchafbwynt hynny oedd gorffen yn bumed yng Ngemau Paralympaidd Beijing.

Mae Andrew wedi ei gwneud yn bosibl i athletwyr anabl allu rhwyfo mewn ardal lle nad oedd llawer o gyfleusterau addas ar gael. Nid yw hyn wedi ei ddal yn ôl mewn unrhyw ffordd ac mae wedi dangos pa mor hawdd yw addasu offer er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr anabl yn gallu cael profiadau newydd.

Mae Andrew hefyd yn gweithio gyda Rhwyfo Cymru er mwyn sicrhau bod pobl anabl ar hyd a lled Cymru’n cael cyfle i rwyfo. O ganlyniad i’w waith, mae dau glwb pellach wedi croesawu athletwyr anabl.

Os nad yw ar y dŵr yn Abertawe, fe gewch hyd i Andrew fwy na thebyg yn teithio i gystadlaethau gyda James. Yn darparu cefnogaeth yn y rhan fwyaf o’r prif bencampwriaethau, mae Andrew bob amser yn dod â gwybodaeth newydd adref gydag o i’w rhannu gyda hyfforddwyr ac athletwyr Cymru.

HYFFORDDWR / ARWEINYDD IEUANC

Noddir gan Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (APCC)

TOM ROGERS (ATHLETAU) Ynys Môn

Mae Tom eisoes wedi cael ei enwi fel Gwirfoddolwr Athletau Ifanc Cymru 2009.

Mae wedi bod yn ymwneud â thîm D17 a D20 Gogledd Cymru ar gyfer y Gynghrair Iau Genedlaethol a hefyd wedi ymwneud ag Athletau Neuadd Chwaraeon yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae’r timau hyn wedi cyrraedd rownd derfynol y DG yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Mae Tom yn rhoi o’i amser bob gyda’r nos bron drwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i ddatblygu athletau yng Ngogledd Cymru. Mae’n allweddol i’r gwaith o drefnu penwythnosau hyfforddi ychwanegol, cystadlaethau a mynychu cyfarfodydd a digwyddiadau er mwyn gwella a datblygu ei ddatblygiad ei hun ymhellach.

Mae’n ymwneud llawer iawn â’r Gemau Ynysoedd Rhyngwladol ac roedd yn allweddol wrth baratoi ar gyfer pencampwriaethau 2007 a gemau 2009 yn Rhodes.

Mae Tom hefyd yn gwirfoddoli ei amser i hyfforddi timau Neuadd Chwaraeon a hefyd mae’n rhoi ei benwythnosau i ofalu am y timau iau wrth deithio’n ôl ac ymlaen o Dde Cymru.

Mae Tom wedi dweud mai ei amcanion yw ymwneud â phencampwriaethau rhanbarthol, rheoli timau sgwadiau cenedlaethol, gwirfoddoli gyda Gemau Ysgolion y DG a hefyd ennill cymwysterau hyfforddi pellach.


EMYR GRUFFYDD AP SIÔN (JIWDO)
Caerfyrddin

Mae Emyr yn Uwch-Hyfforddwr Clwb ac yn Hyfforddwr Perfformiad Elitaidd yng Nghlwb Jiwdo Caerfyrddin ble ceir y nifer mwyaf o aelodau trwyddedig mewn clwb yng Nghymru ar hyn o bryd.

Tan fis Gorffennaf 2009, dysgai yn Judokwai Caerllion, ble gwelwyd cynnydd o 500% yn y cyfranogiad a rhestr aros am ddosbarthiadau.

Er mai dim ond 24 oed yw Emyr, mae eisoes wedi cyflawni llawer iawn fel hyfforddwr, yn cael ei gydnabod gan ei gyfoedion, ei fyfyrwyr a phawb sy’n ymwneud â’i glybiau.

Yn ystod y naw mlynedd diwethaf, mae Emyr wedi ymroi oriau dirifedi i ddysgu a theithio gyda myfyrwyr i gystadlaethau er mwyn eu cefnogi, heb dâl, tra hefyd yn ceisio rhoi sylw i’w yrfa gystadleuol ef ei hun.

Mae ei gnwd presennol o chwaraewyr yn cynnwys wyth o enillwyr medalau ym Mhencampwriaethau Cymru yn 2009, yn cynnwys dau Bencampwr o Gymru; cynrychiolwyr dros Gymru yng Ngemau Ysgolion y DG yn 2009 a beltiau brown a du niferus.

Mae wedi cynhyrchu mwy na 40 o enillwyr medalau ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymru ers 2001, yn cynnwys 15 o Bencampwyr yng Nghymru ac enillwyr medalau niferus ym Mhencampwriaethau Ysgolion Prydain, yn cynnwys dau bencampwr.

NATALIE DAVIES (DAWNS) Maesteg

Mae Natalie Davies, myfyrwraig ym Mlwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Maesteg, wedi mynd o fod yn ddawnswraig i fod yn Arweinydd Dawns gan lunio coreograffi a chymygsu’r gerddoriaeth ar gyfer clybiau Dawns Iau a Hŷn 5x60[1] yn yr ysgol.

Bu’n helpu timau’r grwpiau oedran iau a hŷn i ddod yn ail ym Mhencampwriaethau Dawns Cenedlaethol Ysgolion Cymru a’r safle cyntaf yng Nghystadleuaeth Ddawns Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hwn yn gyflawniad nodedig o ystyried bod yr holl dimau ysgol eraill yn y cystadlaethau’n cael eu hyfforddi gan naill ai athrawon AG neu hyfforddwyr dawns cymwys.

Yn sgil ei gwaith cwbl arbennig, mae nifer o ganolfannau cymunedol, ysgolion, yr Uned Datblygu Chwaraeon a chlybiau eraill ym Mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr wedi gofyn i Natalie rannu ei harbenigedd ac ymwneud â’u rhaglenni hwy.


NIA THOMAS (GYMNASTEG RHYTHMIG)
Llanelli

Mae Nia wedi datblygu o fod yn gystadleuydd i fod yn rheoli’r Sgwad Elitaidd yn Academi Llanelli a Sgwadiau Paratöol ac Uwch Cymru.

Dan ei chyfarwyddyd, mae’r sgwadiau’n dringo’r safleoedd ym Mhrydain ac yn Rhyngwladol. Mae wedi cynhyrchu pencampwyr Prydeinig ac enillwyr medalau’n gyson, mewn sawl categori oedran.

Mae Nia wedi mynd â gymnastwyr Sgwad Cenedlaethol Cymru i gystadlu yng Ngwlad Pwyl, America, Portiwgal a’r Ffindir.

Mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng ei rôl hyfforddi a swydd lawn amser yn gweithio fel Swyddog 5x60 yn Abertawe ac mae hefyd yn hyfforddi yn Academi Llanelli am 18 awr yr wythnos a chwe awr yn Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd.

HYFFORDDWRAIG Y FLWYDDYN

Noddir gan SkillsActive

DR KYLIE WILSON PHD (RYGBI) Llaneirwg, Caerdydd

Mae Kylie wedi cael effaith aruthrol ar rygbi’r merched yng Nghymru. Hi yw Prif Hyfforddwr Merched Dan 20 URC / Cyfarwyddwr Perfformio Rygbi Merched APCC.

Mae wedi bod yn hyfforddi ers deng mlynedd ac mae’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng yr ymrwymiadau hynny a swydd lawn amser fel Uwch-Ddarlithydd a Chyfarwyddwr y Rhaglen Chwaraeon ac AG yn APCC.

Gan ddefnyddio ei phrofiad ei hun fel chwaraewraig ryngwladol, mae ganddi ddealltwriaeth dda o’r hyn sydd ei angen.

Eleni, hyfforddodd APCC i ennill teitl BUCS. Hefyd cipiodd y tîm wobr Tîm y Flwyddyn APCC yn 08/09.

Cyrhaeddodd Cymru D20 y 4ydd safle yng Nghwpan y Cenhedloedd fis Gorffennaf diwethaf hefyd.

Hi oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i dderbyn cymhwyster hyfforddi Lefel Tri.

Mae Kylie hefyd wedi ymwneud â chyflwyno rhaglen Hyfforddiant Gweithredol URC i hyfforddwyr dynion elitaidd Cymru.

PAM RICHARDS (HOCI) Wrecsam

Fel Prif Hyfforddwraig y Merched Hŷn, mae Pam wedi codi safle’r tîm i gipio’r efydd yn Nhlws Cenedlaethol Ewrop yn Rhufain.

Am y tro cyntaf ers 1998, mae tîm y merched wedi cymhwyso i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010. Hefyd, mae’r tîm wedi gwneud yn ddigon da i gael cystadlu yn rowndiau cymhwyso Cwpan y Byd yn 2010.

Mae wedi bod yn hyfforddi ers 15 mlynedd ac mae’n Uwch-Ddarlithydd ac yn Arweinydd Rhaglen ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Mae’n arwain drwy esiampl gan ysbrydoli eraill gyda’i phroffesiynoldeb a’i hymroddiad i’r dasg. Mae’n eithriadol weithgar heb adael unrhyw garreg heb ei throi wrth iddi anelu am y canlyniadau perfformio o’r safon uchaf.

SARAH THOMAS (RHWYFO) Llandaf, Caerdydd

Hi yw Prif Hyfforddwr yr Ieuenctid yng Nghlwb Rhwyfo Llandaf.

Wedi hyfforddi am 15 mlynedd, mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng hyfforddi’r rhwyfwyr addawol a rhedeg busnes bychan.

Dan ei hadain, mae 60 o rwyfwyr ieuainc a hi yw’r brif hyfforddwraig ar wyth o dalentau eraill yn y grwpiau oedran 16+.

Eleni, cafodd tri o’i hathletwyr eu gwahodd i ymuno â Grŵp Hyfforddi Cenedlaethol Cymru.

Enillodd pedwarawd y merched yr aur yn y Regata Rhyng-Ranbarthol Cenedlaethol – aeth dwy o ferched y criw ymlaen wedyn i ennill medal aur yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol yn wythawd Merched Iau Cymru, gan gynrychioli Cymru yn y Regata Rhyngwladol Cartref.

Cyfrannodd ieuenctid Llandaf bump o fechgyn ifanc a dwy ferch ifanc at Dîm Cymru yn 2009 gan ei wneud y garfan fwyaf o unrhyw un clwb. Roedd un bachgen ym Mhedwarawd Sgwlio buddugol y Dynion Ieuainc.

Mae Sarah wedi rhedeg adran iau lwyddiannus yn y clwb rhwyfo yn gyson am naw mlynedd. Mae’r adran hon wedi tyfu’n raddol a chyson flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae Sarah wedi sefydlu tîm hyfforddi a rhwydwaith o wirfoddolwyr.


Mae Gwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn yn cydnabod ac yn anrhydeddu’r hyfforddwyr hynny sy’n gweithio’n ddiflino ar y cyrion er mwyn ysbrydoli llwyddiant.

Enillydd gwobr anrhydeddus Hyfforddwr y Flwyddyn y llynedd oedd hyfforddwr Nofio Cymru, Billy Pye. Cafodd y cyn-löwr o Flaengwynfi flwyddyn ffenomenal gan ennill gwobrau lu fel hyfforddwr yng Ngemau Paralympaidd Beijing.