Newyddion Diweddaraf

Y RHAI GOBEITHIOL AR GYFER LLUNDAIN 2012 YN NODI PENNOD NEWYDD YN HANES Y BYD JIWDO YNG NGHYMRU

29 Hyd 2009

Mae pennod newydd wedi’i hagor ar gyfer y byd jiwdo yng Nghymru heddiw (dydd Iau 29ain Hydref 2009) wrth i’r drysau agor yn swyddogol yng Nghanolfan Jiwdo Genedlaethol newydd Cyngor Chwaraeon Cymru, sy’n werth £1.1 miliwn.

Yn lleoliad hyfforddi a chystadlu ffurfiol, saif y Ganolfan Jiwdo Genedlaethol oddi mewn i Athrofa Chwaraeon Cymru (AChC) yng Nghaerdydd a hwn yw’r cam nesaf ymlaen tuag at ddatblygu cartref i chwaraeon Cymru yn y brifddinas.

Eisoes mae Athrofa Chwaraeon Cymru’n gartref i ddeg o sgwadiau cenedlaethol, yn cynnwys badminton, tenis bwrdd a gymnasteg. Mae’r cyfleusterau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon yn y ganolfan yn denu athletwyr mwyaf talentog ac addawol y byd chwaraeon yng Nghymru.

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:

"Rydym yn hynod falch o fod wedi agor y drysau i’n sêr yn y dyfodol a gallu darparu iddynt sylfaen ragorol o gyfleoedd ar gyfer adeiladu arni. Mae’r cyfleuster newydd hwn yn ychwanegiad pwysig arall at ein darpariaeth wych yng Nghymru a bydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod ein talentau jiwdo ieuainc yn cael y cyfle gorau posibl i ragori ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Cymdeithas Jiwdo Cymru mewn sefyllfa yn awr i gyflawni yn sgil y buddsoddiad hwn ac edrychwn ymlaen at ddyfodol disglair ar gyfer chwaraeon."

Gwelwyd y cyn-Bencampwr Olympaidd a Byd, Kosei Inoue, yn dathlu’r achlysur mewn arddull jiwdo draddodiadol drwy wneud y tafliad cyntaf ar y matiau gydag un o obeithion Cymru am fedalau yn y dyfodol, Sam Hill, ac meddai:

Rwy’n falch iawn o fod yn helpu i agor y dojo newydd bwysig hon. Diolch yn fawr i Lywodraeth Cynulliad Cymru am eu cefnogaeth i’n camp ni. Mae hwn yn gyfleuster rhagorol a fydd yn helpu’r chwaraewyr jiwdo yng Nghymru i ddatblygu. Rwy’n siwr y byddant yn llwyddo mewn cystadlaethau a hefyd mewn jiwdo fel ffordd o fyw."

Roedd naw pellach o obeithion y genedl am fedalau yn y dyfodol wrth law hefyd i ddathlu lansiad y ganolfan hyfforddi newydd, fodern, canolfan a fydd yn meithrin talentau Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer Gemau Llundain 2012 a thu hwnt i hynny.

Mae’r cyfleuster newydd yn cynnwys arena ymarfer ar y llawr cyntaf – sy’n cynnwys matiau parhaol sy’n 26m x 14m, wal ddringo er mwyn helpu i ddatblygu cryfder y chwaraewyr a seddi ar gyfer 80 o wylwyr. Mae canolfan wyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon gynhwysfawr wedi cael ei datblygu hefyd ac mae eisoes o fudd i nifer o athletwyr mewn chwaraeon amrywiol.

Wedi hyrwyddo’r angen am gyfleuster penodol i fod cystal â’r rhai dros y ffin, mynegodd, Keven Williams, Cadeirydd Cymdeithas Jiwdo Cymru, ei falchder o fod yn bresennol yn agoriad Canolfan Jiwdo Cymru:

"Rydym yn hynod falch bod y syniad am Ganolfan Jiwdo Genedlaethol wedi dwyn ffrwyth wedi blynyddoedd lawer o waith caled. Mae Cymdeithas Jiwdo Cymru’n falch o fod yn dangos y ffordd gyda datblygiad y Tŷ Chwaraeon yma yn Athrofa Chwaraeon Cymru. Mae cyfleoedd gwych ar y gorwel i’r byd Jiwdo yng Nghymru ac, ar ran cenedlaethau’r dyfodol o chwaraewyr, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl."

Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

"Rwy’n falch iawn yn awr o weld y dojo newydd yn cael ei agor yn Athrofa Chwaraeon Cymru a mae’n sicr o fod o fudd mawr i’r byd jiwdo yng Nghymru. Mae’n ychwanegu cyfleuster chwaraeon arall o safon ryngwladol at gasgliad trawiadol Cymru eisoes a bydd yn rhoi cartref i’r gamp hon yng Nghymru – rhywbeth nad ydyw wedi’i gael o’r blaen. Mae’r buddsoddiad hwn gan Gyngor Chwaraeon Cymru’n fuddsoddiad yn y dyfodol ac yn un a fydd yn dwyn ffrwyth mew cystadlaethau rhyngwladol am flynyddoedd i ddod gobeithio."