CANOLFAN RAGORIAETH NEWYDD YN GOSOD RYGBI CYMRU AR FLAEN Y GAD WRTH DDATBLYGU CHWARAEWYR
28 Hyd 2009
Mae Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol newydd gwerth £4 miliwn URC, sy’n darparu cyfleusterau hyfforddi ac ategol, eisoes yn cael ei chanmol fel canolfan na welwyd mo’i thebyg o’r blaen yn y byd rygbi ac mae wedi cael ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog, Rhodri Morgan.
O hyn ymlaen, bydd pob chwaraewr rygbi rhyngwladol a ddewisir i gynrychioli Cymru ar unrhyw lefel yn ymarfer yn yr un ganolfan gyda’r caeau, y cyfleusterau ymarfer, yr offer meddygol, yr hyfforddwyr a’r personél atgeol gorau’n bod, i gyd wrth law i’w helpu i geisio rhagoriaeth.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi £1.5 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol a darparodd URC y £1m pellach oedd ei angen i gwblhau’r prosiect.
Mae "ysgol orffen" perfformiad uchel wedi cael ei chreu ar Gampws y Vale ger Caerdydd, lle darperir ar gyfer pob agwedd ar baratoi ar gyfer rygbi rhyngwladol.
Mae’r cyfleuster yn gartref hefyd i Academi Genedlaethol newydd URC, a fydd yn dewis chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion gemau o’r safon uchaf o gamp y dynion a’r merched ar gyfer hyfforddiant arbenigol a phersonol ar y lefel uchaf.
Hefyd, mae sgwad Pencampwyr Rygbi Saith Cymru a enillodd Gwpan y Byd wedi’i leoli yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol, fel elfen graidd o strwythur llwybr rhyngwladol Cymru.
Ceir tri chae awyr agored maint llawn ar y safle ynghyd â pharthau hyfforddi sgiliau allanol lle gall y chwaraewyr ganolbwyntio ar dechnegau’r sgrym a’r llinell ac ar berfformiad.
Mae gan un o’r tri chae arwyneb bob tywydd a llifoleuadau llawn er mwyn caniatáu sesiynau ymarfer yn ystod y dydd a’r nos drwy gydol y flwyddyn.
Ochr yn ochr â’r cae bob tywydd 3G hwnnw ceir ail gae glaswellt maint llawn sydd hefyd yn cynnwys llifoleuadau llawn yn cyrraedd safonau darlledu ar y teledu.
Mae gan y trydydd cae awyr agored arwyneb glaswellt sy’n cyrraedd safon y gemau rhyngwladol ac mae’n union yr un maint â chae Stadiwm y Mileniwm lle mae tîm hŷn Cymru’n chwarae eu gemau prawf cartref.
Mae’r prif adeilad yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol URC yn cynnwys dau floc gweinyddu a hyfforddi, ystafelloedd newid, ystafelloedd y timau, campfa gydag offer llawn a chae dan do artiffisial 3G yn union yr un safon â’r fersiwn awyr agored.
Mae un bloc gweinyddu yn yr adeilad yn cynnwys tîm ategol y sgwad cenedlaethol hŷn, sef y Prif Hyfforddwr, Warren Gatland, ei gynorthwywyr, ei ddadansoddwyr, ei gyflyrwyr, ei ffisiotherapyddion, ei dîm meddygol a’r staff gweinyddu’r sgwad.
Yr ochr arall i’r Ganolfan Ragoriaeth Cenedlaethol, dan oruchwyliaeth Pennaeth Perfformiad a Datblygiad Rygbi URC, Joe Lydon, mae staff strwythur llwybr rhyngwladol Cymru ar gyfer chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion gemau, a staff yr Academi Genedlaethol, wedi’u lleoli.
Y cysyniad ar gyfer cynllun yr adeilad yw bod y chwaraewyr rhyngwladol sydd wedi’u dethol o’r newydd yn dod i mewn i’r system drwy gyfrwng drws y llwybr rhyngwladol ac yn anelu at gyrraedd y nod pennaf o sicrhau lle yn y Sgwad Cenedlaethol.
Mae’n amgylchedd hyfforddi hynod gystadleuol ble mae’r chwaraewyr yn derbyn cefnogaeth eithriadol flaengar ar gyfer eu sgiliau chwarae, y cyflyru a’r datblygiad oddi ar y cae.
Mae’r tîm hŷn wedi bod yng Nghampws y Vale ers sawl blwyddyn bellach ond gyda’r buddsoddiad newydd a helaeth hwn, mae’r cyfleusterau wedi cael eu trawsnewid i fod yn ganolfan ragoriaeth gwbl nodedig at ddefnydd rygbi rhyngwladol Cymru yn unig.
Bydd y chwaraewyr rhyngwladol hŷn a chwaraewyr y sgwad yn parhau i aros yng ngwesty Campws y Vale sydd gerllaw pan maent ar ddyletswydd yn paratoi ar gyfer gornest Chwe Gwlad yr RBS, y teithiau haf a gemau Cyfres Invesco yn y dyfodol.
Mae’r gwariant o £5 miliwn i sicrhau’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol fel canolfan benodol gyda chyfleusterau modern yn cwblhaua gwariant cyffredinol o bron i £4m sy’n cynnwys costau cyfalaf a rhedeg yn y ganolfan cyn heddiw.
Mae URC yn ddyledus hefyd i Gerald a Stephen Leeke sydd wedi galluogi i’r cyfleuster rhagorol hwn gael ei leoli ar gampws Gwesty a Sba y Vale.
Meddai Prif Weithredwr Grŵp URC, Roger Lewis:
"Rwy’n hynod falch bod gan Gymru gyfleuster hyfforddi a datblygu rhyngwladol yn awr a fydd yn ennyn eiddigedd y byd rygbi cyfan.
"Mae wedi golygu llawer iawn o waith caled ac ymroddiad er mwyn cyflawni hyn a’r canlyniad ar y diwedd yw Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol y gall Cymru gyfan fod yn falch ohoni.
"Cynrychiola’r ganolfan hon ddatganiad i weddill y byd ein bod yn gwbl ymroddedig i’r flaenoriaeth o greu tîm llwyddiannus yng Nghymru, tîm a fydd yn arwain ac yn cynnal ein camp genedlaethol am genedlaethau i ddod.
"Mae’r cyflawniad hwn yn dangos ein bod yn wynebu gofynion a her yr oes broffesiynol yn llawn ac yn hyderus a’n bod ni yng Nghymru’n benderfynol o gystadlu ar lefel uchaf un y gamp.
"Mae Warren Gatland yn arwain un o’r timau hyfforddi ac ategol gorau yn y byd rygbi yn awr; Joe Lydon yw ein Pennaeth Perfformiad a Datblygiad Rygbi newydd yn arwain gyda strwythur y llwybr rhyngwladol ac mae ein systemau a’n strwythurau wedi parhau i gael eu perffeithio a’u hailsiapio.
"Drwy greu Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol rydym yn dangos ein bod yn deall yr angen am fuddsoddi mewn talent a darparu’r strwythurau cefnogi gorau posibl.
"Mae URC yn berchen ar ac yn gweithredu cartref rygbi Cymru yn Stadiwm y Mileniwm hefyd ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r Undeb wedi sicrhau canlyniadau ariannol gwell nag erioed ac wedi buddsoddi mwy yn y gamp ar bob lefel nag erioed o’r blaen.
"Rydym yn gwybod bod gennym sawl her i’w hwynebu eto ond gallwn eu hwynebu’n hyderus ein bod wedi paratoi’n briodol ac yn broffesiynol i gystadlu’n erbyn y goreuon.
"Heddiw rydym yn edrych ymlaen at chwarae’n erbyn Crysau Duon Seland Newydd, Samoa, yr Ariannin ac Awstralia yng Nghyfres Ryngwladol yr Hydref Invesco, cyfres a fydd yn cadw ein cefnogwyr i gyd ar ymyl eu sedd.
"Mae rygbi’n diffinio Cymru fel cenedl ac fel Prif Weithredwr y Grŵp mae gennyf gyfrifoldeb mawr i bawb sy’n chwarae ac yn cefnogi rygbi yng Nghymru. Mae lansio’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol newydd hon yn brawf o’n hymroddiad ni.
"Hoffwn ddiolch i Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru am rannu ein gweledigaeth a chreu cylch o gryfder a chydweithrediad, sydd wedi sicrhau bod modd i hyn i gyd ddigwydd.
"Hefyd mae Gerald a Stephen Leeke wedi bod yn allweddol wrth rannu ein gweledigaeth a pheidio â gadael unrhyw garreg heb ei throi er mwyn sicrhau bod y ganolfan yn realiti yma, heddiw."
Meddai’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan:
"Mae datblygu’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol hon wedi bod yn nod gan Undeb Rygbi Cymru ers tro byd. Heddiw, mae’r Undeb yn haeddu cael ei llongyfarch am sicrhau bod y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth. Bu’r Cyngor Chwaraeon yn allweddol yn hyn o beth ac fe hoffwn ganmol eu hymroddiad a’u cefnogaeth hwy."
"Bydd y cyfleuster modern hwn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’n Sgwadiau Cenedlaethol ragori ac ennill y gemau hynny lle mae’r dau neu dri y cant ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth rhwng ennill neu golli."
"Mae perfformiadau timau rhyngwladol Cymru ar bob lefel yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dangos gwelliannau ac mae’r cyfleusterau rhagorol sydd yn eu lle yn awr yn golygu y gall cefnogwyr rygbi Cymru, pobl fel fi, edrych ymlaen at ragor o’r un peth a gwell perfformiadau a chanlyniadau hefyd gobeithio gan ein timau cenedlaethol yn y dyfodol, wrth i’r diwylliant o ragoriaeth sydd eisoes yn ei le yn y byd rygbi yng Nghymru ledaenu ei wreiddiau, tyfu a dwyn ffrwyth. Ni yw pencampwyr Rygbi Saith y Byd. Rydym eisiau bod yn ennill pencampwriaethau ar bob lefel yn y byd rygbi. Gallai’r ganolfan hon sicrhau ein bod yn rhagori. Rydym wedi bod yn araf yn croesawu proffesiynoldeb i’r byd rygbi, ond nid dim ond dal i fyny fyddwn ni’n awr – rydym wedi brasgamu heibio i wledydd eraill."
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Phil Carling:
"Drwy gyfrwng cyllid y Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi gallu creu cyfleusterau allweddol ledled Cymru. Er mwyn sicrhau llwyddiant mewn chwaraeon, mae’n rhaid i hyfforddwyr, athletwyr a thimau gael amgylchedd priodol i ymarfer a pherffeithio eu talent ynddo. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol newydd yn ymuno â nifer o ganolfannau cenedlaethol eraill sydd wedi’u cefnogi gan y Loteri, fel y Felodrom yng Nghasnewydd, Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe a’r ganolfan hwylio genedlaethol ym Mhlas Menai – campau y mae Cymru a PF wedi profi llwyddiant na welwyd ei debyg o’r blaen ynddynt. Mae’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yn un ddiguro ac mae’n cadarnhau ymhellach bod Cymru’n bwerdy allweddol yn y byd rygbi."
Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:
"Mae hwn yn gyfleuster o safon byd ar gyfer timau rygbi o safon byd ac fe hoffwn longyfarch Undeb Rygbi Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru ar eu gweledigaeth a’u hymroddiad wrth gyflwyno’r prosiect hwn. O ystyried y llwyddiant y mae rygbi Cymru wedi’i brofi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yn unig o ran perfformiadau’r tîm hŷn yn ddiweddar ond hefyd y perfformiadau a’r canlyniadau rhagorol gan dimau’r oedrannau amrywiol, tîm hŷn y merched a’r sgwad Rygbi Saith sy’n bencampwyr byd, bydd y Ganolfan Ragoriaeth newydd hon yn rhoi hwb pellach yn sicr i gyflwyno perfformiadau cystal yn y dyfodol a rhagori arnynt."
Meddai Cadeirydd URC, David Pickering:
"Mae creu Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol yn bennod newydd bwysig yn hanes ein camp genedlaethol.
"Mae Cymru bob amser wedi bod â thalent a all gystadlu gyda’r gorau ymhlith ei chwaraewyr ond rydym i gyd yn gwybod bod raid i chwaraewyr proffesiynol y gamp fodern weithio’n ddiflino er mwyn cyrraedd eu llawn botensial.
"Cenedl fechan yw Cymru a bydd lefel yr arbenigedd sydd wrth law yn awr yn ein systemau a’n strwythurau’n sicrhau y byddwn yn canfod ac yn meithrin dynion a merched ieuainc sydd â thalent i fod yn chwaraewyr rhyngwladol llawn."
Mae’r caeau awyr agored a dan do newydd yng Nghanolfan Ragoriaeth Genedlaethol newydd URC wedi cael eu gosod drwy gydol yr haf fel rhan o brosiect adeiladu ac adnewyddu a ddechreuwyd ddeuddeng mis yn ôl.
Heddiw (dydd Mercher), dadorchuddiodd y Prif Weinidog ddau blac yn y CRG i agor y cyfleuster yn swyddogol.
Roedd y plac cyntaf y tu mewn i’r adeilad gweinyddu a hyfforddi, sydd bellach yn bencadlys newydd y CRG.
Roedd yr ail blac wedi’i leoli ar garreg goffa ochr yn ochr â’r cae artiffisial awyr agored ac mae’n dathlu grant y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd gan Gyngor Chwaraeon Cymru i’r cyfleuster.
Bydd y CRG yn gartref i wasanaethau hyfforddi a datblygu ar gyfer hyfforddwyr rygbi a swyddogion gemau Cymru, a fydd yn hyfforddi ochr yn ochr â’r sgwadiau chwarae rhyngwladol.
Mae Rheolwr yr Academi Genedlaethol, Phil Davies, yn gweithredu ei dîm a’i strwythur newydd o galon y CRG er mwyn creu llinell gynhyrchu o dalent ar gyfer rygbi Cymru.
Mae’r systemau a’r strwythurau a fabwysiadwyd oddi mewn i’r ganolfan newydd yn golygu y bydd holl strwythurau gweithredol a chefnogi’r llwybr rhyngwladol yn cael eu hunioni â’r sgwad rhyngwladol er mwyn sicrhau system ddatblygu talent gydlynol ar gyfer rygbi Cymru.
Hyd yma, mae sgwadiau rhyngwladol Cymru, yn cynnwys y tîm hŷn, wedi bod yn ymarfer mewn lleoliadau dan do ac awyr agored amrywiol wrth baratoi ar gyfer gemau a thwrnamentau.
Meddai Cyfarwyddwr Rheoli Campws y Vale, Stephen Leeke:
"Ein huchelgais yn y Vale oedd creu busnes o safon byd wrth gynnig lletygarwch, busnes sy’n cynnig fel rhan greiddiol rai o’r cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd gorau sydd ar gael yn unrhyw le yn Ewrop.
"Er mwyn sefydlu’r cyfleuster safon byd helaeth a blaengar hwn ar gyfer URC, roedd angen gweledigaeth a phenderfyniad. Y realiti yw bod partneriaeth gref ac unigryw rhyngom ni, URC a’r Cyngor Chwaraeon wedi arwain at un o’r cyfleusterau ymarfer gorau yn y byd ar gyfer rygbi.
"Fel busnes teuluol annibynnol, rydym yn eithriadol falch o fod wedi helpu i gyflawni hyn. Mae’n dynodi pennod bwysig arall yn hanes y gefnogaeth a’r buddsoddiad ers dros 20 mlynedd y mae Leekes a’r Vale wedi’u cyfrannu er mwyn datblygu chwaraeon yng Nghymru, o lefel gyffredin i lefel ryngwladol."
Meddai Pennaeth Perfformiad a Datblygiad Rygbi URC, Joe Lydon:
"Mae’r cyfleuster newydd hwn yn cymharu’n dda gyda’r holl gyfleusterau rwyf wedi’u gweld neu wedi gweithio ynddynt yn y byd ac yn gam anferth ymlaen ar gyfer y byd rygbi yng Nghymru.
"Rydym bellach yn gweithredu athroniaeth yn troi o amgylch y chwaraewr a’r hyfforddwr, yn seiliedig ar ddatblygiad a gyda chefnogaeth cystadleuaeth a fynegir ar ffurf amrywiaeth o ddisgyblaethau dan yr un to yn y ganolfan newydd.
"Mae hwn yn amgylchedd ysbrydoledig lle gall pob chwaraewr ieuanc deimlo ei fod yn cael cyfle i gyflawni rhywbeth arbennig iawn gyda’i fywyd.
"Nid siawns sy’n rheoli bellach, bydd y systemau, y strwythurau a’r bobl sydd gennym yn eu lle’n arwain at fanteision anhygoel i ddyfodol rygbi yng Nghymru.
"Rydym i gyd yn gwybod faint o ofynion sydd o ran sgiliau, grym, deall y gamp a chyflyru ar gyfer ein chwaraewyr gorau ac mae’n rhaid i ni felly roi iddynt gymorth priodol, proffesiynol a strwythuredig er mwyn eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial
"Mae gan rygbi yng Nghymru gefndir a hanes balch ac anhygoel sy’n rhan annatod o ffabrig ysbrydol y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol – drwy barchu’r gorffennol rydym yn gobeithio datblygu’r dyfodol – ac rwy’n sicr y bydd pob chwaraewr a fydd yn cerdded i mewn drwy’r drysau hyn yn cerdded allan wedi cael eu hysbrydoli i roi eu gorau un dros eu gwlad.
"Mae URC, gyda chymorth ein partneriaid perfformio, wedi datblygu cyfleuster hyfforddi o safon byd ar gyfer athletwyr, hyfforddwyr a swyddogion gemau dethol. Nid yw cyfleusterau fel y rhain yn gwarantu llwyddiant ond maent yn cynnig cyfle i unigolion a thimau sicrhau llwyddiant."
Meddai Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland:
"Rydym bellach wedi creu amgylchedd gweithio ysbrydoledig lle gall yr hyfforddwyr a’r chwaraewyr ganolbwyntio ar ddatblygu a pharatoi ar gyfer gemau.
"Un o’n gwerthoedd craidd yw bod pob chwaraewr yn atebol i siwmper goch Cymru ac os ydym yn gofyn iddynt roi popeth i ni, mae gennym ninnau ddyletswydd i’w helpu hwy cymaint ag y gallwn ni ac mewn ffordd mor broffesiynol ag y gallwn i.
"Drwy greu’r cyfleuster gwych hwn, rydym yn trin ein chwaraewyr i gyd gyda’r parch mwyaf a nawr gallwn ofyn iddynt hwythau roi eu gorau dros Gymru.
"Rydym eisoes yn mwynhau’r manteision o gydweithio dan un to ac mewn un lleoliad, felly rydym yn cael digon o gyfleoedd i ryngweithio a rhannu syniadau.
"Rydym yn gwybod bod talent amrwd yn bodoli ar bob lefel yng Nghymru a’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yw’r union le i feithrin a datblygu’r dalent honno.
"Mae pob un ohonom yn y sgwad cenedlaethol yn hynod falch bod Undeb Rygbi Cymru wedi meddu ar y weledigaeth a’r penderfyniad i sicrhau bod y cyfleuster hwn yn cael ei ddarparu ar gyfer ein sgwadiau cenedlaethol."
