WYNEBU’R HER
23 Hyd 2009
Roedd 2008-9 yn flwyddyn anhygoel i chwaraeon yng Nghymru. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cymryd amser i edrych yn ôl ar y llwyddiannau yn ei Adolygiad Blynyddol, a lansiwyd yr wythnos hon.
Mae’r adolygiad, sy’n dwyn y teitl priodol, Wynebu’r Her, yn edrych yn ôl ar gyflawniadau allweddol ar lefel gymunedol ac elitaidd.
Mae Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling, yn tynnu sylw at y llwyddiannau yn Beijing ac yn egluro: "Mae wedi bod yn flwyddyn wych i chwaraeon Cymru ac i’n hathletwyr. Nawr mae’n rhaid i ni edrych ymlaen at 2012 a gwneud yn fawr o’r manteision sydd i’w cael yn sgil y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Llundain. Bydd y Gemau’n ysbrydoliaeth ac yn cynnig hwb i adeiladu arno. Mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r hwb yma i ddarparu treftadaeth o ragoriaeth a chyfranogiad cynyddol."
Mae Mr Carling yn hapus hefyd gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud yng nghymunedau Cymru:
"Mae’r mentrau ar lefel gyffredin yn mynd o nerth i nerth ac yn llwyddo i gael mwy a mwy o bobl ieuainc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol."
Mae’r adolygiad hefyd yn edrych ymlaen at ac yn cynnwys blas ar rai o’r pethau sydd i ddod gan y Cyngor Chwaraeon. Meddai Huw Jones, y Prif Weithredwr:
"Fel sefydliad sy’n gwneud cynnydd, ni fydd y Cyngor Chwaraeon yn sefyll yn ei unfan yn sgil y llwyddiannau hyn. Rydym wedi neidio’r glwyd gyntaf mewn ras hir iawn i gael y genedl i fod yn egnïol ac rydym yn ymroddedig i barhau â’r gwaith hwn.
"Mae’r tair blynedd nesaf yn cynnig cyfleoedd real a sawl her arwyddocaol i ni wrth i ni barhau â’r momentwm hwn a chyflawni ein huchelgais."
Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at y ffaith y bydd partneriaid a gwirfoddolwyr yn parhau i fod yn allweddol yn y gwaith o sicrhau cenedl chwaraeon iach a llwyddiannus.
Am wybodaeth bellach am waith y Cyngor Chwaraeon a’i bartneriaid, cymerwch olwg ar yr Adolygiad Blynyddol - ar gael ar ben y dudalen yma.
