Newyddion Diweddaraf

GWAITH ADNEWYDDU’N GOSOD CANOLFAN DENIS GOGLEDD CYMRU YMHLITH Y GOREUON

15 Rhag 2009

Bydd datblygiad cyfleusterau gwerth £500,000 yng Nghanolfan Denis Ranbarthol Gogledd Cymru’n cael ei agor yn swyddogol ddydd Gwener (Hydref 23) gan Derek Howorth, Llywydd y Gymdeithas Denis Lawnt (CDL). (O Tenis Cymru)

Mae’r gwaith adnewyddu helaeth yn y ganolfan yn Wrecsam yn cynnwys cwrt dan do newydd, dau gwrt tenis mini newydd a chwrt awyr agored newydd, yn ogystal â man gwylio newydd ar y llawr isaf.

Mae’r gwelliannau’n gwneud y ganolfan y ganolfan fwyaf yng Nghymru a’r unig ganolfan yn y DG gyda chyrtiau tenis mini parhaol. Bydd y cyrtiau i gyd ar gael i’r cyhoedd ar sail talu a chwarae ac ar gyfer eu defnyddio gan academi lwyddiannus y ganolfan.

"Mae’r datblygiad hwn yn cadarnhau safle’r ganolfan fel lleoliad llawn bwrlwm ar gyfer gweithgarwch tenis, ar gyfer chwaraewyr hamdden o bob oedran ac ar gyfer chwaraewyr elitaidd," meddai Deborah King, cyfarwyddwr y ganolfan a chadeirydd Tenis Cymru.

"Mae’r gefnogaeth rydym wedi’i chael gan CDL, Cyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn amhrisiadwy. Dyma’r math o fuddsoddiad a fydd yn helpu Tenis Cymru i gyrraedd y nodau yn ein cynllun pedair blynedd newydd, sy’n canolbwyntio’n benodol ar annog mwy o bobl i chwarae tenis ac ar gefnogi datblygiad ein chwaraewyr iau sydd ymhlith safleoedd y byd."

Mae’r cynllun pedair blynedd, sy’n amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer Tenis Cymru tan fis Medi 2013, yn cynnwys amrywiaeth o fesurau ar gyfer llwyddiant: nifer yr ieuenctid o Gymru ymhlith y gorau ym Mhrydain; nifer y chwaraewyr iau sy’n cystadlu’n rheolaidd; nifer y clybiau gyda statws Clubmark; nifer yr Aelodau o Denis Prydain yng Nghymru; a chyfranogiad a datblygiad cymunedol.

Ymhlith y rhaglenni penodol yn y cynllun mae llwybr chwaraewyr Cymru i helpu i ddatblygu chwaraewyr addawol a hyfforddi trefnyddion cystadlaethau i gynnal a datblygu safon uchel y cystadlaethau ledled Cymru.

"Mae’r cynllun pedair blynedd yn cyflwyno gweledigaeth gyffrous ar gyfer tenis yng Nghymru," meddai Ms King. "Mae’r gwelliannau rhagorol yma yn Wrecsam yn ffordd wych o gael y broses i symud."

"Rydym yn rhagweld y gall y cyrtiau tenis mini yn unig ddenu mwy na 460 o chwaraewyr iau ychwanegol at y gamp bob wythnos, yn cynnwys chwe ysgol ychwanegol."

Yn ymuno â Llywydd CDL, Derek Howorth, a chadeirydd Tenis Cymru, Deborah King, yn yr agoriad bydd Cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cynrychiolwyr o Denis Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru, Read Construction a noddwyr eraill y ganolfan a phrosiect yr estyniad. Mae ASau lleol a chynrychiolwyr o glybiau tenis Gogledd Cymru wedi derbyn gwahoddiad hefyd.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi cyfrannu £25,000 at y gwelliannau diweddaraf, gan wneud ei fuddsoddiad mewn tenis yng Ngogledd Ddwyrain Cymru’n £340,000 bron yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Meddai cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling: "Mae Canolfan Denis Wrecsam yn gyfleuster chwaraeon allweddol yng Ngogledd Cymru. Rydym yn eithriadol gyffrous oherwydd y potensial anferth ar gyfer cynyddu cyfranogiad yr ieuenctid a gynrychiolir gan y datblygiad hwn. Mae sgôp holl nodau’r prosiect, sy’n cynnwys cynnydd anferth mewn cyfranogiad iau, gwell adnoddau hyfforddi a strwythur cystadlu cryfach, yn dynodi cam enfawr ymlaen tuag at wireddu treftadaeth chwaraeon arwyddocaol yng Nghymru."

Mae gwybodaeth am bob agwedd ar denis yng Nghymru ar gael gan Denis Cymru ar 029 20 463335 neu www.tenniswales.org.uk