Y CYNGOR CHWARAEON YN CROESAWU’R AILFEDDWL YNGHYLCH CAU CYFLEUSTERAU AR YNYS MÔN
10 Medi 2009
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi croesawu’r penderfyniad i ailfeddwl ynghylch cau cyfleusterau hamdden ar Ynys Môn ac mae’n annog arweinwyr y cyngor i roi lle canolog i anghenion y cymunedau lleol yn eu hymchwiliad.
Mae sefydliad chwaraeon cenedlaethol Cymru’n datgan mai cynllunio hirdymor yw’r elfen allweddol er mwyn sicrhau bod cymunedau Cymru’n gallu gwneud defnydd o gyfleusterau chwaraeon a hamdden o safon uchel ar garreg eu drws.
Meddai Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, Dr Huw Jones:
"Gyda phwysau cynyddol ar gyllid, rydym yn ofni mai darpariaethau anstatudol, fel cyfleusterau chwaraeon, fydd y rhai cyntaf i wynebu toriadau.
"Efallai fod y penderfyniad i gau cyfleusterau chwaraeon yn ymddangos yn ateb rhwydd o gymharu â phosibiliadau eraill yn y byrdymor, ond mae’r effaith niweidiol hirdymor o gau cyfleusterau o’r fath yn gallu bod yn arwyddocaol iawn.
"Un effaith fyddai colli cyfleoedd i bobl ieuainc gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Byddant yn ymddieithrio oddi wrth eu cymunedau lleol ac, o ganlyniad, yn llai tebygol o ddatblygu’n aelodau crwn a chyflawn o gymdeithas."
Mae’r Cyngor Chwaraeon yn cydnabod mai’r awdurdodau lleol sy’n gyfrifol, yn y pen draw, am y penderfyniadau ynghylch cau cyfleusterau ai peidio ond mae am dynnu eu sylw at yr angen am wneud penderfyniadau doeth – yn seiliedig ar anghenion chwaraeon a hamdden y cymunedau.
Meddai Rheolwr Rhanbarthol CChC yng Ngogledd Cymru, Graham Williams:
"Cyn cau unrhyw gyfleusterau, byddem yn disgwyl asesiad llawn o bortffolio’r Cyngor o adeiladau hamdden, yn cynnwys sylw i gost, cyflwr ac, yn allweddol, defnydd, er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau hynny sy’n darparu adnodd gwerthfawr i’r gymuned yn cael eu cadw.
"Rydym yn credu’n gryf bod raid i awdurdodau lleol gynllunio sut i wneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd a byddem yn falch o gynnig cyngor a chyfarwyddyd pellach ynghylch cynllunio yn yr hirdymor."
Yn ddiweddar, lansiodd y Cyngor Chwaraeon ei ymgyrch Amser i Weithredu, ymgyrch yn cymeradwyo’r defnydd ehangach o gyfleusterau chwaraeon mewn ysgolion i roi hwb i lefelau gweithgarwch corfforol a ffitrwydd y genedl.
Mae gwneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau presennol, fel ysgolion, yn cael ei ystyried fel un dull posibl o weithredu wrth wynebu a goroesi’r wasgfa ariannol a deimlir gan lawer o awdurdodau lleol fel Ynys Môn ar hyn o bryd.