Newyddion Diweddaraf

Ysgol Tre-gŵyr ar Frig y Tabl

1 Medi 2009

Mae Ysgol Gyfun Tre-gŵyr wedi cael ei henwi’n Ysgol y Mis 5x60 ar gyfer mis Medi am ei hymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.

Dyfarnwyd y teitl anrhydeddus hwn gan Gyngor Chwaraeon Cymru, a wnaeth ei benderfyniad ar sail darpariaeth yr ysgol o weithgareddau allgyrsiol. Diben 5x60 yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Ers i’r swyddog 5x60, Sarah McCoubrey, ddechrau gweithio yn yr ysgol yn 2004, mae mwy o blant wedi bod yn dawnsio, yn syrffio ac yn sbrintio.

Meddai McCoubrey, sy’n 27 oed, "Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd yn yr ysgol yw’r sesiynau dawnsio stryd. Rydym yn cystadlu mewn cystadlaethau dawns lleol a chenedlaethol a nawr mae gennym dri chlwb yn weithredol yn yr ysgol – mae’r plant wedi elwa’n fawr o’r profiad.

"Ymhlith y gweithgareddau poblogaidd eraill mae sesiynau codi hwyl mewn gemau, badminton, ffensio, pêl fasged a phêl rwyd i enwi dim ond rhai. Yn fras, mae gennym 10 o weithgareddau chwaraeon yn yr ysgol nawr ac felly mae digon o ddewis i bawb.

Mae McCoubrey wedi denu bron i 45% o’i disgyblion i gymryd rhan yng ngweithgareddau 5x60 yn yr ysgol. Meddai wedyn, "Mae’r disgyblion yn cynnig awgrymiadau’n aml am sesiynau a gweithgareddau chwaraeon, sy’n grêt, ac yn gynhyrchiol iawn. Mae’r plant, yn ogystal â’r ysgol, wedi croesawu’r rhaglen hon ac mae nifer y plant sy’n cymryd rhan yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn."

Mae Ysgolo Gyfun Tre-gŵyr hefyd yn cynnal sesiynau syrffio, dringo creigiau, pêl droed i enethod, lacrosse, rygbi tag a chodi hwyl mewn gemau.

Mae 5x60 wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol mewn ysgolion yng Nghymru ac mae 98% o’r ysgolion uwchradd prif ffrwd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun yn awr.

Mae ymdrechion Cyngor Chwaraeon Cymru ac Abertawe Egnïol, a gwasanaethau chwaraeon a hamdden Cyngor Abertawe, wedi galluogi i bob ysgol uwchradd yn Abertawe fod yn rhan o’r cynllun, gan sicrhau bod mwy o bobl ieuainc ledled y ddinas yn cael pob cyfle posibl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.