ARWEINYDD AWYDDUS POWYS YN CIPIO TEITL PWYSIG
1 Medi 2009
Mae Kate Preston, sy’n gweithio yn Ysgolion Uwchradd Y Drenewydd a Llanidloes, wedi cael ei chydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru am ei hymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Wedi cael ei henwi fel Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Medi, dim ond un o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru ac a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw Kate.
Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Sir Powys, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae’r ferch 23 oed o Lanidloes – a chwaraeai’r corned i Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru pan oedd yn iau – wedi darbwyllo llu o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinell ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60.
Mae wedi bod yn y swydd ers bron i ddwy flynedd ac wedi cyflwyno amrywiaeth helaeth o weithgareddau allgyrsiol yn ystod y cyfnod hwn, gyda phêl osgoi, dawns a phêl fasged yn profi fwyaf poblogaidd.
Meddai, "Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phobl ieuainc ac yn darparu gweithgareddau hwyliog a chyffrous, gweithgareddau na fyddent yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt oni bai am brosiect 5x60."
"Mae gallu cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bob gallu, yn ystod eu gwersi weithiau, yn rhoi llawer o foddhad ac mae o gymorth i feithrin hunanhyder ymhlith y disgyblion wrth iddynt gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol allgyrsiol."
Meddai Nic Davies, Athro AG yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, "Mae Kate yn Swyddog 5x60 gweithgar a brwd sydd wedi cael effaith aruthrol ar y cyfranogiad mewn gweithgareddau allgyrsiol yn Ysgol Uwchradd Llanidloes. Mae’n awyddus i gymell y disgyblion i gyd i gymryd rhan drwy gynnig nifer fawr o gyfleoedd amrywiol."
Yn hapus iawn gyda llwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru’n profi’n llwyddiannus wrth hudo disgyblion oddi ar y llinell ochr ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gweithgareddau fel codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd a golff Frisbee yn annog hyd yn oed y rhai mwyaf amharod i gymryd rhan ac maent yn cynnig llwybr arall, gwahanol i lwybr y chwaraeon traddodiadol, gan sicrhau ffordd o fyw egnïol."
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.
