Newyddion Diweddaraf

YSGOLION YN DATHLU LLWYDDIANT MEWN ADDYSG GORFFOROL

11 Awst 2009

Mae ysgolion ar draws Cymru wedi ennill seren aur am eu safonau uchel mewn addysg gorfforol.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru a’r Gymdeithas Addysg Gorfforol (afPE) yn cydnabod yr ysgolion hynny sy’n dodi addysg gorfforol ar frig yr agenda.

Gall pob ysgol wneud cais am ActiveMarc Cymru ac eleni mae 42 o ysgolion o bob rhan o Cymru wedi llwyddo.

Mae ActiveMarc Cymru yn cydnabod ysgolion sydd ag ymroddiad i ddatblygu addysg gorfforol a chwaraeon ysgol safon uchel a hyrwyddo manteision gweithgaredd corfforol.

Dywedodd Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:

"Mae gan chwaraeon ysgol rôl ganolog wrth gyflawni Cymru iachach. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru'n frwd i ddathlu llwyddiant ac arfer da mewn chwaraeon ysgol. Gobeithiwn fod y wobr hon yn rhoi meincnod rhagoriaeth y gall pob ysgol anelu ato."

Ar ran y Gymdeithas Addysg Gorfforol, dywedodd yr Athro Margaret Talbot:

"Mae tystiolaeth gref fod plant sy’n derbyn addysg gorfforol safon uchel o fewn amser y cwricwlwm yn adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer cymryd rhan yn y dyfodol a chyflawni, a hefyd wneud yn well yng ngweddill eu gyrfa ysgol. Mae’n dda gweld bod ysgolion sy’n gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer addysg gorfforol hefyd yn adrodd cyflawniad uwch ar draws yr ysgol mewn pynciau eraill yn ogystal ag mewn ymddygiad, presenoldeb ac aros yn yr ysgol. Mae gwobr ActiveMarc yn cydnabod y cyfraniad hollbwysig hwn i fywyd ysgol ac addysg plant. Mae addysg gorfforol mewn ysgolion yn fuddsoddiad gwych!"

Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, yn cefnogi’r cynllun achrediad sy’n rhoi sêl cymeradwyaeth i’r ysgolion hynny sy’n gwneud ymrwymiad cadarn i addysg gorfforol:

"Mae llwyddiant ActiveMarc Cymru yn newyddion rhagorol ar gyfer iechyd ein pobl ifanc yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymdrechu i hyrwyddo ac annog ffyrdd iach o fyw ymysg pobl o bob oedran. Mae ActiveMark Cymru yn ein cefnogi drwy ddangos y ddarpariaeth ansawdd uchel o addysg gorfforol a chwaraeon a gynigir mewn ysgolion."

Os yw’ch ysgol eisiau gwneud cais, ymwelwch â www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk os gwelwch yn dda.