ARWR RhCT YN DERBYN TEITL ANRHYDEDDUS
2 Gorff 2009
Mae Alan Croft, sy’n gweithio yn Ysgol Gyfun Cardinal Newman yn RhCT, wedi’i gydnabod gan Gyngor Chwaraeon Cymru am ei ymdrechion i gael pobl ieuainc i fod yn heini ac yn egnïol.
Wedi’i enwi’n Swyddog y Mis 5x60 ar gyfer mis Gorffennaf, dim ond un yw Alan o blith y llu o arweinwyr sydd wedi’u recriwtio gan gynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Yn cael ei gefnogi’n lleol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, diben y cynllun yw cael mwy o ddisgyblion uwchradd i gymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.
Mae’r gŵr 24 oed sy’n wreiddiol o Essex – sy’n cynrychioli Cymru mewn lacrosse ac sydd wedi chwarae ochr yn ochr â chricedwyr enwog fel Alistair Cook a Ravi Bopara dros Essex – wedi darbwyllo llu o ddisgyblion i gamu oddi ar y llinellau ochr a chymryd rhan yn sesiynau 5x60.
Dim ond ers deng mis mae o wedi bod yn y swydd ond eisoes mae wedi cyflwyno nifer helaeth o weithgareddau allgyrsiol – gydag un ar bymtheg ohonynt yn weithredol drwy gydol tymor yr haf, gyda phêl osgoi, criced a badminton yn profi fwyaf poblogaidd.
Meddai, "Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn ysgol a gallu creu perthnasoedd gyda’r staff a’r disgyblion. Rwyf hefyd yn mwynhau rhoi cyfle i blant yr ysgol gymryd rhan mewn gweithgareddau a gweld eu hyder yn cynyddu wrth iddynt ymwneud mwy â chwaraeon.."
Meddai Michael Doyle, disgybl yn Ysgol Gyfun Cardinal Newman ac aelod o dîm pêl fasgedd 5x60, "Rhoddodd 5x60 gyfle i ni chwarae gemau pêl fasged yn gystadleuol a’n galluogi i gael record 100%. Rydym yn ddiolchgar iawn am yr amser a gyfrannwyd gan ein Swyddog 5x60, Mr Croft, yn enwedig gyda chludiant a hyfforddiant."
Wrth ei fodd gyda llwyddiant y rhaglen, meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae cynllun 5x60 Cyngor Chwaraeon Cymru’n llwyddo i hudo’r disgyblion oddi ar y llinellau ochr ac i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gweithgareddau fel codi hwyl mewn gemau, dawnsio stryd a golff Frisbee yn annog hyd yn oed y rhai mwyaf amharod ac yn gweithredu fel llwybr at chwaraeon eraill mwy traddodiadol a ffordd o fyw egnïol."
Gwahoddir disgyblion i fynd i www.5x60.org.uk ac enwebu eu swyddog.
