GORFFENNAF PRYSUR I ACADEMI ATHLETAU
1 Gorff 2009
Bydd sgwad Athletau Academi Chwaraeon Anabledd Cymru’n cael mis prysur wrth iddynt dargedu nifer o gystadlaethau mewn sawl rhan o’r byd.
Mae’r cyfan yn cychwyn ym Mhencampwriaethau Athletau Iau CChA (Cystadlaethau Chwaraeon yr Anabl) yn Blackpool yn ystod penwythnos cyntaf Gorffennaf (4ydd a 5ed). Bydd 20 o athletwyr ieuainc talentog yn cystadlu dros Gymru yn y gystadleuaeth genedlaethol hon ac yn profi eu talentau’n erbyn mwy na 450 o blant o bob cwr o’r DG.
Yn ystod yr ail benwythnos, bydd criw llai o 9 o athletwyr yn mynd i Sindelfingen yn yr Almaen ar gyfer Gornest Agored yr Almaen y PPRh (Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol). Maent yn cychwyn ddydd Mercher 8fed Gorffennaf tan ddydd Sul 12fed Gorffennaf. Bydd y sgwad yn cynnwys cystadleuwyr profiadol fel y taflwr disgen, Aled-Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, un o’r athletwyr fydd yn cystadlu am y tro cyntaf yn rhyngwladol.
Y trydydd penwythnos fydd y cyfnod prysuraf i’r sgwad, gyda 3 thîm gwahanol yn mynd i sawl cwr o’r byd. Bydd y criw cyntaf yn rhan o Dîm Athletau PF ym Mhencampwriaethau Athletau Iau’r Byd IWAS yn Nottwil yn y Swisdir. Ochr yn ochr â’r Paralympiad, Nathan Stephens, bydd Aled-Sion Davies yn ogystal â’r rasiwr cadair olwyn o’r Fenni, Daniel Lucker. Yr ail griw yw 4 athletwr sy’n hedfan allan i Colorado Springs yn yr Unol Daleithiau. Byddant yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ieuenctid a Myfyrwyr y Byd CRChD (Cymdeithas Ryngwladol Chwaraeon y Deillion) yn Colorado. Mae James Ledger a Louise Bashford o Abertawe’n ymuno ag Emma Sullivan (Caerdydd) a James Ball o Gasnewydd i gystadlu’n erbyn yr athletwyr gorau yn y Categorïau Nam ar y Golwg a Dall. Bydd gweddill y sgwad yn mynd i Nottingham ar gyfer Pencampwriaethau’r Gwledydd Cartref. Bydd 12 athletwr yn herio gweddill y Gwledydd Cartref yn yr ornest gyntaf hon yn stadiwm Harvey Haddon.
Daw’r mis i ben gyda sgwad Cymru ym Mhencampwriaethau Athletau Anabl y DG yn Crystal Palace. Bydd y gystadleuaeth yn gweld Paralympiad medrus yn perffeithio eu sgiliau’n erbyn y talentau newydd gyda llawer ohonynt eisoes yn cadw llygad am yr athletwyr Academi medrus sy’n prysur gael eu cynhyrchu yng Nghymru.
Meddai Gerwyn Owen, Rheolwr Academi gyda Chwaraeon Anabledd Cymru: ‘Bydd Gorffennaf yn fis rhyfeddol iawn o ran logisteg a chael pawb i bob cystadleuaeth, yn ogystal â chanlyniadau’r holl gystadlaethau. Nod yr Academi, a noddir gan Ace Feet in Motion ac a gefnogir gan Gyngor Chwaraeon Cymru, yw datblygu athletwyr ieuainc talentog i fod yn athletwyr o Safon Byd os ydynt yn dymuno hynny. Eisoes mae’r Academi wedi profi llwyddiant gyda 9 allan o’r 15 athletwr newydd o Gymru yn Nhîm PF yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008 wedi dod drwy’r rhaglen hon. Mae’r gwaith ar gyfer 2012 wedi dechrau wedi i ni sefydlu’r Academi’n llawn nôl yn 2006, a gydag athletwyr fel Aled a Dan yn cyrraedd sgwad PF ar gyfer y Swisdir a’r 4 yn mynd i UDA, yn y diwedd bydd mwy a mwy o athletwyr yr Academi’n cnocio ar ddrws Cyrff Rheoli PF, fel Athletau’r DG.’
Yn cael ei chyllido gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae Academi Dalent FfChAC yn garreg gamu tuag at ddatblygu sêr Paralympaidd y dyfodol yng Nghymru. Ei diben yw meithrin a datblygu talent athletwyr ieuainc rhwng 12 a 18 oed a bydd yn cynnig llwybr amhrisiadwy tuag at raglenni Safon Byd a gyflwynir gan y Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol.
