Ein Cyflawniadau
- Mae mwy o bobl ieuainc nag erioed o’r blaen yn aelodau o glybiau chwaraeon.
- Gemau Olympaidd 2008 oedd y mwyaf llwyddiannus mewn 100 mlynedd i Gymru a dynion a merched y byd chwaraeon yng Nghymru oedd yn gyfrifol am ennill mwy na 25% o fedalau aur tîm Paralympaidd PF. Mae Chwaraeon Cymru’n darparu cefnogaeth wyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon gynhwysfawr a modern i athletwyr a hyfforddwyr.
- Mae mwy na 134,000 o ddisgyblion cynradd yn cymryd rhan yng Nghampau’r Ddraig – ymgyrch Chwaraeon Cymru i gael mwy o blant o ysgolion cynradd nag erioed o’r blaen i gymryd rhan mewn mwy o chwaraeon allgyrsiol
- Mae 98% o ysgolion uwchradd Cymru wedi cofrestru’n awr ar gyfer cynllun 5x60 – rhaglen Chwaraeon Cymru i gael mwy o ddisgyblion ysgolion uwchradd oddi ar y llinellau ochr ac i fwynhau chwaraeon allgyrsiol. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod 5 x60 nid yn unig yn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ond hefyd yn meithrin hunanhyder, yn gwella ymddygiad ac yn creu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer.
- Mae rhaglen AG a Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru yn gwella safonau mewn AG mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru – mae Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru) wedi canmol y cynllun yn fawr ac wedi canfod bod agwedd ac ymddygiad y disgyblion wedi gwella yn ei sgil.
- Mae Chwaraeon Cymru sicrhau bod atebion lleol yn rhoi sylw i anghenion lleol. Gan weithio gyda Chwaraeon Cymru, gwnaed cynlluniau gan bob awdurdod lleol sydd eisiau defnyddio’r rhaglenni a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru. Gan weithio gyda phob Awdurdod Lleol, mae’r targedau’n gadarnach nag erioed o’r blaen yn awr a bydd hynny’n gweithio tuag at gynyddu cyfranogiad a gwella perfformiad.
- Ers 1999, mae cynllun grantiau graddfa fechan y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, sef Y Gist Gymunedol, wedi cyfrannu mwy na £9 miliwn tuag at fwy na 12,000 o brosiectau cymunedol. Mae pwyslais pennaf y rhaglen ar hyfforddi gwirfoddolwyr fel nad oes raid i glybiau dalu am gyrsiau hyfforddi.
- Mae nifer y cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i bobl ag anableddau wedi cynyddu’n aruthrol ers lansiad rhaglen gymunedol Chwaraeon Anabledd Cymru yn 2000. Yn 2008-9, roedd mwy na 350,000 o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon.
- Ers dyfodiad y Loteri Genedlaethol, mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi mewn cyfleusterau allweddol – Felodrom Cenedlaethol Cymru, Pwll Cenedlaethol Cymru, canolfannau cenedlaethol a rhanbarthol mewn nifer o chwaraeon, fel athletau, nofio a golff. Y darn diweddaraf yn y jig-sô yw’r Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol ar gyfer rygbi.
