Newyddion Diweddaraf

DISGYBLION Y RHONDDA’N SÊR Y SGRÎN

27 Maw 2009

Bydd Ysgol Gymunedol Sirol Porth yn estyn am y carped coch yn awr wrth i ddisgyblion ledled Rhondda Cynon Taf serennu ar y sgrîn.

Mae’r fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru a Media4Schools wedi gweld ieuenctid o chwe ysgol yn y sir yn rhoi cynnig ar weithgareddau cynhyrchu cyfryngol gyda ffocws ar chwaraeon, fel rhan o raglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Wedi chwe mis o gynhyrchu, cyflwyno a golygu, byddant yn cael cyfle i arddangos y canlyniadau o’r diwedd i gynulleidfa o gynrychiolwyr o Gyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Media4Schools ac, wrth gwrs, eu cyd-ddisgyblion cyfryngol yn Ysgol Gymunedol Sirol Porth ddydd Mawrth 31ain Mawrth.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Sefydlwyd y prosiect peilot yn RhCT ddechrau tymor yr hydref gyda’r bwriad o annog mwy o ddisgyblion ledled Cymru i ymwneud â chlybiau gweithgarwch 5x60 sy’n weithredol mewn ysgolion, drwy gynhyrchu nifer o ffilmiau byr yn tynnu sylw at fanteision bod yn egnïol yn gorfforol a chymryd rhan mewn chwaraeon amrywiol."

Wedi’i lansio fis Hydref 2006 ac yn derbyn cefnogaeth gan fuddsoddiad o £7.6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r rhaglen 5x60 yn ceisio sicrhau bod disgyblion ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o chwaraeon a hamdden gorfforol bum gwaith yr wythnos a bellach mae wedi ehangu i fod yn weithredol mewn 98% o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru.

Meddai Cheryl McNamee-Brittain, Uwch-Gydlynydd 5x60 yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol RhCT:

"Mae’r fideos sydd wedi’u cynhyrchu’n cyflwyno darlun hwyliog a phleserus o’r gweithgareddau 5x60 a gynigir i ddisgyblion yn Rhondda Cynon Taf a gobeithir y byddant yn gweithredu i annog mwy o ieuenctid i gymryd rhan. Yn ogystal â chreu ymwybyddiaeth o 5x60, mae’r prosiect hefyd wedi datblygu gallu’r bobl ieuainc i weithio fel tîm ac wedi meithrin eu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno."

"Rydym wrth ein bodd gyda’r modd y mae’r prosiect Media4Schools wedi gweithio ac rydym yn awyddus iawn i weld y cynyrchiadau terfynol."

Bydd y cyn-athletwr Olympaidd sydd bellach yn entrepreneur, Jamie Baulch, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Addysg lleol, Mike Keating, yn bresennol i wylio’r ffilmiau byrion sydd wedi’u creu gan yr ieuenctid, a byddant yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel pêl droed merched, caiacio, polo dŵr, sgïo a beicio mynydd.