Newyddion Diweddaraf

GWEINIDOG YN CANU CLODYDD 5X60

24 Maw 2009

Heddiw, dychwelodd y Gweinidog Chwaraeon, Alun Ffred, i’r ysgol er mwyn cyhoeddi bod 98% o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru wedi cofrestru bellach gyda chynllun gweithgarwch corfforol 5x60.

Sports Minister Alun Ffred JonesWedi’i lansio fis Hydref 2006 ac wedi’i chefnogi gan fuddsoddiad o £7.6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r rhaglen – a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru – yn ceisio helpu i sicrhau bod disgyblion ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o chwaraeon a gweithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

VIDEO HERE!

Gwnaed y cyhoeddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle bu’n cwrdd ag ieuenctid o Ysgol Gyfun Brynteg ac Ysgol Arbennig Heronsbridge, a oedd wrth law i arddangos eu sgiliau dawnsio stryd, pêl fasged, rygbi tag a badminton.5x60_web_logo

Nawr bod y rhaglen wedi sefydlu fframwaith 5x60 ym mhob ysgol prif lif yng Nghymru bron, bydd Cyngor Chwaraeon Cymru’n adeiladu ar y momentwm hwn ac yn treialu’r rhaglen mewn ysgolion arbennig, a bydd hynny’n cael ei ymestyn ymhellach yn nes ymlaen eleni. Yn wir, Ysgol Heronsbridge oedd un o’r ysgolion arbennig cyntaf i ddechrau cymryd rhan yn y rhaglen.

Gydag amrywiaeth eang iawn o weithgareddau’n cael eu cynnig – yn cynnwys codi hwyl mewn gemau, gweithgareddau antur awyr agored a chwaraeon mwy traddodiadol – dawns a phêl droed sydd wedi profi fwyaf poblogaidd ymhlith y merched tra bo’r bechgyn yn ffafrio camu ar gae pêl droed a hefyd yn mwynhau pêl osgoi.

Dywedodd y Gweinidog, "Mae’r rhaglen 5x60 yn cysylltu ag ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu ein plant i ddatblygu arferion egnïol, a fydd yn para am oes, ac mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at annog disgyblion ysgolion uwchradd i fyw’n fwy egnïol ac iach.

"Nod Un Gymru – yr agenda cynyddol ar gyfer llywodraeth Cymru – yw gwella safon byw pobl yn holl gymunedau Cymru. Gan weithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, clybiau cymunedol a Chyngor Chwaraeon Cymru, rydym wedi cael effaith sylweddol ar droi neuaddau a buarthau ysgolion yn fwrlwm o weithgarwch, ac mae hynny’n darparu’r cychwyn gorau posibl i’n plant wrth eu hannog i gael digon o ymarfer."

_DX_5047Er bod y cynnydd wedi bod yn dda iawn, nid yw Cyngor Chwaraeon Cymru am orffwys ar ei rwyfau. Meddai Cadeirydd CChC, Philip Carling:

"Gyda 218 o ysgolion uwchradd prif lif yn rhan o’r rhaglen, a swyddog 5x60 yn cael ei gyflogi ym mhob ysgol er mwyn darparu cyfleoedd allgyrsiol i fod yn heini, dyma’r amser i symud ymlaen. Un elfen allweddol o 5x60 yw bod y disgyblion eu hunain yn dewis y gweithgareddau maen nhw eisiau rhoi cynnig arnynt."

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod 5 x60 yn:

  • Cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon, yn arbennig ymhlith y rhai fyddai’n dewis aros ar y cyrion fel rheol
  • Meithrin mwy o hunanhyder ymhlith yr ieuenctid
  • Gwella ymddygiad mewn dosbarthiadau ac ar fuarth yr ysgol
  • Creu mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymarfer

Meddai’r Cynghorydd Alana Davies, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ieuainc: "Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn adborth positif iawn gan ddisgyblion ac athrawon AG am fenter 5x60.

"Mae’n gwbl briodol bod y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Ysgol Gyfun Brynteg o ystyried bod cyn-ddisgyblion yr ysgol yn cynnwys saith aelod o garfan Llewod Prydain ac enillydd medal aur Olympaidd, Nicole Cooke.

"A gydag aelod ychwanegol o staff yn cynnig y gweithgareddau y mae’r plant wedi gofyn amdanynt, rydym yn sicr yn dyst i gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau."

Am wybodaeth bellach am raglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru, ewch i www.5x60.org.uk