Newyddion Diweddaraf

PÊL DROEDWYR SIR FYNWY’N EFELYCHU BECKHAM

17 Maw 2009

Mae’r genhedlaeth nesaf o bêl droedwyr yn Sir Fynwy’n gwisgo eu hesgidiau pêl droed ac yn camu ar y cae, diolch i lansiad Academi Bêl Droed Trefynwy a Waitrose.

Mae’r fenter ar y cyd rhwng Ysgol Gyfun Trefynwy a rhaglen 5x60 Cynulliad Cymru – cynllun a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac sy’n ceisio gael disgyblion uwchradd yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach – wedi cael ei sefydlu mewn ymgais i gynyddu nifer yr ieuenctid yn yr ardal sy’n cymryd rhan mewn pêl droed, a hefyd i wella ansawdd yr hyfforddiant a’r ymarferion a gynigir. 5x60_web_logo

Derbyniodd yr academi ei haelodau cyntaf fis Medi ac mae wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda CPD Trefynwy er mwyn cynnig hyfforddiant arbenigol i’r Beckhams ieuainc, fel eu bod yn gallu gwella eu gêm.

Meddai Adrian Sully, y Swyddog 5x60 yn Ysgol Gyfun Trefynwy:

"Yr academi bêl droed hon yw’r cyntaf o blith nifer o brosiectau tebyg rwy’n gobeithio eu sefydlu yn yr ysgol. Ers ei sefydlu ym mis Medi, mae’r niferoedd wedi parhau i dyfu ac mae’r aelodau’n elwa o nifer cynyddol o sesiynau hyfforddi a chymorth proffesiynol gan staff yn CPD Trefynwy, sy’n eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.

"Fe roddodd Cyngor Chwaraeon Cymru grant o £2,000 i ni tuag at sefydlu’r academi, sydd bellach yn weithredol y tu allan i gyfleusterau’r ysgol ac mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn 5x60 yn ei mynychu ddwywaith yr wythnos. Mae’r cyswllt rhyngom ni a CPD Trefynwy wedi profi’n allweddol i lwyddiant y prosiect; nid yn unig maent yn cynnig eu harbenigedd i ni ond hefyd maent yn gadael i ni ddefnyddio eu hoffer – rydym yn gobeithio y byddan nhw, yn eu tro, yn elwa o’r academi ac y bydd y clwb yn cynnig llwybr cynnydd i bêl droedwyr ieuainc disglair yr academi."

Cynhelir dau sesiwn hyfforddi yr wythnos ar gyfer bechgyn 11-16 oed, gyda sesiwn ymarfer i enethod yn unig yn cael ei gynnal ar nos Fercher.

Mae 5x60 yn darparu cymysgedd o weithgareddau i ddisgyblion ac ers lansio’r cynllun gwerth £7.6 miliwn fis Hydref 2006, mae wedi trawsnewid y caeau chwarae a’r neuaddau chwaraeon mewn 98% o’r ysgolion uwchradd ledled Cymru i fod yn ganolfannau llawn bwrlwm a gweithgarwch.

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:

"Y nod sylfaenol yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol. Pan mae disgyblion yn amharod i gymryd rhan, mae Swyddogion 5x60 wrth law i wrando ar eu pryderon ac i’w helpu i oresgyn unrhyw rwystrau. "Mae’r gweithgareddau’n flaengar ac maent wedi cael croeso brwd gan y bobl ieuainc eu hunain. Mae hyn yn arbennig o bleserus, oherwydd y nod yn yr hirdymor yw eu hannog i ddal ati i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol pan yn oedolion. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd y rhaglen yn cynnwys pob ysgol uwchradd yng Nghymru."