YSGOLION ABERTAWE I DDISGLEIRIO GYDA SGILIAU DAWNSIO
20 Mai 2008
Wedi’r Ŵyl Ddawnsio fawreddog gan 5x60 yn Theatr y Grand bythefnos yn ôl, mae’r ysgolion lleol yn paratoi’n awr ar gyfer arddangos eu sgiliau dawnsio stryd i’r eithaf yn Sioe Abertawe yn Singleton y penwythnos hwn.
Enillodd Ysgol Dylan Thomas y teitl yn yr ŵyl ddawns a daeth Ysgol Gyfun Tre-gŵyr yn ail agos yng ngŵyl ddawnsio stryd fawr gyntaf erioed Abertawe, a oedd yn cynnwys tua 200 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed. A nawr, maent yn paratoi i wneud argraff unwaith eto.
Sefydlwyd y sesiynau dawns yn Ysgol Dylan Thomas ac Ysgol Tre-gŵyr o ganlyniad i fenter allgyrsiol 5x60, cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac sy’n ceisio cael pobl ieuainc mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, yn 2006, roedd tri deg naw o ysgolion yn ymwneud â’r rhaglen 5x60 ac wrth i’r gloch ganu i ddynodi dechrau’r tymor newydd yn 2007/2008, daeth 86 o ysgolion pellach yn rhan o’r cynllun ac maent yn gwbl weithredol bellach. Yn ystod tymor y gwanwyn 2008 yn unig, mae mwy nag 8,000 o sesiynau 5x60 wedi’u cynnal – cynnydd o bron i 3,000 ar dymor yr hydref.
Ceir swyddogion 5x60 yn gweithio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn cyflwyno’r rhaglen ac mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar hyd a lled y wlad. Un o’r swyddogion sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol yw Sarah McCoubrey, sy’n gweithio yn Ysgol Dylan Thomas ac Ysgol Tre-gŵyr.
Sefydlodd Ysgol Tre-gŵyr y cynllun yn yr ysgol ddwy flynedd yn ôl, fel rhan o brosiectau peilot 5x60 ledled Cymru. Mae Sarah wedi llwyddo i sefydlu clwb badminton, dosbarth codi hwyl mewn gemau, clwb pêl droed mewnol yn yr ysgol, cynghrair bêl droed pump bob ochr, tim pêl droed i enethod, clwb torddawnsio a dawnsio stryd yn ogystal â sesiynau syrffio, pêl fâs, caiacio a phêl rwyd.
Meddai Sarah, a benodwyd fis Chwefror eleni:
"Amcan y fenter hon yn y pen draw yw annog y disgyblion hynny nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol a galluogi i ddisgyblion fwynhau gweithgareddau na fyddent yn cael cyfle i’w profi fel arall. Dydi pawb ddim eisiau chwarae rygbi, pêl droed na phêl rwyd, ond fel hyn, mae pawb yn cael cyfle i chwarae a chadw’n heini ar yr un pryd."
Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith y genethod yng Nghymru yw dawns, sydd ar frig y tabl cynghrair, ac mae pêl droed, ffitrwydd a chodi hwyl mewn gemau’n ffefrynnau hefyd. Yn y cyfamser, mae’r bechgyn yn tueddu i ffafrio pêl osgoi, ond maent hefyd yn mwynhau ar y cae pêl droed a’r cwrt pêl fasged.
Am wybodaeth bellach am Sioe Abertawe, ewch i www.swanseashow.com Cost tocyn teulu yw £15, £5 am docyn safonol a £3 am ostyngiadau.
