CYNLLUN CHWARAEON YSGOL YN CAEL MARCIAU LLAWN
19 Mai 2008
Gyda’r Pasg y tu ôl i ni, mae tymor yr haf wedi hen gychwyn ac yn ogystal â rhoi sylw i hafaliadau ac adolygu ffiseg, mae niferoedd cynyddol o ddisgyblion ledled y wlad yn tynnu’r llwch oddi ar eu hesgidiau ymarfer.
18 mis yn unig ers lansiad cynllun 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru, cynllun gwerth £7.6 miliwn, mae’n barod i gael ei ehangu i weddill yr ysgolion uwchradd yng Nghymru, gan sicrhau nad oes neb ar ôl ar y llinell ochr. 
Cred y Gweinidog Chwaraeon, Rhodri Glyn Thomas AC, bod y rhaglen a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru’n gwneud cynnydd sylweddol wrth geisio annog mwy o bobl ieuainc i fod yn fwy egnïol yn amlach:
"Mae 18 mis wedi mynd ac, fel rhan o’n hymroddiad parhaus i gynyddu’r lefelau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gofynnwyd i Gyngor Chwaraeon Cymru gael yr ysgolion uwchradd i gyd yn perthyn i 5x60 erbyn y mis Medi hwn. Gobeithiaf y bydd yr ysgolion yn manteisio ar y cyfle gwych hwn oherwydd yn ogystal â chyflwyno ieuenctid i gyfleoedd newydd, mae’r rhaglen hefyd yn cynnig gwerth ychwanegol mewn perthynas â datblygiad ehangach pobl ieuainc.
"Rydym yn derbyn adborth bod 5x60 yn rhoi hwb i hyder ac yn sicr yn newid agwedd tuag at weithgarwch corfforol. Mae newid y ffordd y mae pobl ieuainc yn meddwl yn hanfodol. Os bydd pobl ieuainc yn mwynhau eu profiadau yn yr ysgol, byddant yn fwy tebygol o barhau â’u diddordeb pan yn oedolion," ychwanegodd.
Mae 5x60 yn darparu cyfleoedd amrywiol i ddisgyblion, yn seiliedig ar y rhai sydd ar gael yn yr ardal leol. Mae’r rhaglen yn cynnwys gweithgareddau awyr agored ac antur fel syrffio a dringo, yn ogystal â gweithgareddau hamdden fel aerobics a chwaraeon ymladd.
Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ymhlith y merched yw dawns, sydd ar frig y tabl cynghrair, gyda phêl droed, ffitrwydd a chodi hwyl mewn gemau’n cael eu ffafrio hefyd. Yn y cyfamser, mae’r bechgyn yn tueddu i wyro at bêl osgoi ond maent hefyd yn hoff o fod ar y cae pêl droed a’r cwrt pêl fasged.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Y nod sylfaenol yw annog y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon i fod yn egnïol. Pan mae disgyblion yn amharod i gymryd rhan, mae swyddogion 5x60 wrth law i wrando ar bryderon ac i helpu i oresgyn unrhyw rwystrau. Mae mwy o waith i’w wneud eto er mwyn annog mwy o ferched, gan ein bod yn gweld llai o gyfranogiad benywaidd. Mae hynny’n rhywbeth y bydd rhaid i ni edrych arno yn ystod y misoedd sydd i ddod."
Yn wir, mae ceisio cynyddu cyfranogiad ymhlith merched a genethod yn darged allweddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, roedd tri deg naw o ysgolion yn rhan o’r rhaglen. Ac wrth i’r gloch ganu a galw pawb i gofrestru ar gyfer tymor newydd 2007/2008, roedd 86 o ysgolion pellach wedi dod yn rhan o’r rhaglen ac mae’n gwbl weithredol yn y rhain yn awr. Yn ystod tymor y gwanwyn 2008 yn unig, cynhaliwyd mwy nag 8000 o sesiynau 5x60 – cynnydd o bron i 3000 ar dymor yr hydref.
Hefyd, mae bron i 650 o bobl ieuainc wedi cael cyfle y tymor hwn i ddatblygu sgiliau arwain. Gan weithio dan gyfarwyddyd swyddogion 5x60 llawn amser, mae’r disgyblion wedi helpu i gyflwyno llu o weithgareddau – yn cynnwys cystadlaethau rhwng dosbarthiadau – ym mhob awdurdod lleol.
"Bydd y cyfleoedd arwain a ddarperir gan y rhaglen 5x60 yn allweddol wrth ddatblygu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Bydd y gweithlu hwn yn y dyfodol yn hanfodol er mwyn cyrraedd y targedau a osodwyd yn strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth y Cynulliad," ychwanegodd Mr Carling.
Er mwyn cael gwybodaeth bellach am raglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru, ewch i www.5x60.org.uk
