Newyddion Diweddaraf

ABERTAWE’N CYFRANNU AT RECORD O 1000 O BROSIECTAU CYMUNEDOL

5 Mehef 2007

CAPD TALYCOPA:

Clwb Pêl Droed Talycopa, Llansamlet, yw un o’r prosiectau cyntaf i elwa o gronfa newydd y Gist Gymunedol. Derbyniodd y clwb £1,000 i gyllido cyrsiau arwain CBDC, yn cynnwys cymorth mewn argyfwng, lles plant a dyfarniadau golgeidwad, yn ogystal ag i logi Astroturf a phrynu peli, citiau, bibiau, conau, pymps a chitiau cymorth cyntaf.

Sefydlwyd y clwb o’r newydd yn 2006, wedi elwa o grant blaenorol gan y gist gymunedol, ac mae wedi derbyn achrediad efydd CBDC bellach – y cyntaf yn Abertawe. Eleni, maent yn bwriadu ehangu nifer eu timau.

Y nod yw cynnal dau sesiwn ychwanegol yr wythnos, yn cynnwys 35 o blant newydd, chwe gwirfoddolwr newydd a rhedeg dau dim newydd dan-7 a than-8 oed yn y gobaith o sicrhau Achrediad arian neu hyd yn oed aur CBDC yn y dyfodol.

Mae’r clwb hefyd yn ceisio recriwtio hyfforddwyr a rheolwyr benywaidd wrth iddo geisio recriwtio mwy o chwaraewyr benywaidd i’r clwb.

I ddileu unrhyw rwystrau a sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:

De Ddwyrain Cymru: 0845 045 0902

De Orllewin Cymru: 0845 045 0906

Gogledd Cymru: 0845 045 0908