Newyddion Diweddaraf

ABERTAWE’N CYFRANNU AT RECORD O 1000 O BROSIECTAU CYMUNEDOL

5 Mehef 2007

Gofynnwyd am y gwasanaeth gan aelodau’r elusen nad oeddent yn gallu mynychu gyms yn y gymuned am resymau ariannol, oherwydd eu bod yn ofni stigma cymdeithasol ac oherwydd y diffyg dealltwriaeth o effeithiau HIV ymhlith gweithwyr chwaraeon ac ymarfer proffesiynol.

Tynnodd Rheolwr Canolfan Ymddiriedolaeth AIDS Cymru yn Abertawe, Gemma James, sylw at bwysigrwydd ymarfer ar gyfer y rhai’n dioddef o HIV / AIDS neu wedi’u heffeithio ganddynt:

"Mae’n bwysig ac yn fuddiol i bobl sydd wedi dal y firws HIV ymarfer yn rheolaidd a than oruchwyliaeth. Mae pobl sy’n HIV positif yn dioddef o lawer o sgil-effeithiau moddion a gall hynny godi eu pwysedd gwaed. Mae cynyddu curiad y galon am 30 munud o leiaf deirgwaith yr wythnos drwy ymarfer yn gostwng pwysedd y gwaed ac felly’n lleihau’r risg o afiechyd y galon ac yn rhoi hwb i’w system imiwnedd."

Mae Ymddiriedolaeth Aids Cymru’n darparu gofal cymdeithasol a chynhaliaeth i bobl sydd wedi’u heintio neu eu heffeithio gan HIV / AIDS. Maent yn ceisio galluogi i bobl sy’n byw gyda ac wedi’u heffeithio gan HIV ymdopi â’r ffactorau sy’n gallu gwneud byw gyda HIV / AIDS yn ymdrech fawr yn ddyddiol.

Mae’r aml-gym newydd yn cefnogi hyd at ugain o ddioddefwyr HIV / AIDS newydd wrth iddynt ymarfer yn rheolaidd a thrawsnewid eu diagnosis positif yn ffordd bositif o edrych ar fywyd.