ABERTAWE’N CYFRANNU AT RECORD O 1000 O BROSIECTAU CYMUNEDOL
5 Mehef 2007
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n hynod boblogaidd ledled Cymru. Bydd cynnydd mewn cyllid a sgôp ehangach y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau pwysig. Rydym eisiau clywed am y syniadau a’r prosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach."
ENGHREIFFTIAU O SUT MAE’R ARIAN WEDI CAEL EI WARIO YN ABERTAWE
YMDDIRIEDOLAETH AIDS CYMRU:
Mae elusen yn Abertawe’n rhoi bywyd newydd i’w gym mewn canolfan alw-i-mewn leol, er budd pobl sy’n dioddef o AIDS.
Heb hyfforddwr gym cymwys, gwelodd staff Ymddiriedolaeth AIDS Cymru yn Abertawe bod yr aml-gym gydag offer llawn yn segur. Gyda grant gwerth £580 gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, mae’r elusen yn talu am Gwrs Hyfforddwr Gym Lefel 2 OCR yn awr, i gymhwyso hyfforddwr gym cymunedol newydd.
Bydd yr hyfforddwr newydd yn cynnal sesiynau cyflwyno i ddechrau yn y gym ac yn creu rhaglenni ymarfer, yn gosod a monitro nodau ar gyfer pob unigolyn ac yn goruchwylio pobl sy’n defnyddio’r gym.
