Newyddion Diweddaraf

ABERTAWE’N CYFRANNU AT RECORD O 1000 O BROSIECTAU CYMUNEDOL

5 Mehef 2007

Swansea reaches its 1000th Community Chest customerCeir mwy o brosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn Abertawe nag mewn unrhyw sir arall. Mae hynny’n swyddogol oherwydd heddiw cyhoeddwyd mai Abertawe yw’r awdurdod lleol cyntaf i dderbyn ei 1000fed cynnig o grant gan y Gist Gymunedol – yr unig sir i gyrraedd y garreg filltir hon yng Nghymru hyd yma.

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yn ystod ei gyfnod byr, mae’r cynllun grant a gyllidir gan y loteri wedi dosbarthu mwy na £510,000 i 1000 o brosiectau ledled Abertawe. Ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos sut mae pwysigrwydd cynllun y Gist Gymunedol yn datblygu gan ehangu’r prosiectau gweithgarwch corfforol ledled Cymru. Hyd yma, buddsoddwyd cyfanswm o £7, 243, 987 yn iechyd y genedl gan gynorthwyo pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.