Newyddion Diweddaraf

ANNOG CYNLLUNIAU CYMUNEDOL YNG NGHYMRU I ELWA O ARIAN Y LOTERI

17 Ebr 2007

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n sylweddol mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Lottery

Yn wir, yn ystod ei gyfnod byr mewn bodolaeth, mae’r cynllun cymorth grant a gyllidir gan y loteri wedi dosbarthu bron £7miliwn i ddegau ar filoedd o brosiectau ledled y wlad.

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Yn awr, gall sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Ehangwyd sgôp y cynllun hefyd. Yn draddodiadol, arferai’r grantiau gael eu dyfarnu i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o’r sefydliadau sy’n ceisio datblygu cyfleoedd gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, a hefyd yn dal ati i gefnogi prosiectau ym myd iechyd ac addysg. Felly er bod y cyllid ar gyfer y clwb pêl droed lleol yn gallu cael aelodau iau y gymuned yn egnïol, bydd cefnogi cylch cerdded yn annog mwy o oedolion i godi allan.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac mae’n parhau’n hynod llwyddiannus a phoblogaidd ledled Cymru. Bydd cynnydd yn y cyllid a sgôp ehangach y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gofalu am yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau teilwng. Rydym eisiau clywed am eich syniadau ac am brosiectau a fydd yn cael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach."


Bydd y dull newydd o weithredu’n rhoi cyfle i bawb gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, boed fel rhan o’u horiau gwaith neu eu hamser hamdden. Mae dosbarthiadau ffitrwydd yn ystod amser cinio, ffitio rac beiciau neu gawodydd mewn gweithleoedd, hyfforddiant i fod yn arweinydd cerdded a phrosiectau cerdded neu feicio mewn ardaloedd gwledig a threfol i gyd yn gymwys am gyllid yn awr.

Er ein bod yn chwilio am brosiectau blaengar a gwreiddiol, y syniadau symlaf yn aml iawn sy’n cael yr effaith fwyaf. Gall pob dyfarniad fod hyd at uchafswm o £1,000 a gall sefydliadau wneud cais yn awr am hyd at ddau ddyfarniad y flwyddyn. Yr unig amod yw bod raid i un o’r dyfarniadau hyn fod ar gyfer gweithgaredd corfforol nad yw’n cael ei gynnig fel rheol gan yr ymgeisydd – er enghraifft, darparu rac beiciau ar gyfer grŵp beicio a allai ddefnyddio’r clwb fel canolfan o bosibl.

ENGHREIFFTIAU O SUT CAFODD YR ARIAN EI WARIO

DE DDWYRAIN CYMRU

POWYS – AMBIWLANS SANT IOAN

Mae prif elusen cymorth cyntaf, gofal a chludiant y DG yn meddwl am fwy na dim ond lles ei chyhoedd yn awr wrth iddi ychwanegu beiciau at ei fflyd o ambiwlansys mewn ymgais i gyflwyno gofal cyflym ac effeithiol mewn argyfwng i bobl Powys.

Mae gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn rhanbarth Canolbarth Cymru’n manteisio i’r eithaf ar grant loteri gwerth £750 gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar gyfer eu Prosiect Ymateb ar Feic – cynllun sy’n gwneud defnydd llawn o feiciau wrth gyflwyno gwasanaeth effeithiol mewn argyfwng i’r rhanbarth.

Gyda chyfraniad o £1000 gan y sefydliad ei hun hefyd, mae Ambiwlans Sant Ioan yn mynd i brynu llu o feiciau mynydd a basgedi a ddefnyddir i gefnogi llu o ddigwyddiadau ledled Canolbarth Cymru, yn amrywio o rasys hwyl i farathonau, digwyddiadau cymunedol a gorymdeithiau stryd.

POWYS – DINASYDDION Y DRENEWYDD YN EISTEDD YN ÔL I FOD YN EGNÏOL

Efallai eu bod yn eistedd yn ôl ond dydi trigolion dros 60 oed y Drenewydd yn sicr ddim yn diogi.

Neuadd Eglwys Fethodistaidd y Drenewydd yw’r lleoliad newydd ar gyfer y sesiynau ymarfer ysgafn ar eu heistedd, sy’n ceisio cael y genhedlaeth hŷn yn yr ardal yn fwy egnïol.

Gyda phwyslais ar weithgareddau lefel isel, mae Young at Heart yn annog y rhai sy’n ymarfer i weithio ar eu lefel eu hunain, dan oruchwyliaeth fanwl Therapydd Galwedigaethol cymwys. Ac nid yn unig maent yn egnïol yn ystod eu cyfnod yn y dosbarth, ond hefyd maent yn cael eu hannog i wneud eu gwaith cartref a dal ati i ymarfer yn eu hamser eu hunain.

Mae’r prosiect wedi elwa o gyllid gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru ac Age Concern, sy’n golygu bod y dosbarthiadau’n gallu cael eu cynnig am bris isel o £1. Hefyd, newidiwyd yr hen offer a oedd wedi dyddio am offer newydd, ac ehangwyd y ddarpariaeth, gan greu cyfleoedd ychwanegol yn y lleoliad.


MERTHYR TUDFUL – MWY NAG UN YM MERTHYR

Mae gan famau a thadau lond eu dwylo wrth ddiddanu plant ieuainc, ond beth am y rhai gydag efeilliaid, tripledi, pedwarawdau a mwy?

Mae grŵp gwirfoddol ym Merthyr wedi camu i’r adwy i helpu gyda’r gwaith caled hwn. Yn cydnabod yr anawsterau a wynebir gan y rhieni hyn, mae Merthyr Multiples yn creu cyfleoedd i deuluoedd sy’n ei chael yn anodd i gael hyd i amser i wneud unrhyw beth ond gofalu am eu plant. Gyda sesiynau nofio arbenigol newydd ar y gorwel ym mhwll Gwaunfarren, mae’r grŵp yn gwahodd rhieni a’u plant bach i fanteisio ar y cyfle.

Mae grant gwerth £750 gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru wedi golygu bod y clwb yn defnyddio gwasanaethau hyfforddwr cymwys, a fydd yn helpu i fagu hyder ymhlith y plant yn y dŵr. Ochr yn ochr â’r hyfforddwr, bydd pob sesiwn yn cynnwys swyddog achub bywyd a 10 gweithiwr cefnogol. Mae’r arian hefyd yn golygu y gall y grŵp brynu stoc o fandiau braich, matiau newid babanod a dillad nofio i’r nofwyr bychain.

CAERDYDD – CRICED Y BONTFAEN YN LLWYDDIANNUS

Mae cynlluniau Clwb Criced y Bontfaen wedi newid cyfeiriad. Wedi sefydlu timau llwyddiannus i ddynion a bechgyn, mae’r clwb wedi troi ei olygon at y merched a’r genethod yn awr.

Fel rhan o’r cynlluniau datblygu, bydd adran iau’r clwb yn cael ei ehangu i gynnwys genethod 8-13 oed ac, yn y diwedd, bydd tîm hŷn ar gyfer merched yn cael ei greu. Datblygir yr adran newydd gyda chymorth cyllid gwerth £750 gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, sydd wedi’i gyfateb gan gyllid y clwb ei hun.

I ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer yr aelodau, mae’r clwb yn rhoi’r arian tuag at brynu offer ac i sicrhau hyfforddiant. Prynwyd stoc o fatiau, menig, padiau, bagiau cit a helmedau arbenigol yn barod ar gyfer y cynnydd yn yr aelodaeth. Hefyd, bydd yr aelodau newydd yn elwa o fwy o hyfforddwyr a gwell hyfforddwyr, gyda pheth o’r buddsoddiad wedi’i glustnodi ar gyfer addysgu hyfforddwyr, clinigau hyfforddi a chynnal dyddiau blasu.

Gyda chyflenwad ffres o offer a hyfforddwyr, mae’r clwb mewn sefyllfa yn awr i greu mwy o ymwybyddiaeth o argaeledd y gweithgareddau criced ar gyfer merched a genethod yn yr ardal.


Y GOGLEDD

GWYNEDD – LLWYBRAU CERDDED PARC PADARN

Bydd cael hyd i’ch ffordd drwy Barc Padarn yn dasg llawer haws yn awr, diolch i grant gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.

Yn cynnwys llyn mawr, rhwydwaith o lwybrau troed a chanolfan ymwelwyr eisoes, mae’r grant gwerth £749 a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol wedi galluogi i’r parc ehangu ei amrywiaeth o weithgareddau i gynnwys cyfeiriannu. Bydd mapiau, arwyddion a thaflenni’n cyrraedd y parc ac fe anogir y bobl leol a’r ymwelwyr i wneud yn fawr o’r adnodd newydd.

Saif y parc wrth droed yr Wyddfa ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’n denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd cyflwyno’r atyniadau diddorol ychwanegol yn y parc yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn annog pobl Llanberis i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleuster ar garreg eu drws.

Mae’r parc yn targedu ei fenter newydd at deuluoedd sy’n chwilio am gwrs ychydig yn llai heriol i’w gerdded na mynydd uchaf Cymru. Drwy gyflwyno rhaglen gyfeiriannu hwyliog, y gellir ei haddasu, bydd y Cyngor yn gallu amrywio’r safonau technegol a’r anawsterau, er mwyn apelio at bawb.

GWYNEDD - CYFEILLION CROESOR

O hen ffermdy i ganolfan ffitrwydd, mae gwaith Cyfellion Croesor yn adfer Garth Llwynog wedi creu canolfan hamdden yng nghanol pentref yng Ngwynedd sydd ar agor i bawb.

Gobaith Cyfeillion Croesor yw y bydd y gymuned gyfan yn elwa o’r cyfleuster ar ei newydd wedd, nid yn unig er budd eu hiechyd a’u ffitrwydd, ond i gymdeithasu hefyd. Gyda’r cyfleoedd i fod yn egnïol yn cynyddu o hyd, y gobaith yw y bydd y neuadd yn fwrlwm o weithgarwch, gyda’r bobl leol yn cael cyfle i weld beth sy’n mynd â’u bryd.

Mae pêl rwyd a thenis bwrdd yn cael eu cynnig yn y neuadd yn awr wedi cais llwyddiannus i’r Gist Gymunedol. Galluogodd y grant o £749 i’r Cyfeillion ehangu eu stoc o offer chwaraeon. Wedi dechrau gyda bwrdd tenis bwrdd a rhwyd pêl fasged, bydd mwy o offer yn cael ei brynu gydag amser, a mwy o weithgareddau’n cael eu cyflwyno.

Mae’r grŵp yn gobeithio gweld cynnydd graddol yn yr aelodaeth, gyda’r amcan hirdymor o hyfforddi’r aelodau. Drwy fagu hunanhyder wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, gobeithir hefyd y bydd yr unigolion yn cael eu hannog i gamu allan o’r neuadd a manteisio ar yr amgylchedd lleol bendigedig.

CONWY – CANOLFAN GYMUNEDOL LLANFAIRFECHAN

Gwnaeth Canolfan Gymunedol Llanfairfechan gais llwyddiannus am gyllid ychwanegol yr oedd ei angen i sefydlu cwrs blasu pedair wythnos mewn Tai Chi yn rhad ac am ddim.

Yna cynhaliwyd cwrs wyth wythnos gyda’r cyfranogwyr yn cyfrannu ato. Roedd yn cael ei gynnig i aelodau hŷn y gymuned, y rhai’n methu symud a phobl a gyfeiriwyd i’r dosbarthiadau gan y ganolfan iechyd leol.

Wedi’r cwrs wyth wythnos, bwriad Canolfan Gymunedol Llanfairfechan oedd dal ati i gynnal y cyrsiau am bris isel i’r cyfranogwyr.


DE ORLLEWIN CYMRU

CEREDIGION

Os am fod yn egnïol, mae rhywbeth ar gael i bawb. Ond yr hyn sy’n anodd, efallai, yw cael hyd i’r gweithgaredd addas i chi.

Daeth Age Concern i’r adwy yng Ngheredigion drwy gynnig cyfle i’r bobl leol roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau. Cynhaliodd y canolfannau hamdden yn Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul gyfres o sesiynau blasu ar gyfer y genhedlaeth hŷn yn y gwahanol ardaloedd, i’w helpu i gael hyd i’r hyn sy’n gweithio iddynt hwy.

Torrwyd y rhestr faith o weithgareddau i lawr a chyflwynwyd y ddau ffefryn fel rhan o raglen y canolfannau hamdden. Gyda chyllid gan Gyngor Chwaraeon Cymru ac Age Concern, roedd modd cynnal y ddau sesiwn am 15 wythnos.

Mae llwyddiant y prosiect 15 wythnos wedi ysgogi Age Concern Cymru i ystyried ehangu’r fenter ledled sir Ceredigion, fel bod mwy o’r bobl dros 50 oed yn dod yn egnïol.

SIR GAERFYRDDIN

Gwnaeth clwb pêl droed hŷn y merched gais am gyllid i sefydlu tîm dan 14 i enethod am nad oedd ganddynt unrhyw ddarpariaeth i fodloni’r galw a fodolai.

Defnyddiwyd grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol i brynu’r offer oedd ei angen i sefydlu’r tîm ac i anfon aelodau ar gyrsiau addysgu hyfforddwyr er mwyn sicrhau datblygiad a chynaladwyedd.

Wedi llwyddiant y cynllun, gwnaeth y clwb gais am ail grant i sefydlu carfan dan 12 i enethod i gyd-fynd â’r tîm dan 14, gyda’r amcan o gofrestru’r ddwy garfan yn y gynghrair newydd D12 a D14.

Er mwyn cael gwared ar unrhyw rwystrau ac i weithredu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:

De Ddwyrain Cymru: 0845 045 0902

De Orllewin Cymru: 0845 045 0906

Gogledd Cymru: 0845 045 0908