Newyddion Diweddaraf

CYNLLUN YR YSGOLION UWCHRADD YN ENNILL MOMENTWM

16 Chwef 2007

Yn siarad yn y lansiad, amlinellodd Alun Pugh AC ei uchelgais ar gyfer iechyd y genedl yn y dyfodol:


"Drwy gyfrwng ei strategaeth chwaraeon a gweithgarwch corfforol, Dringo’n Uwch, mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i gynyddu’r cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan i bawb. Erbyn 2025, rydym am weld pob person ifanc bron yng Nghymru’n cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos. Mae cyflwyno 5x60 ar gyfer pobl ieuainc mewn ysgolion uwchradd yn gam ymlaen ar hyd y llwybr ac rwy’n hynod falch o weld y cynllun yn mynd o nerth i nerth."

Mae amrywiaeth eang o weithgareddau’n rhan allweddol o’r cynllun 5x60 yn awr, gan gynnig i’r rhai nad ydynt yn arfer cymryd rhan mewn chwaraeon gyfle i dynnu’r llwch oddi ar eu hesgidiau ymarfer a bod yn egnïol.

Gyda dalen wag o bapur a llu o syniadau deinamig, mae’r disgyblion eu hunain yn penderfynu ar y math o weithgareddau yr hoffent gymryd rhan ynddynt, yn amrywio o ddawnsio stryd i Frisbee, ac o bêl droed i Dodgeball.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’n amlwg bod 5x60 eisoes yn gwneud cyfraniad arwyddocaol iawn at weithgarwch corfforol mewn ysgolion uwchradd. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yn helpu ysgolion i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, gan helpu i ragori ar y targedau a helpu i newid agwedd."

Yn derbyn cefnogaeth o fuddsoddiad o £7.6 miliwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae 5x60 wedi’i gyflwyno i barhau â’r momentwm a sefydlwyd gan gynllun Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru – y rhaglen uchel ei pharch a ariennir gan y loteri ac sy’n hwyluso cyflwyno chwaraeon a gweithgarwch corfforol allgyrsiol mewn ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.