Newyddion Diweddaraf

DISGYBLION YN PLYMIO GYDA SWIMFIT.COM

8 Chwef 2007

O ganlyniad, mae arbrawf deng wythnos wedi’i sefydlu a chynigir sesiynau arbennig Swimfit ddwywaith yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol. A diolch i gyllid ychwanegol gan Kellogg’s, bydd y disgyblion i gyd yn cael defnyddio www.swimfit.com, cofnod nofio ar-lein rhad ac am ddim CNA sy’n darparu cynlluniau ar gyfer sesiynau amrywiol i nofwyr ac yn sicrhau cynnydd yn y pwll.

Roedd Capten Polo Dŵr Merched Prydain, Fran Leighton, yn Wrecsam ar gyfer y lansiad swyddogol a rhoddodd gyflwyniad i’w champ i rai o ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Uwchradd Clywedog. Mae polo dŵr yn un o’r gweithgareddau ychwanegol a gynigir yn yr ysgol ac mae’r Swyddog 5x60, Stephanie Morris, yn gobeithio ychwanegu sesiynau Heini yn y Dŵr at y rhaglen hefyd.

"Mae nifer o ddisgyblion eisoes yn nofio y tu allan i’r ysgol ac felly ceir llawer o ddiddordeb yn y gamp," meddai Morris. "Drwy dreialu’r clwb nofio yn y bore, mae’n golygu bod y disgyblion sy’n brysur ar ôl ysgol dal yn cael cyfle i nofio.

"Mae Swimfit yn rhaglen wych i gadw plant yn egnïol yn y pwll. Yn ogystal â chynnig y rhaglen i nofwyr rheolaidd, rydym yn ei defnyddio i helpu’r disgyblion nad ydynt yn gallu nofio a’r rhai heb hyder mewn dŵr. Drwy gadw at y rhaglenni gallwn ddysgu’r sylfeini iddynt a’u helpu i wneud cynnydd."

Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, efallai y bydd mwy o ysgolion ledled Cymru’n mabwysiadu unedau ochr pwll Swimfit fel rhan o’r cynllun 5x60.

Dylai’r ysgolion a hoffai gael gwybodaeth bellach am fanteision Swimfit gysylltu â Gweinyddydd Tîm Busnes CNA, Marie Lewis, ar 01527 507 010 neu e-bost marie.lewis@swimming.org