Newyddion Diweddaraf

DISGYBLION YN PLYMIO GYDA SWIMFIT.COM

8 Chwef 2007

Bydd cynllun Swimfit Cymdeithas Nofio Amatur Cymru (CNA) yn gweithio efo cynllun 5x60 i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Logo lliw 5 x 60

Ysgol Clywedog yn Wrecsam yw’r ysgol uwchradd gyntaf yn y DG i osod uned Swimfit wrth ochr ei phwll a bydd yn cynnig sesiynau Swimfit arbennig mewn ymgais i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol y disgyblion.

Wedi’i gosod fel rhan o’r rhaglen ‘5x60’ - menter yng Nghymru a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru i gynyddu’r cyfleoedd chwaraeon sydd ar gael i blant y wlad – mae’r uned Swimfit wedi’i chyllido gan Nofio Egnïol Kellogg’s ac fe’i gosodwyd yn yr ysgol y mis diwethaf.

Wedi’i datblygu ar y cyd â Speedo, mae’r uned Swimfit yn adnodd gwerthfawr i unrhyw un sydd eisiau gwella eu hymarfer yn y pwll. Yn darparu amrywiaeth o raglenni hyfforddi hawdd i’w gweld, mae’r uned bum troedfedd yn cynnwys cymhorthion hyfforddi arbenigol fel arnofion a bwïau ac mae’n cynnwys cyngor ar gyfer gwella techneg.

Cyflwynwyd Swimfit yn Ysgol Uwchradd Clywedog wedi galw gan y disgyblion a oedd yn dweud mai nofio oedd un o’r pedwar gweithgaredd yr hoffent gymryd mwy o ran ynddo.