Newyddion Diweddaraf

NOFIWR OLYMPAIDD YN ANNOG PLANT I FYND I NOFIO

11 Awst 2006

Heddiw roedd y nofiwr Olympaidd o Gymru, David Davies, yn hael ei ganmoliaeth o fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru – ac mae’n gobeithio y bydd yn annog plant ledled Cymru i’w efelychu o.

Diolch i’r Cynulliad, gall plant a phobl ieuainc nofio am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol yn awr.

Mae’r nofiwr dull rhydd 1500m yn perffeithio ei sgiliau yn awr wrth baratoi am Gemau Olympaidd Athen. Yn ddim ond 19 oed, mae eisoes yn drydydd nofiwr cyflyma’r byd. Meddai:

"Mae’r fenter hon yn ffordd ragorol o gadw plant yn brysur yn ystod gwyliau’r haf. Nofio yw un o’r ffyrdd gorau o gadw’n heini ac mae’n hwyl hefyd.

"Pan ddechreuais nofio, wnes i ‘rioed freuddwydio y byddwn yn cyrraedd y Gemau Olympaidd. Felly pwy a wyr? Efallai y gwelwn ni lawer mwy o nofwyr o Gymru’n cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol."

Meddai’r Gweinidog ar gyfer Diwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh:

"Un o amcanion menter Nofio Am Ddim y Cynulliad yw cael plant i arfer ymarfer yn rheolaidd cyn gynted ag y bo modd oherwydd bydd yn cael effaith hynod bositif ar eu hiechyd a’u lles yn y dyfodol. Yn ogystal â helpu’r ieuenctid i gadw’n heini ac iach, efallai y byddwn yn darganfod mwy o sêr fel David hefyd!"

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Chwaraeon Cymru, Dr Huw Jones:

"Mae hwn yn gam positif tuag at greu cenedl iachach, fwy heini ac rwy’n gobeithio y bydd pobl ieuainc ledled y wlad yn gwneud yn fawr o’r fenter Nofio Am Ddim yr haf hwn.

"Mae’r haf yn amser delfrydol i ddechrau ar ymgyrch iechyd newydd."

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio Her Iechyd Cymru – ffocws cenedlaethol newydd i sicrhau gwell perchnogaeth, gwell ymrwymiad a mwy o weithredu er lles iechyd, fel rhan o ymdrech gydlynol a chynaladwy i wella iechyd yng Nghymru.