Ceiswyr Gwaith

Positif am bobl anabl

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n ymroddedig i gyflogi pobl gydag anabledd ac mae wedi cytuno i: logo-anabledd-cyflogwyr

  • cyfweld pob ymgeisydd gydag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf lleiafswm ar gyfer swydd wag, a’u hystyried ar sail eu gallu.
  • sicrhau bod mecanwaith yn ei le ar gyfer trafod, ar unrhyw adeg, ac unwaith y flwyddyn o leiaf, gyda’r gweithwyr anabl beth allwch chi a hwy ei wneud i sicrhau eu bod yn gallu datblygu a defnyddio eu galluoedd.
  • gwneud pob ymdrech pan gaiff gweithwyr anabledd i sicrhau eu bod yn aros yn eu swydd.
  • gweithredu er mwyn sicrhau bod pob gweithiwr yn datblygu’r lefel briodol o ymwybyddiaeth o anabledd, fel sy’n briodol i wneud i’ch ymrwymiadau weithio.
  • adolygu bob blwyddyn y pump ymrwymiad a’r hyn sydd wedi’i gyflawni, er mwyn cynllunio ffyrdd o wella arno a rhoi gwybod i’r gweithwyr a’r Gwasanaethau Cyflogaeth am gynnydd a digwyddiadau yn y dyfodol.