Ceiswyr Gwaith

Polisi Cyfleoedd Cyfartal

1. Mae’r Cyngor yn ymroddedig i gefnogi’r egwyddor o gyfleoedd cyfartal yn y gweithle. I gyrraedd y nod hwn, mae gan y Cyngor bolisi o recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl gyda chymwysterau, profiad, nodweddion personol a photensial addas heb ystyried rhyw, hil, lliw, cenedl, tarddiad ethnig, statws priodasol, statws tymor sefydlog neu ran-amser, oedran, crefydd, cred, tueddiad rhywiol, cyfrifoldebau fel rhiant nac anadbledd.

2. Cred y Cyngor fod gan bawb hawl i weithio mewn amgylchedd sy’n hybu cyfle cyfartal ac sy’n gwahardd arferion gwahaniaethu. Nid yw’r Cyngor yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu nac erledigaeth gan nac yn erbyn ei weithwyr. Mae’r Cyngor yn mynnu bod gan bawb ddyletswydd i ymddwyn mewn ffordd sy’n cefnogi’r polisi hwn a dylech fod yn gwbl ymwybodol o’r ymddygiad sy’n gallu arwain at wahaniaethu ac erledigaeth.

3. Nid amharu ar gysylltiadau cymdeithasol arferol ymhlith eich cydweithwyr a chyda’r cyhoedd yw diben y polisi hwn. Ei nod yw atal gwahaniaethu neu erledigaeth annheg. Mae’n gyfrifoldeb pawb i fod yn sensitif tuag at yr effaith maent yn ei chael ar eraill ac i beidio â gwahaniaethu’n erbyn cydweithwyr na chymeradwyo unrhyw fath o wahaniaethu gan eraill.

4. Gall unrhyw fath o wahaniaethu fod yn anghyfreithlon a bydd yn cael ei drin fel trosedd ddisgyblu gan arwain, os yn briodol, at weithred ddisgyblu.

Telerau ac Amodau Ymrwymo / Cyflogaeth

5. Mae’r Cyngor yn sicrhau bod y telerau a’r amodau cyflogaeth / telerau ymrwymo’n rhydd o bob math o wahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol. Ni orfodir unrhyw ddarpariaeth, arfer na maen prawf na ellir ei gyfiawnhau, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, os yw’n peri anfantais i weithiwr ar sail ei ryw ef neu hi, ei statws priodasol, ei dueddiad rhywiol, ei oedran, ei darddiad ethnig, ei liw, ei genedlaetholdeb, ei grefydd neu am reswm yn ymwneud ag anabledd ganddo ef neu hi.

Hyfforddiant, Datblygiad Gyrfaol a Dyrchafiad

6. Mae pawb yn derbyn hyfforddiant priodol i’w galluogi i wella eu perfformiad ac i gyrraedd y safonau a’r targedau perfformio a osodwyd ar eu cyfer.

7. Mae’r Cyngor hefyd yn sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a datblygiad gyrfaol priodol ar gael ar lefel gyfartal i bawb.

8. Seilir pob dyrchafiad oddi mewn i’r Cyngor ar rinweddau personol ac ar ofynion y swydd.

Monitro Cyfleoedd Cyfartal

9. Amcan y Cyngor yw monitro effeithiolrwydd y Polisi Cyfleoedd Cyfartal hwn. Bydd y Cyngor yn adolygu pob agwedd ar ei bolisïau, ei weithdrefnau a’i arferion mewn perthynas â recriwtio, telerau ac amodau’r cyflogaeth, hyfforddiant, datblygiad gyrfaol, dyrchafiad a chwynion a disgyblu er mwyn canfod unrhyw dueddiadau neu batrymau a ddaw i’r amlwg ac, os ceir hyd i dueddiadau neu batrymau, bydd yn eu dadansoddi i weld a oes modd cyfiawnhau’r rhain ai peidio. Bydd y Cyngor yn ceisio canfod a chymryd camau angenrheidiol i ddileu unrhyw wahaniaethu na ellir ei gyfiawnhau a ddatgelir fel rhan o’r broses fonitro hon.

Dyletswyddau Rheolwyr

10. Os daw rheolwr yn ymwybodol o honiad o wahaniaethu yn erbyn cydweithiwr neu aelod o’r cyhoedd mewn perthynas â gweithgareddau’r Cyngor, mae’n rhaid iddo (pa un ai oes cwyn ffurfiol wedi’i chyflwyno ai peidio) drafod y mater gyda’r sawl sy’n cwyno ac, oni bai fod yr unigolyn yn gwneud cais am weithredu fel arall, rhoi gwybod am y gwyn i’r Rheolwr Adnoddau Dynol.

Cyfrifoldeb y Cyngor

11. Mae’n rhaid i’r Cyngor gymryd camau rhesymol i sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu’n digwydd. Os dewch yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau honedig yn ymwneud â gwahaniaethu annheg, mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt i’r Rheolwr Adnoddau Dynol. Os ydych yn credu bod rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn neu’n eich erlid, gallwch godi’r mater gyda’r person yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn a / neu’r Rheolwr Adnoddau Dynol, heb fod angen gwneud cwyn ffurfiol. Fe’ch anogir i ddefnyddio’r weithdrefn gwyno sydd wedi’i datgan yn Llawlyfr y Staff.