Sportsmatch Cymru
Y Cynllun Denu Nawdd gan Fusnes ar gyfer Chwaraeon
Mae’r cynllun hwn yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y sector masnachol a datblygiad chwaraeon ar lefel gyffredin. Mae’r dyfarniadau’n amrywio o leiafswm o £300 (hyd at dri noddwr yn gallu cyfrannu’r swm yma – fel rheol, £100 y noddwr) i uchafswm o £50,000 ar gyfer pob ymgeisydd. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cyfateb eich nawdd £ am £.
Beth sy’n gymwys ?
Cytundebau nawdd sydd naill ai’n cynnwys buddsoddiad newydd neu ychwanegol gan fusnes.
Pwy sy’n gymwys ?
Unrhyw glwb / cymdeithas chwaraeon gyda chyfansoddiad priodol, neu awdurdod lleol, a noddir gan sefydliad masnachol.
Sut i wneud cais - Cysylltwch â swyddfa ranbarthol agosaf Cyngor Chwaraeon Cymru
Fel dewis arall, gallwch lwytho’r ffurflenni cais a gwybodaeth bellach o’r Adran Llwytho Grantiau a Chyllid.
