Mân-Grantiau
Mae mân-grantiau’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd neu well i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Defnyddir y cynllun yn eang gan y Cyngor i annog unigolion, teuluoedd a chymunedau i fod yn fwy egnïol.
Gellir dyfarnu grantiau sy’n werth rhwng £750 a £10,000. Ni all cyfanswm costau’r prosiect fod yn fwy na £12,500.
Sut i wneud cais - Cysylltwch â swyddfa ranbarthol agosaf Cyngor Chwaraeon Cymru a fydd yn darparu gwybodaeth bellach i chi.
