Sut allwn ni helpu...?

Y Gist Gymunedol

Arian

Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw’r Gist Gymunedol ar gyfer chwaraeon a hamdden gorfforol cymunedol.

Mae’r Gist Gymunedol yn cynnig grantiau o hyd at £1,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis ar gyfer gweithgareddau sy’n:

  • Annog mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach
  • Codi safonau’r gweithgareddau presennol

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw grŵp, ar yr amod bod ganddo gyfrif banc yn enw’r sefydliad.

Fel rheol, bydd y Gist Gymunedol yn ystyried yr holl gostau cysylltiedig â sicrhau bod prosiect yn llwyddiannus. Fel rheol, dim ond ar gyfer hyd at 20 o sesiynau y darperir cymorth grant i brosiect ac wedi hynny, mae disgwyl i brosiectau fod yn hunangynhaliol.

Er mwyn gwneud cais i’r Gist Gymunedol, dylech gyflwyno cais i Swyddog Cist Gymunedol eich Awdurdod Lleol. Gallwch lawrlwytho ffurflen gais o’n tudalen lawrlwytho.

Cyn i chi gwblhau’r ffurflen gais, gwnewch yn siwr eich bod yn edrych ar y ‘Deg Prif Awgrym’.

Ar gael yma mae dyddiadau panelau y Gist Gymunedol yn eich hardal chi.

BETH NAD YW’R CYNLLUN YN EI GEFNOGI:

Nid yw’r Gist Gymunedol yn agored i aelodau unigol o’r cyhoedd, ysgolion cynradd na chyrff cysylltiedig yn trefnu gweithgareddau ar gyfer plant, nac ysgolion uwchradd sy’n rhan o’r cynllun 5x60.

Hefyd, ni ellir cyllido’r gweithgareddau a ganlyn:

  • Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawns perfformiad neu sgiliau syrcas
  • Gweithgareddau sy’n bodoli eisoes
  • Gweithgareddau prif lif a gyllidir gan y llywodraeth ganolog neu llywodraeth leol
  • Prosiectau a ystyrir fel rhai’n rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol y sefydliad.

Neu’r elfennau a ganlyn mewn prosiectau:

  • Cefnogaeth ariannol i unigolion
  • Eitemau personol o ddillad, offer neu git
  • Costau gweinyddol parhaus
  • Arlwyo a lletygarwch
  • Medalau, tystysgrifau neu dlysau
  • Teithiau cartref neu dramor
  • Cyfnewid, atgyweirio neu gynnal a chadw parhaus ar offer presennol.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â Swyddog Cist Gymunedol yn eich Awdurdod Lleol.