Sut allwn ni helpu...?
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithredu nifer o gynlluniau cyllido sy’n ceisio cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yng Nghymru. Gall sefydliadau cymwys wneud cais am gyllid gan unrhyw un o’r cynlluniau y manylir yn eu cylch.
Rhybudd - Chwaraeon Peryglus
Ar gael yma mae manylion y campau peryglus lle mae angen i fudiad sy’n gwneud cais i dadogi i’r corff llywodraethu perthnasol cyn ceisio am grant.
Ariannu Cymunedol:
Y Gist Gymunedol:
Cynllun cymorth grant a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw hwn. Ei nod yw annog mwy o bobl i fod yn egnïol yn amlach. Y grant uchafswm a ddyfernir mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yw £750. Cynyddir y swm yma i £1,000 o 1af Ebrill 2007.
Sportsmatch Cymru:
Cynllun denu nawdd gan fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn, yn cael ei reoli gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru'n cyllido prosiectau sy'n datblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y gymuned.
Mae grantiau o £1,001 i £25,000 ar gael ar gyfer prosiectau’n cynnwys cyfleusterau bychain, gall prosiectau arbennig dderbyn hyd at £50,000.
Coach Cymru:
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithio’n agos gyda Chyrff Rheoli Cenedlaethol, SportsCoach UK a Cholegau i ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi i hyfforddwyr.
Élite Cymru:
Mae Élite Cymru’n gynllun arall a gyllidir gan y Loteri, yn ceisio darparu’r gefnogaeth maent ei hangen i gyrraedd eu llawn botensial i gystadleuwyr gorau Cymru.
Cefnogaeth i Ddatblygu Teithiau Tramor:
Mae’r cynllun hwn o gymorth i gyllido teithiau tramor a fydd yn gwella datblygiad camp.
