Sut allwn ni helpu...?

Sut allwn ni helpu...?

AriannuMae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithredu nifer o gynlluniau cyllido sy’n ceisio cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yng Nghymru. Gall sefydliadau cymwys wneud cais am gyllid gan unrhyw un o’r cynlluniau y manylir yn eu cylch.

Y Cynlluniau Sydd Ar Gael:

Coach Cymru:
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithio’n agos gyda Chyrff Rheoli Cenedlaethol, SportsCoach UK a Cholegau i ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi i hyfforddwyr.

Y Gist Gymunedol:
Cynllun cymorth grant a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw hwn. Ei nod yw annog mwy o bobl i fod yn egnïol yn amlach. Y grant uchafswm a ddyfernir mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yw £750. Cynyddir y swm yma i £1,000 o 1af Ebrill 2007.

Élite Cymru:
Mae Élite Cymru’n gynllun arall a gyllidir gan y Loteri, yn ceisio darparu’r gefnogaeth maent ei hangen i gyrraedd eu llawn botensial i gystadleuwyr gorau Cymru.

Mân-Grantiau:
Mae mân-grantiau’n darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd, ychwanegol neu well i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Cefnogaeth i Ddatblygu Teithiau Tramor:
Mae’r cynllun hwn o gymorth i gyllido teithiau tramor a fydd yn gwella datblygiad camp.

Sportsmatch Cymru:
Cynllun denu nawdd gan fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn, yn cael ei reoli gan Gyngor Chwaraeon Cymru.