Trefnu Gweithgareddau yn Eich Cymuned

Grwpiau Hamdden a Diddordebau Eraill

I drefnu tapddawns, tai chi a pilatesEfallai na fyddwch yn derbyn hynny, ond efallai fod gennym lawer yn gyffredin! Yn union fel chi, rydym ni’n poeni am les pobl – yr unig wahaniaeth yw’r ffordd yr ydym yn gwneud hynny.

Ymarfer a ffitrwydd yw ein bara menyn. Efallai mai’r amgylchedd, hanes lleol, addysg, atal troseddau neu nifer o weithgareddau eraill cysylltiedig â’ch cymuned sy’n mynd â’ch bryd chi.

Y ffactor gyffredin yw pobl. Waeth beth ydych yn ei gynnig drwy gyfrwng eich grwp, rydych yn gwella bywydau pobl fwy na thebyg. O Sefydliad y Merched i Weight Watchers, y Girl Guides i grwpiau dawns, mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, rydych yn gwneud gwahaniaeth.

Mae ein nod yr un fath felly.

Drwy gyflwyno gweithgarwch corfforol yn eich cyfarfodydd, byddwch yn helpu eich aelodau ac yn cryfhau eich grwp. Pa un ai ydych yn cynnig dosbarthiadau dawns, aerobics, tenis bwrdd neu ioga, gall ychwanegu elfen o ffitrwydd ganolbwyntio meddwl pawb a chynnal diddordeb eich aelodau.

Astudiaethau achol perthnasol:

I ddarganfod sut mae’r prosiect Octopws yn Ystradgynlais wedi trefnu y dosbarthiadau dawns, cliciwch yma

Dyma aelodau Sefydliad y Merched yn Rhayader yn glanhau’r llwch o’u esgidiau rhedeg diolch i grant Gist Gymunedol. I ddarganfod mwy cliciwch yma.

Mae Ambiwlans Sant Ioan wedi ychwanegu beiciau i’w llynges o ambiwlansiau diolch i grant Gist Gymunedol. Darllenwchmwy yma.

Cyflwyniad Sector Corfforedig Gwirfoddol CChC

Os ydych yn awyddus i sbardino rhywbeth i ddigwydd yn eich mudiad neu cymuned, pam lai na taflu golwg dros y cyflwyniad hwn a gweld rhai o’r prosiectau sydd wedi’u cefnogi gan Cyngor Chwaraeon Cymru hyd hyn (nodwch bydd yn cymryd peth amser i’r ddogfen lwytho lawr):

Cyflwyniad Gwirfoddol